Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

1 Apeliadau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

1.1 Mae’r canllaw hwn yn bwysig i chi. Os cyflwynwyd copi o hysbysiad gorfodi i chi eisoes, darllenwch hwn ar unwaith.

1.2 Bwriad y wybodaeth hon, a baratowyd gennym, yw helpu unrhyw un y cyflwynwyd copi o hysbysiad gorfodi iddynt i benderfynu a oes sail dros apelio i’r Cynulliad, ac os felly, sut i apelio.

1.3 Nid yw’r canllaw hwn yn rhan o’r hysbysiad gorfodi. Mae’n seiliedig ar ddarpariaethau perthnasol Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (Atodiad 6). Mae’r canllaw yn ymwneud ag apeliadau a wnaed ar neu ar ôl 1 Mawrth 2003 o dan y rheolau a’r rheoliadau newydd a restrir yn Atodiad 5 (tudalennau 55-6). Ceir mwy o wybodaeth gynhwysfawr am y polisi ar gyfer gorfodi rheolaeth gynllunio yn ‘Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 9: Gorfodi Rheoli Cynllunio’ a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa Gymreig ym 1997. Cynhwysir cyngor manwl ar ddarpariaethau gorfodi cynllunio yng Nghylchlythyr 24/97 yr hen Swyddfa Gymreig, sydd ar gael o’r Llyfrfa a thrwy siopau llyfrau (gweler Atodiad 5).

Pa un a ddylid apelio

1.4 Mae’n rhaid i chi weithredu’n gyflym wrth benderfynu a ddylid apelio. Mae’n rhaid gwneud unrhyw apêl cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad i rym (y ‘dyddiad gweithredol’).

1.5 Gall eich awdurdod cynllunio lleol (ACLl) gyflwyno hysbysiad gorfodi i chi pan fyddant o’r farn eich bod wedi torri rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd am eu bod o’r farn bod yr hyn a wnewch, neu a wnaethoch, yn amharu ar eich cymdogaeth. Dylech gofio hyn wrth ystyried pa un a ddylid apelio.

1.6 Cyn i chi benderfynu apelio, ystyriwch yn ofalus resymau’r ACLl dros gyflwyno’r hysbysiad gorfodi i chi.

Pryd i apelio

1.7 Mae’n rhaid i ni dderbyn eich apêl gorfodi, neu mae’n rhaid i chi ei hanfon drwy’r post er mwyn i ni ei derbyn yn ystod y cyfnod arferol ar gyfer post, cyn y dyddiad y daw’r hysbysiad i rym. Dangosir y dyddiad hwn ar eich hysbysiad gorfodi a dylai fod o leiaf 28 diwrnod o’r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad gorfodi i chi. Ni ddylech aros tan yr ychydig ddyddiau olaf. Os gwnewch hynny, ac os bydd unrhyw beth yn mynd o’i le, gallai fod yn rhy hwyr i unioni pethau. Bydd hyn yn golygu bod eich apêl gorfodi ‘yn hwyr’ ac ni allwn ei derbyn.

1.8 Dylai’r ACLl fod wedi anfon tri chopi o’r ffurflen apelio atoch gyda’r; llyfryn hwn a dau gopi o’u hysbysiad gorfodi. Ond os nad oes gennych ffurflen apelio, ac ni allwch gael un yn gyflym, gallwch apelio drwy lythyr.

Pwy all apelio

1.9 Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y tir apelio, pa un a chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt ai peidio. Fel arfer, y perchennog, y tenant neu’r prydleswr yw hwn. Gall cwmni morgeisi neu fenthyciwr arall hefyd fod â diddordeb.

1.10 Gall unrhyw un sy’n meddiannu’r tir â chaniatâd y perchennog apelio hefyd. Ond ni all tresmaswyr apelio, hyd yn oed os cyflwynwyd copi o’r hysbysiad iddynt.

1.11 Os bydd rhywbeth yn aneglur i chi, efallai y byddai o gymorth i chi gysylltu â chynghorydd proffesiynol, fel cyfreithiwr, ymgynghorydd cynllunio tref, syrfëwr neu brisiwr. Neu efallai y byddai’n well gennych drafod y mater gyda’ch canolfan Cyngor ar Bopeth yn gyntaf.

1.12 Weithiau, bydd gan fwy nag un person ddiddordeb cyfreithiol yn y tir y mae hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef, ac efallai y bydd eu diddordebau gwahanol yn gwrthdaro â’i gilydd. Er enghraifft, efallai y bydd perchennog y tir am i’r hysbysiad gorfodi gael ei gadarnhau, tra bydd deiliad y tir am barhau â’r defnydd presennol ohono. O dan yr amgylchiadau hyn, cyfrifoldeb pob person â diddordeb cyfreithiol yw penderfynu ar y dull gorau o wasanaethu eu diddordebau unwaith y cyflwynwyd hysbysiad gorfodi.

1.13 Cynghorir pob perchennog tir yn gryf i ystyried y canlyniadau drostynt hwy eu hunain os na fyddant yn apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi a gefnogir ganddynt, ond y mae rhywun arall yn apelio yn ei erbyn. Os bydd hyn yn digwydd, ‘person â diddordeb’ fydd statws y perchennog, yn hytrach na ‘phrif barti’ yn yr apêl. Nid yw hyn yn rhoi hawl i’r perchennog gael copi o’r holl gynrychioliadau a wnaed gennych chi a phobl eraill â diddordeb (er y gallai’r perchennog weld cynrychioliadau o’r fath yn swyddfeydd yr ACLl).

1.14 Pan na fydd perchennog tir am apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi, ond bydd yn teimlo bod statws ‘person â diddordeb’ yn anfoddhaol mewn perthynas ag apêl gorfodi (er enghraifft, apêl a wnaed gan denant), gellir gwneud trefniadau arbennig i ddiogelu diddordeb y perchennog yn yr apêl. Bydd hyn yn cynnwys trin y perchennog fel ‘perchennog â diddordeb’ at ddiben yr apêl.

1.15 Caiff rhywun y rhoddir statws gweinyddol ‘perchennog â diddordeb’ iddo ei drin yn yr un modd ag apelydd. Rhoddir cyfle i fynychu unrhyw ymchwiliad lleol, neu i fod yn bresennol yn ystod yr arolygiad o’r safle gan yr Arolygydd, ac i weld unrhyw gynrychioliadau ysgrifenedig a wnaed gan y prif bartïon ac unrhyw bobl eraill â diddordeb, a gwneud sylwadau arnynt, wrth i’r apêl ddatblygu. Os ydych yn berchennog tir a’ch bod am gael statws ‘perchennog â diddordeb’ mewn apêl rhywun arall yn erbyn hysbysiad gorfodi, dylech ein hysbysu cyn gynted ag y gwyddoch fod apêl gorfodi wedi’i gwneud.

Y Gymraeg

1.16 Rydym yn cyflwyno gwasanaeth o’r un safon i’n cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.

1.17 Cydnabyddwn y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn yn well yn eu dewis iaith. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg.

1.18 Gall unrhyw un sydd am siarad mewn ymchwiliad neu wrandawiad yn Gymraeg wneud hynny, ond byddai o gymorth pe gallech hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio ymlaen llaw er mwyn iddynt wneud trefniadau.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English