Gwneud eich apêl gorfodi2 Hysbysiadau tor-amod a hysbysiadau atal2.1 Ni allwch apelio i’r Cynulliad yn erbyn hysbysiadau o’r math hwn. 2.2 Ffordd arall a ddefnyddir gan yr ACLl o sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amod mewn caniatâd cynllunio yw trwy gyflwyno ‘hysbysiad tor-amod’. Gellir ei gyflwyno yn ogystal â hysbysiad gorfodi, neu yn lle hysbysiad gorfodi. Mae methu â chydymffurfio â’i ofynion yn drosedd. Ond mae hawl i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi sy’n datgan nad ydych wedi bodloni amod cynllunio. Bydd yr ACLl yn nodi’n glir pa fath o hysbysiad a gyflwynwyd. 2.3 Mae ‘hysbysiad atal’ yn hysbysiad ar wahân i hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd gan yr ACLl, ond mae’n ymwneud yn uniongyrchol ag ef. Os bydd yr ACLl yn cyflwyno hysbysiad atal i chi, byddant fel arfer yn gwneud hynny am eu bod o’r farn eich bod wedi torri rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio mewn modd difrifol. Gall atal gweithgaredd ar y tir ar unwaith. Os na wnewch yr hyn a ddywed, gall yr ACLl eich erlyn am y drosedd honno ar unwaith, yn y Llys Ynadon neu Lys y Goron. Gallai hyn arwain at ddirwy. Os credwch fod penderfyniad yr ACLl i gyflwyno hysbysiad atal i chi yn annheg, dylech ofyn iddynt drafod y mater gyda chi ar unwaith. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |