Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

3 Sut i wneud eich apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi

3.1 Gallwch anfon eich apêl atom drwy’r post, dros y ffacs, dros yr e-bost neu ei chyflwyno â llaw i’r cyfeiriad isod. Dylech gadw’r adroddiad trosglwyddo ffacs, a’r rhifau dosbarthiad wedi’i gofnodi, neu os dosbarthwch eich apêl â llaw, gofynnwch am dderbynneb.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Llinell gymorth: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

3.2 Os bydd eich apêl yn cyrraedd ‘yn hwyr’, caiff y marc post ar yr amlen ei archwilio i weld a ddylai’r apêl fod wedi’i derbyn fel arfer cyn y dyddiad y daeth yr hysbysiad gorfodi i rym, yn ôl y tâl post a dalwyd. Ond os na fydd y marc post yn glir ac os na allwch ddarparu prawf eich bod wedi anfon yr apêl gyda’r post er mwyn iddi gael ei derbyn cyn y dyddiad hwnnw, ni dderbynnir eich apêl.

3.3 Dylech gwblhau tri chopi o’r ffurflen apelio. Anfonwch un atom ni, anfonwch un i’r ACLl ac mae’r llall i chi ei gadw. Gallwch ddefnyddio ffurflenni apelio oddi ar ein gwefan. Ein cyfeiriad ar y we yw: www.planning-inspectorate.gsi.gov.uk

Sail yr apêl

3.4 Gellir gwneud eich apêl gorfodi ar unrhyw sail yn adran 174 (2) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991. Os penderfynwch apelio, dylech nodi sail yr apêl yn y blwch priodol ar y ffurflen apelio. Gellir cyflwyno unrhyw sail arall i’r apêl os credwn fod cyfiawnhad drostynt. Ceir crynodeb o bob sail isod. Bydd yn rhaid i chi ystyried pa rai sy’n berthnasol i’ch apêl.

3.5 Sail (a)

Dylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer yr hyn a honnir yn yr hysbysiad gorfodi, neu dylid cyflawni’r amod yr honnir na chydymffurfiwyd ag ef.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi am y cais cynllunio tybiedig, sy’n rhan o bob apêl gorfodi, er mwyn ystyried y sail hon. Mae hyn yn digwydd am fod y cais tybiedig a sail (a) yn codi’r un materion â chais cynllunio. Dylai’r nodiadau a atodir i’r hysbysiad gorfodi nodi a oes angen talu ffi a faint fydd y ffi hon. Yna, gallwch anfon y ffi gyda’ch apêl, os ydych am i’r Arolygydd ystyried rhinweddau cynllunio eich achos. Os na fyddwch yn anfon y ffi gyda’ch ffurflen apelio, byddwn yn nodi a oes ffi yn daladwy, y swm y bydd yn rhaid ei dalu ac erbyn pryd y bydd yn rhaid i ni ei dderbyn. Byddai’n rhaid talu unrhyw ffi i’ch ACLl a’r Cynulliad. Os mai dyma’r unig sail a gyflwynwch ac nid oes rhaid i chi dalu’r ffi, bydd eich apêl yn mynd yn ddi-rym. Mae hyn yn golygu y daw eich apêl i ben. Rhoddir mwy o wybodaeth am ffioedd ar dudalen 21.

3.6 Mewn ychydig iawn o achosion, efallai y bydd angen “Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” hefyd cyn y gellir ystyried rhinweddau cynllunio’r cais cynllunio tybiedig.

3.7 Fel arfer, bydd yr hysbysiad gorfodi yn nodi rhesymau’r ACLl dros ei gyflwyno ac yn crynhoi eu gwrthwynebiadau cynllunio. Bydd yn egluro’r rhesymau a fyddai wedi bod ganddynt dros wrthod caniatâd cynllunio, pe byddai cais wedi’i wneud iddynt. Er enghraifft, gallai’r ACLl ystyried bod hyn wedi amharu ar yr amodau byw yn yr ardal, neu fod eu polisi o ran ardaloedd dynodedig arbennig mewn perygl.

3.8 Wrth benderfynu cyflwyno hysbysiad gorfodi, byddai’r ACLl wedi ystyried eu polisïau o ran y cynllun datblygu yn gyntaf. Os oes gan y cynllun rywbeth i’w ddweud am y math o ddatblygu sy’n ymwneud â’ch achos, bydd yr awdurdod wedi dilyn y cynllun, oni fydd cydbwysedd yr ystyriaethau eraill yn mynd yn groes i hyn. Nodir y Polisi cynllunio cenedlaethol ym Mholisi Cynllunio Cymru a’r Nodiadau Cyngor Technegol, sydd ar gael o’r Llyfrfa a siopau llyfrau mawr. Fel arall, gallwch edrych ar y rhain, a chynllun datblygu’r ACLl, yn swyddfeydd eich Cyngor, ar wefan y Cynulliad: www.wales.gov.uk neu gallwch ddod o hyd iddynt yn eich llyfrgell gyhoeddus leol.

3.9 Sail (b)

Nid yw’r tor-rheolaeth cynllunio a honnir yn yr hysbysiad gorfodi wedi digwydd mewn gwirionedd.

3.10 Sail (c)

Ni fu achos o dor-rheolaeth cynllunio.

Er enghraifft, oherwydd (yn dibynnu ar yr hyn y mae’r hysbysiad gorfodi yn ei honni):

  • nad oedd y newid i’r defnydd o’r tir yn un sylweddol; neu
  • nad oedd y gwaith a honnwyd yn yr hysbysiad wedi arwain at ddatblygu; neu
  • cydymffurfiwyd â’r amod perthnasol a osodwyd ar y caniatâd gan fod yr ACLl wedi camddehongli gofynion yr amod hwnnw; neu
  • roedd yr hyn a wnaed neu a adeiladwyd o fewn telerau’r caniatâd cynllunio presennol; neu
  • roedd y newid i’r defnydd o’r tir, neu godi adeiladau arno, yn ddatblygiad a ganiatawyd gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) a oedd mewn grym pan ddigwyddodd y datblygu (neu, yn achos gwaith, pan ddechreuodd); neu
  • roedd unrhyw newid i’r defnydd o’r tir o fewn yr un ‘dosbarthiad defnydd’ yn y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) a oedd mewn grym pan ddigwyddodd y newid.
    (Enghreifftiau yw’r rhain, nid rhestr gyflawn.)

3.11 Sail (d)

Pan gyflwynwyd yr hysbysiad gorfodi, roedd yn rhy hwyr i gymryd camau gorfodi yn erbyn y materion a nodwyd yn yr hysbysiad.

Os gallwch ddangos bod y datblygiad wedi digwydd mwy na phedair neu ddeng mlynedd cyn i’r hysbysiad gael ei gyflwyno, gallwch fel arfer apelio ar sail (d) o dan yr amgylchiadau a eglurir isod:

  • Pedair blynedd: datblygiad gweithredol a defnydd fel anhedd-dy unigol
    - os cynhaliwyd a chwblhawyd y rhan fwyaf o’r gwaith adeiladu, peirianneg, cloddio neu waith eraill heb ganiatâd cynllunio;
    - os newidiwyd y defnydd o unrhyw adeilad i’w ddefnyddio fel
    anhedd-dy unigol;
    - os methwyd â chydymffurfio ag amod caniatâd cynllunio sy’n gwahardd defnyddio adeilad fel anhedd-dy unigol.
  • Deng mlynedd: newid defnydd
    - os honnir unrhyw achos arall o dor-rheolaeth cynllunio, fel newid y defnydd o unrhyw dir;
    - os na fyddwch wedi bodloni unrhyw amod neu gyfyngiad arall y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo.
    (Mae’r cyfnod o ddeng mlynedd yn rhedeg o’r dyddiad y torrwyd yr amod, nid o’r dyddiad y rhoddwyd y caniatâd y gosodwyd yr amod arno).

    Yn eithriadol, gall yr awdurdod gyflwyno hysbysiad gorfodi y tu allan i’r cyfnodau o bedair neu ddeng mlynedd os gallant ddangos eu bod wedi cymryd camau gorfodi, neu os credant eu bod wedi gwneud hynny, yn ôl y galw, o fewn pedair neu ddeng mlynedd i’r dyddiad y torrwyd y rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio yn gyntaf. Os felly, nid yw apêl ar sail d yn debygol o lwyddo.

3.12 Sail (e)

Ni chyflwynwyd yr hysbysiad yn gywir i bawb â diddordeb yn y tir.

Hyd yn oed os llwyddwch ar y sail hon, dylech fod yn ymwybodol y gallai’r Arolygydd neu’r Cynulliad ddiystyru’r mater. Mae’n dibynnu a ydynt o’r farn bod methu â chyflwyno copi o hysbysiad i berson wedi peri anghyfiawnder i’r person hwnnw.

3.13 Sail (f)

Mae’r camau sydd angen eu cymryd i gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad gorfodi yn ormodol a byddai camau llai yn goresgyn y gwrthwynebiadau.

Nodwch pam y credwch fod yr hyn sy’n ofynnol yn yr hysbysiad yn fwy na’r hyn sydd ei angen. Ni allwch ddadlau y dylid rhoi caniatâd cynllunio o dan y sail hon. Er mwyn rhoi caniatâd cynllunio, naill ai’n llawn neu’n rhannol, bydd yn rhaid i chi dalu ffi fel arfer. Gweler y cyngor o dan sail (a) uchod. Rhoddir mwy o wybodaeth am ffioedd ar dudalen 21.

3.14 Sail (g)

Mae’r amser a roddir i gydymffurfio â’r hysbysiad yn rhy fyr.

Dylech nodi’r hyn sydd yn gyfnod mwy rhesymol yn eich barn chi a pham.

Nodi’r ffeithiau

3.15 Yn ogystal â nodi’r sail y gwnaed yr apêl arni, yn adran 174(2) o’r Ddeddf a nodwyd uchod, mae’n rhaid i’ch apêl nodi’r ffeithiau sy’n ategu pob sail ddewisol yr apêl.

3.16 Os na fyddwch yn darparu digon o ffeithiau pan wneir eich apêl yn gyntaf, byddwn yn gofyn am ragor. Byddwn yn gosod terfyn amser o 14 diwrnod er mwyn i chi ddarparu’r ffeithiau. Mae gennym y pwer i wrthod eich apêl, neu i beidio ag ystyried sail benodol yr apêl, os na fyddwch yn darparu rhagor o ffeithiau neu wybodaeth o fewn y terfyn amser.

3.17 Dylech ystyried y ffeithiau y byddwch yn dibynnu arnynt yn ofalus a cheisio gwneud yn siwr nad ydych yn drysu rhwng ffeithiau a sail yr apêl. Os byddwch yn apelio, gallwch nodi eich dadleuon yn ogystal â’r ffeithiau, os dymunwch. Ond bydd yn rhaid i chi nodi o leiaf y prif ffeithiau y seilir eich apêl arnynt, a dylech eu cysylltu â sail yr apêl, os gallwch wneud hynny. Nid yw’n ddigon copïo geiriad sail yr apêl neu ei rhoi mewn geiriau gwahanol.

3.18 Os byddwn o’r farn bod unrhyw un o’ch cynrychioliadau yn cynnwys sylwadau hiliol, sarhaus neu enllibus, byddwn yn eu dychwelyd atoch cyn i’r Arolygydd eu gweld. Os byddwch yn dileu’r sylwadau hiliol neu enllibus, gallwch ddychwelyd eich sylwadau atom. Ond mae’n rhaid i ni eu derbyn cyn i’r terfyn amser ddod i ben.

Enghreifftiau o ffeithiau

3.19 Mewn apêl ar sail (a)

Gallai’r materion y credwch y dylem eu hystyried gynnwys, er enghraifft, unrhyw ddarpariaeth berthnasol o’r cynllun datblygu neu’r polisi cynllunio cenedlaethol y credwch ei bod yn ategu’r hyn a wnaethoch. Efallai y byddwch am dynnu sylw’r Arolygydd at fanylion y defnydd neu’r gwaith sy’n destun yr hysbysiad gorfodi, cymeriad yr ardal o amgylch, y defnyddiau ar gyfer eiddo sy’n ffinio â safle’r apêl neu sydd gerllaw, ers faint o amser y parhaodd y defnydd ac a yw unrhyw gymdogion wedi cwyno i chi am y gweithgaredd yn ystod y cyfnod hwnnw.

3.20 Os na fyddwch am apelio ar sail (a), dylech ystyried a ydych am dalu’r ffi ar gyfer y cais cynllunio tybiedig. Os byddwch yn talu’r ffi, bydd yn rhaid i’r Arolygydd ystyried y cais tybiedig, er ei bod yn bosibl na fyddwch wedi apelio ar sail (a). Os talwch y ffi, dylech ddarparu’r ffeithiau hyn er mwyn i’r Arolygydd eu hystyried wrth benderfynu ar y cais tybiedig.

3.21 Mewn apêl ar sail (b)

Mae’r sail hon yn caniatáu i chi daeru nad yw honiad y Cyngor yn yr hysbysiad wedi digwydd mewn gwirionedd. Felly, dylech nodi’r ffeithiau perthnasol a dangos sut y maent yn wahanol i’r hyn a honnir yn yr hysbysiad.

3.22 Mewn apêl ar sail (c)

Beth bynnag yw’r honiad, dylech egluro’n union pam y credwch na fu achos o dor-rheolaeth cynllunio. Er enghraifft, pan honnir yn yr hysbysiad mai newid defnydd yr eiddo yn sylweddol heb ganiatâd cynllunio yw’r honiad yn yr hysbysiad, dylech egluro, cyhyd ag y gallwch, pa ddefnydd a wnaed o’r tir yn flaenorol pan ddechreuwyd ei ddefnyddio ac a gafodd ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio sy’n parhau i fod yn ddilys ar gyfer yr hyn a wnewch. Os bydd yr hysbysiad gorfodi yn honni bod amod sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio wedi ei dorri, nodwch pa gamau a gymerwyd i gydymffurfio â’r amod. Os bydd yn ymwneud â gwaith y credwch ei fod yn ddatblygiad a ganiateir yn ôl Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir), nodwch pam eich bod yn credu hynny. Os ydych yn ansicr ynghylch yr hyn sydd ei angen, nodwch yn gryno, gan gynnwys y dyddiadau perthnasol, ba ganiatâd a roddwyd mewn perthynas â’r tir, y defnyddiau amrywiol a gyflawnir ar yr eiddo, neu’r gwaith adeiladu neu waith arall a gynhelir.

3.23 Mewn apêl ar sail (d)

Nid yw’n ddigon dweud: ‘Digwyddodd y tor-rheolaeth cynllunio fwy na deng mlynedd yn ôl’, neu ‘Cwblhawyd yr adeilad mwy na phedair blynedd cyn i’r hysbysiad gael ei gyflwyno’ neu ‘Digwyddodd y newid i’r defnydd presennol fwy na deng mlynedd yn ôl’. Ond gallech ddweud, er enghraifft: ‘Dechreuwyd y defnydd presennol gan y diweddar Mr George Smith yn ystod haf 1990. Parhaodd â’r defnydd hyd nes iddo farw ym 1997. Yna, prynais yr eiddo ac rwyf wedi parhau â’r un defnydd yn ddi-dor tan nawr’, neu ‘Cloddiwyd y sylfeini ar gyfer yr adeilad ym mis Mawrth 1998. Aeth y gwaith yn ei flaen yn araf i ddechrau gan fod yr adeiladwr a gyflogais yn gwneud gwaith arall, ond dechreuodd gwaith llawn amser ar yr adeilad yn ystod yr haf yn y flwyddyn honno, rhoddwyd teils ar y to erbyn diwedd mis Medi ac roedd yr adeilad bron wedi’i gwblhau ac yn barod i’w ddefnyddio erbyn canol mis Hydref 1998.’

3.24 Mewn apêl ar sail (e)

Nodwch enw a chyfeiriad y person rydych o’r farn y dylid cyflwyno copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt a natur ei ddiddordeb ef, neu ei diddordeb hi, (er enghraifft, cyd-berchennog, is-denant). Cyn gwneud apêl ar y sail hon, dylech wirio’n ofalus na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad i’r person dan sylw. Dylech hefyd ystyried a yw’r methiant wedi peri problem ddifrifol i chi neu’r person hwnnw. Fel arfer, nid yw’n angenrheidiol cyflwyno copi ar wahân o hysbysiad i aelodau o’r un teulu sy’n byw gyda’i gilydd.

3.25 Mewn apêl ar sail (f)

Nodwch pam y credwch fod unrhyw gam neu gamau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad gorfodi yn fwy na’r hyn sydd ei angen. Ni allwch ddadlau y dylid rhoi caniatâd cynllunio o dan y sail hon. Er mwyn rhoi caniatâd cynllunio, naill ai’n llawn neu’n rhannol, bydd yn rhaid i chi dalu ffi’r cais tybiedig fel arfer.

3.26 Mewn apêl ar sail (g)

Nodwch pam y credwch fod yr amser a ganiateir ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad gorfodi yn rhy fyr. Dylech nodi pa gyfnod a fyddai’n ddigonol yn eich barn chi, a pham.

Os ydych am herio dilysrwydd hysbysiad gorfodi

3.27 Os credwch fod yr hysbysiad gorfodi yn anghywir, o ganlyniad i’r ffordd y caiff ei ysgrifennu neu ei awdurdodi, gallwch godi’r mater ar wahân i sail ddewisol yr apêl yn erbyn yr hysbysiad. Er mwyn herio’r hysbysiad, dylech nodi eich rhesymau pan fyddwch yn cyflwyno eich apêl, gan ategu eich dadleuon gyda ffeithiau perthnasol.

3.28 Byddwn yn gofyn i’r ACLl am eu sylwadau. Efallai y penderfynwn na all eich apêl fynd yn ei blaen am nad yw’r hysbysiad gorfodi yn ddilys. Yn ddiweddarach, gallai’r ACLl gyflwyno hysbysiad gorfodi arall yn eich erbyn a bydd yn rhaid i chi anfon apêl arall atom os na fyddwch yn cytuno ag ef. Os na fydd dilysrwydd yr hysbysiad yn glir, bydd eich apêl yn mynd yn ei blaen fel arfer a bydd yr Arolygydd neu’r Cynulliad yn penderfynu ar y mater hwn.

Asesiadau o’r effaith amgylcheddol

3.30 Dim ond mewn ychydig iawn o achosion y bydd yn angenrheidiol i chi ddarparu datganiad amgylcheddol gyda’ch apêl, yn rhoi manylion am effeithiau amgylcheddol y datblygiad a ddangosir yn eich hysbysiad gorfodi. Fel arfer, bydd yr ACLl yn rhoi hysbysiad i chi (o’r enw hysbysiad rheoliad 25) yn nodi bod angen datganiad o’r fath, ar yr un adeg ag y byddant yn cyflwyno copi o’r hysbysiad gorfodi i chi. Os na fyddwch yn darparu asesiad gyda’ch apêl, neu o fewn yr amser y gofynnwn amdano, ni all yr Arolygydd ystyried y cais tybiedig ar gyfer caniatâd cynllunio na sail (a). Os credwch fod yr ACLl yn anghywir i ofyn am asesiad o’r effaith amgylcheddol, gallwch wneud cais i ni am gyfarwyddyd ynghylch pa un a oes angen un.

Dewis y weithdrefn

3.31 Y weithdrefn Ysgrifenedig

Os bydd pawb yn cytuno, a bod yr apêl yn addas, bydd yr Arolygydd yn penderfynu arni ar sail gwybodaeth a gyfnewidir yn ysgrifenedig gennych chi, yr ACLl ac unrhyw un arall sydd â barn ar eich apêl. Gallai’r wybodaeth gynnwys mapiau, cynlluniau a ffotograffau ond nid tystiolaeth lafar. Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn ymweld â’r safle.

3.32 Nid ydym yn derbyn tystiolaeth ar dâp ar gyfer apeliadau o dan y weithdrefn hon. Ni allwn wneud hyn gan na allwn fod yn sicr y bydd gan bawb sy’n ymwneud â’r apêl yr un fersiwn o’r dystiolaeth na’r offer addas i chwarae’r tâp. Gallwch anfon crynodeb ysgrifenedig o gynnwys y tâp, gan gynnwys ffotograffau.

3.33 Gwrandawiadau ac ymchwiliadau

O dan y gweithdrefnau hyn, yr Arolygydd fydd yn penderfynu pa un a ddylid ystyried tapiau fideo neu sain. Bydd ef neu hi yn eich hysbysu am eu penderfyniad pan fydd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad yn agor. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r ACLl i ganfod a oes ganddynt offer addas i chwarae’r tâp yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, neu os byddant yn caniatáu i chi ddefnyddio eich offer eich hunain.

3.34 Os na fyddwch chi, yr ACLl neu ni yn cytuno i’r weithdrefn ysgrifenedig, byddwn yn trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad lleol. Gallwch gael mwy o fanylion am y gweithdrefnau gwahanol yn adrannau 6, 7 ac 8.

3.35 Pan fyddwch yn penderfynu pa weithdrefn i’w defnyddio, dylech ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Bydd canlyniad eich apêl yn dibynnu ar y ffeithiau a’r dadleuon cynllunio.
  • Mae’r weithdrefn ysgrifenedig fel arfer yn gynt ac yn rhatach.
  • Ffordd anffurfiol o roi tystiolaeth a gwneud cyflwyniadau llafar i’r Arolygydd yw gwrandawiad. Ni chaniateir croesholi ffurfiol.
  • Gallwch chi neu’r ACLl ofyn am ymchwiliad, neu gallwn benderfynu mai dyma’r weithdrefn orau ar gyfer eich apêl.
  • Yn ystod ymchwiliad neu wrandawiad, gallwch wneud cynrychioliadau i’r Arolygydd yn bersonol a herio unrhyw dystiolaeth a gyflwynir yn erbyn eich apêl.

3.36 Er mwyn osgoi costau ychwanegol a chael penderfyniad cyn gynted â phosibl, bydd y rhan fwyaf o bobl ond yn gofyn am wrandawiad neu ymchwiliad os byddant o’r farn bod hyn yn angenrheidiol. Y weithdrefn ysgrifenedig yw’r weithdrefn fwyaf cyffredin. Efallai y byddwn yn ystyried bod ymchwiliad yn hanfodol er mwyn gwrando ar dystiolaeth gan dystion neu gynrychiolwyr, yn enwedig os byddwch wedi apelio ar sail (d).

Ffioedd

3.37 Mae pob apêl gorfodi yn cynnwys cais am ganiatâd cynllunio. Yr enw ar hyn yw ‘cais cynllunio tybiedig’. Fel arfer, mae ffi yn daladwy er mwyn ystyried hyn, sy’n ddwbl y swm a delir ar gyfer cais cynllunio arferol. Mae hanner y ffi yn daladwy i’r ACLl a’r hanner arall yn daladwy i’r Cynulliad. Ni chodir ffi am yr apêl ei hun.

3.38 Fodd bynnag, mae cysylltiad rhwng y cais cynllunio tybiedig ac apêl ar sail (a). Oni fydd yr ACLl a’r Cynulliad yn derbyn y ffi erbyn y dyddiad y gofynnwn amdani, ni ellir ystyried y cais cynllunio tybiedig nac unrhyw apêl ar sail (a). Yna, byddai eich apêl yn mynd yn ei blaen ar unrhyw sail arall a wnaed. Fodd bynnag, os mai sail (a) yw’r unig sail a gyflwynwyd gennych, byddai eich apêl yn mynd yn ddi-rym. Mae hyn yn golygu y daw i ben a daw’r hysbysiad gorfodi i rym.

3.39 Os na fyddwch yn apelio ar sail (a) ac nad ydych am i rinweddau cynllunio’r cais cynllunio tybiedig gael eu hystyried, er enghraifft, am eich bod yn gwybod na fyddech yn llwyddo i gael caniatâd cynllunio am yr hyn a wnaethoch neu dim ond ar sail arall yr ydych am apelio, nid oes diben i chi dalu’r ffi.

3.40 Pan fydd mwy nag un person wedi apelio yn erbyn yr un hysbysiad gorfodi, dim ond un person fydd yn gorfod talu’r ffi er mwyn i’r cais cynllunio tybiedig ac unrhyw apêl ar sail (a) gael eu hystyried. Os felly y mae, byddwn yn eich hysbysu. Fodd bynnag, ni ellir trosglwyddo’r ffi i berson arall os bydd y person sy’n talu’r ffi, neu’r person nad oes rhaid iddo dalu, yn tynnu ei gais yn ôl yn ddiweddarach. Eich cyfrifoldeb chi fydd penderfynu pa un a fyddwch yn talu’r ffi ai peidio os bydd hyn yn digwydd.

3.41 Os na allwch dalu’r ffi erbyn y dyddiad a roddir, gallwn ymestyn y cyfnod talu mewn amgylchiadau eithriadol, ond dim ond cyn i’r cyfnod talu ddod i ben y gellir gwneud hyn. Os teimlwch fod amgylchiadau eithriadol sy’n eich atal rhag talu’r ffi erbyn y dyddiad a roddir, rhowch wybod i ni ar unwaith. Mae’n rhy hwyr i wneud unrhyw beth os bydd y cyfnod talu wedi bod. Bydd y cais cynllunio tybiedig a’ch apêl ar sail (a) yn mynd yn ddi-rym ac ni ellir eu hadfer.

3.42 Ni fydd ffi yn daladwy:

  • Pan gynhelir gwaith datblygu yng nghartref person anabl er mwyn darparu mynediad neu gyfleusterau arbennig sydd eu hangen am ei fod ef/bod hi yn anabl.
  • Os tynnwyd hawliau ‘datblygiad a ganiateir’ yn ôl.
  • Pan fydd amod ar ganiatâd cynharach yn diddymu’r hawliau o dan y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd.
  • Os gwnaethoch gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer yr un datblygiad a ddangosir yn yr hysbysiad cyn i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi, a gwnaethoch dalu’r ffi i’r ACLl ac nid oeddech wedi derbyn penderfyniad yr ACLl ar eich cais.
  • Pan fyddwch wedi apelio i’r Cynulliad yn erbyn gwrthodiad yr ACLl i roi caniatâd cynllunio ar gyfer yr un datblygiad cyn dyddiad gweithredol yr hysbysiad gorfodi.

3.43 Bydd rhan o’r ffi arferol yn daladwy:

  • Pan fydd plwyf neu gyngor cymuned yn cyflawni’r gwaith datblygu.
  • Pan fydd clwb, cymdeithas neu sefydliad arall nad yw’n gwneud elw yn cyflawni’r gwaith datblygu ar gyfer:
    - newid y defnydd o’r tir yn faes chwarae; neu
    - cyflawni gwaith sy’n ymwneud â defnyddio’r tir fel maes chwarae (ond nid yn cynnwys adeilad).

3.44 Ad-delir y ffi:

  • Pan dynnir eich ffi yn ôl o leiaf 21 diwrnod cyn yr ymweliad â’r safle, y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol.
  • Pan fydd yr ACLl yn tynnu eu hysbysiad gorfodi yn ôl.
  • Pan fyddwch yn ennill eich apêl ar sail gyfreithiol (b), (c), (d) neu (e).
  • Pan wrthodir apêl neu hysbysiad gorfodi am eich bod chi neu’r ACLl wedi methu â bodloni’r holl weithdrefnau.
  • Pan na fydd hysbysiad gorfodi yn ddilys am resymau cyfreithiol.

3.45 Ad-delir rhan o’r ffi os telir gormod o arian ac os bydd penderfyniad yr apêl yn newid y disgrifiad o’r datblygiad yn yr hysbysiad gorfodi a dylai ffi is fod wedi’i chodi. Os bydd yr apêl yn ymwneud â lleoliad carafán, ni fydd ad-daliad yn ddyledus gan fod yr Arolygydd fel arfer yn ystyried rhinweddau cynllunio’r garafán. Mae hyn yn digwydd am fod angen caniatâd cynllunio, neu dystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon, er mwyn cael trwydded safle gan yr ACLl. Os bydd eich apêl yn llwyddo ar sail (c) neu (d), gallai’r Arolygydd roi tystysgrif defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon os byddwch wedi gofyn yn benodol iddo ef neu hi wneud hynny a byddwch wedi talu’r ffi.

Pwy fydd yn penderfynu ar eich apêl?

3.46 Rydych yn gwneud apeliadau gorfodi i’r Cynulliad. Bydd Arolygwyr Cynllunio yn penderfynu ar bron pob apêl. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu ar unrhyw apêl gorfodi, ond mae’n gwneud hynny mewn llai na 2% o achosion, fel arfer os bydd materion yn effeithio ar fwy na’r ardal leol yn unig. Ni fydd y Cynulliad yn penderfynu ar eich apêl am eich bod yn gofyn iddo wneud hynny. Ond os bydd yn gwneud penderfyniad arni, byddwn yn eich hysbysu am y rheswm.

Tynnu eich apêl yn ôl

3.47 Gallwch dynnu eich apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn i chi gael penderfyniad arni. Efallai y byddwch am wneud hyn, er enghraifft, os byddwch chi a’r ACLl yn dod i gytundeb a gallwch ddatrys eich gwahaniaethau heb orfod cynnal apêl. Os penderfynwch eich bod am dynnu eich apêl yn ôl, dylech ffonio eich swyddog achos ar unwaith ac yna ysgrifennu i gadarnhau eich bod yn tynnu’r apêl yn ôl, gan roi rhif cyfeirnod yr apêl. Dylech hefyd hysbysu’r ACLl ar unwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig os byddwn wedi trefnu ymweliad â safle, gwrandawiad neu ymchwiliad. Os byddwch yn tynnu eich apêl yn ôl heb reswm digonol ar ôl i ni wneud y trefniadau hyn, , efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau pobl eraill sy’n ymwneud â’r apêl. Mae mwy o wybodaeth am gostau yn adran 9.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English