Gwneud eich apêl gorfodi4 A oes unrhyw un arall yn ymwneud â’r apêl?4.1 Oes. ‘Pobl â diddordeb’ yw’r enw ar bobl eraill sydd â diddordeb yn eich apêl, er enghraifft grwpiau amgylcheddol neu gymdogion. Bydd cyfle ganddynt i fynegi eu barn am eich apêl gorfodi. Sut y caiff partïon eraill eu hysbysu am yr apêl?4.2 Gofynnwn i’r ACLl ysgrifennu at unrhyw un sy’n byw mewn eiddo cyfagos a phobl eraill y gallai eich apêl effeithio arnynt. Gofynnwn i’r ACLl hysbysu pobl â diddordeb am y gweithdrefnau a ddefnyddir gennym i benderfynu ar yr apêl a’r amserlen ar gyfer derbyn eu sylwadau. 4.3 Byddwn yn anfon copïau o’r sylwadau a gawn gan bobl â diddordeb atoch chi a’r ACLl. 4.4 Ar gyfer apeliadau y byddwn yn penderfynu arnynt drwy ymchwiliad neu wrandawiad, bydd yr ACLl hefyd yn hysbysu pobl â diddordeb am y trefniadau ac yn eu gwahodd i fynychu’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad. Gallant hefyd archwilio sail yr apêl a thystiolaeth ysgrifenedig yr ACLl sy’n ategu eu penderfyniad yn swyddfeydd y Cyngor. 4.5 Os cynhelir ymchwiliad, mae’n rhaid i chi roi hysbysiad, a anfonwn atoch, ar safle’r apêl. Efallai y bydd yn rhaid i’r ACLl osod hysbysiadau mewn mannau cyhoeddus a hysbysu’r papurau lleol hefyd. 4.6 Cyn i’r Arolygydd ystyried sylwadau pobl â diddordeb, bydd gennych chi a’r ACLl gyfle i weld y sylwadau a wnaed ganddynt a mynegi eich barn arnynt. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |