Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

5 Amserlen ar gyfer apeliadau

5.1 Mae angen cadw at derfynau amser pwysig. Maent yn berthnasol i’r ACLl hefyd. Pan fyddwn wedi derbyn eich apêl, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau pa weithdrefn a ddilynir. Bydd ein llythyr hefyd yn eich hysbysu am y ‘dyddiad dechrau’. Mae’r dyddiad hwn yn bwysig am ei fod yn dechrau’r amserlen ar gyfer derbyn sylwadau gennych chi a’r ACLl. Mae ein llythyr yn eich hysbysu am y terfynau amser. Os derbyniwn unrhyw beth ar ôl unrhyw un o’r terfynau amser, NI fyddwn fel arfer yn eu hystyried a byddwn yn eu dychwelyd atoch.

5.2 Mae’r amserlen a’r camau canlynol yn berthnasol i bob apêl, pa weithdrefn bynnag a ddefnyddir.

  • O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau, mae’n rhaid i chi, a ni, dderbyn holiadur gan yr ACLl wedi’i gwblhau. Byddant hefyd yn hysbysu pobl â diddordeb am yr apêl.
  • O fewn chwe wythnos i’r dyddiad dechrau, mae’n rhaid i ni dderbyn datganiad gennych chi yn nodi eich dadleuon a datganiad gan yr ACLl yn ategu eu penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad gorfodi. Byddwn yn anfon copi o’r hyn a anfonwyd gennych chi a’r ACLl, ac unrhyw sylwadau gan bobl â diddordeb (os y’u derbyniwyd mewn pryd), atoch chi a’r ACLl.
  • O fewn naw wythnos i’r dyddiad dechrau, mae’n rhaid i ni dderbyn unrhyw sylwadau ar ddatganiadau eich gilydd gennych chi a’r ACLl, a sylwadau gan bobl â diddordeb.

5.3 Mae rhai camau eraill yn berthnasol os ymdrinnir â’ch apêl drwy wrandawiad neu ymchwiliad. Ceir eglurhad o’r rhain yn adrannau 7 a 8.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English