Gwneud eich apêl gorfodi6 Y weithdrefn ysgrifenedig6.1 Rheolir yr apeliadau a bennir gan y weithdrefn ysgrifenedig gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003. Cynlluniwyd yr amserlen ar gyfer y weithdrefn ysgrifenedig i sicrhau bod yr apêl yn mynd rhagddi yn gyflym ac yn deg. Mae’r diagram yn Atodiad 1 yn dangos yr amserlen. Dylai pawb sy’n ymwneud â’r apêl gadw at yr amserlen neu mae’n debygol na chaiff eu cynrychioliadau eu hystyried. 6.2 Sail yr apêl a’r ffeithiau ategol, a nodwyd ar y ffurflen apelio, sy’n ffurfio eich achos. Os na rhowch y rhain i ni, neu os credwn fod eich sail a’ch ffeithiau yn annigonol, gallwn ofyn i chi am fwy o fanylion. Os na fyddwn yn eu derbyn mewn pryd, ni fyddwn yn ymdrin â’ch apêl ar unrhyw un o’r seiliau nad ategwyd gan ffeithiau. 6.3 Yn ôl y rheoliadau, mae’n rhaid i’r ACLl gwblhau holiadur a’i ddychwelyd atoch chi, ac atom ni, gyda dogfennau i ategu eu penderfyniad. Mae’r dogfennau hyn yn cynnwys y cynlluniau neu’r polisïau perthnasol y seiliwyd y penderfyniad i gyflwyno hysbysiad gorfodi arnynt. 6.4 Os byddwch chi, neu’r ACLl, am ychwanegu rhagor o sylwadau, mae’n rhaid i ni dderbyn dau gopi o fewn chwe wythnos i’r ‘dyddiad dechrau’. Byddwn yn anfon copi o’ch sylwadau i’r ACLl ac yn anfon copi o unrhyw beth a anfonir atom gan yr ACLl atoch chi. Byddwn hefyd yn anfon unrhyw sylwadau gan bobl â diddordeb atoch. 6.5 O fewn naw wythnos i’r dyddiad dechrau, mae’n rhaid i ni dderbyn unrhyw sylwadau ar ddatganiadau eich gilydd, ac ar sylwadau gan bobl â diddordeb, gennych chi a’r ACLl. Os derbyniwn y rhain y tu allan i’r terfyn amser, ni fyddwn yn eu hystyried heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. 6.6 Peidiwch â gwneud sylwadau yn ddiangen. Sylwadau hwyr6.7 Disgwyliwn i bawb sy’n ymwneud â’r apêl gadw at yr amserlen. Os derbyniwn gynrychioliadau gennych chi, yr ACLl neu bobl â diddordeb ar ôl i’r terfyn amser ddod i ben, ni fydd yr Arolygydd fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ar eich apêl. Fodd bynnag, gallai’r Arolygydd ofyn am ragor o wybodaeth gennych chi neu’r ACLl. Os felly, byddwn yn anfon copi o’r wybodaeth honno atoch chi neu’r ACLl. Byddwn yn caniatáu amser i chi wneud sylwadau. Ymweld â’r safle6.8 Byddwn yn anfon papurau’r apêl at yr Arolygydd. Bydd ef, neu hi, yn astudio’r hysbysiad gorfodi, papurau’r apêl a’r sylwadau, ac fel arfer, bydd yn ymweld â’r safle. 6.9 Os gwnaethoch nodi ar eich ffurflen apelio y gall yr Arolygydd edrych ar y safle o dir cyhoeddus, a bod yr ACLl yn cytuno, byddwn yn trefnu i’r Arolygydd ymweld â’r safle ar ei ben/phen ei hun. 6.10 Dim ond os na ellir gweld y safle o dir cyhoeddus y bydd angen i’r Arolygydd ymweld â’r safle yng nghwmni rhywun arall. Pan fydd angen trefnu i’r Arolygydd ymweld â’r safle yng nghwmni rhywun arall, byddwn yn eich hysbysu chi a’r ACLl am y trefniadau. Mewn achosion o’r fath, bydd yn rhaid i chi, neu eich cynrychiolydd, a’r ACLl fod yn bresennol er mwyn sicrhau chwarae teg. Yn ystod yr ymweliad â’r safle, gallwch ddangos unrhyw nodweddion ffisegol y cyfeiriwyd atynt yn eich datganiad, ond ni fydd yr Arolygydd yn gwrando ar unrhyw ddadleuon gennych chi neu’r ACLl ynglyn â’ch apêl. Mae’n rhaid i unrhyw beth rydych am ei ddweud am yr apêl fod yn ysgrifenedig. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |