Gwneud eich apêl gorfodi7 Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad7.1 Os na fyddwch chi neu’r ACLl yn cytuno i’r weithdrefn ysgrifenedig, cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad yn lle hynny. Mae gwrandawiadau yn llai ffurfiol nag ymchwiliadau ac maent yn cynnwys trafodaeth agored o dan arweiniad yr Arolygydd. Gallwch chi a’r ACLl ofyn am wrandawiad, ond nid oes gennych hawl i gael un. 7.2 Fel arfer, mae’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad yn gynt ac yn rhatach nag ymchwiliad. Byddwn yn cytuno i wrandawiad pryd bynnag y bydd yn briodol. Nid yw gwrandawiadau yn addas ar gyfer pob apêl, yn enwedig rhai sy’n gymhleth neu’n ddadleuol, neu sydd wedi achosi llawer o ddiddordeb lleol neu lle y mae’n angenrheidiol croesholi tystion gan fod anghydfod ynghylch y ffeithiau. 7.3 Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Gwrandawiadau) (Cymru) 2003 yw’r rheolau ar gyfer ymdrin â gwrandawiadau. Yn yr un modd â’r gweithdrefnau eraill, mae angen i ni dderbyn eich sylwadau o fewn terfynau amser pwysig. Heblaw am amgylchiadau eithriadol, byddwn yn dychwelyd cynrychioliadau hwyr ac ni fyddwn yn eu hanfon at yr Arolygydd. 7.4 Dangosir amserlen a chamau’r apêl sy’n arwain at y gwrandawiad yng nghefn y llyfryn hwn ar y diagram yn Atodiad 2. 7.5 Yn ôl y rheolau, dylai’r dyddiad ar gyfer y gwrandawiad fod o fewn 12 wythnos i’r dyddiad dechrau. Os na allwn gadw at y dyddiad hwn, gall y Cynulliad ymestyn y cyfnod. Fel arfer, dim ond un dyddiad y gallwch chi a’r ACLl ei wrthod cyn i ni drefnu’r gwrandawiad. Mae gennych hawl i gael 28 diwrnod o rybudd o leiaf, yn ysgrifenedig, o drefniadau’r ymchwiliad. Ond os bydd angen cynnal yr apêl ar frys, neu os ceir dyddiad cynnar yn sgîl canslo apêl arall, efallai y byddwn yn gofyn i chi dderbyn llai o rybudd. 7.6 Byddwn yn gofyn i’r ACLl hysbysebu’r gwrandawiad mewn papur newydd lleol o leiaf bythefnos cyn dyddiad y gwrandawiad, a hysbysu’r bobl â diddordeb amdano hefyd. 7.7 Yn ystod y gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn arwain trafodaeth anffurfiol ar y prif faterion. Fel arfer, nid yw pobl yn mynd â chynrychiolydd cyfreithiol gyda hwy i’r gwrandawiad, ond gallant wneud hynny os dymunant. Ymweld â’r safle mewn perthynas â’r gwrandawiad7.8 Bydd yr Arolygydd yn penderfynu a ddylid ymweld â’r safle neu barhau â’r drafodaeth ar y safle. Bydd ef neu hi yn eich hysbysu am hyn yn y gwrandawiad. Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad yw’r unig weithdrefn lle y gellir cynnal trafodaeth ar y safle. 7.9 Yn ystod yr ymweliad â’r safle, gallwch ddangos unrhyw nodweddion ffisegol ar y safle a’r ardal o’i amgylch. Gallwch drafod eich apêl os bydd yr Arolygydd yn cytuno i hynny. Pobl ag anableddau7.10 Rydym am gynnal pob gwrandawiad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r lleoliad a byddwn wedi gofyn iddynt dalu sylw arbennig i anghenion pobl ag anableddau. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r gwrandawiad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |