Gwneud eich apêl gorfodi10 Y PenderfyniadPenderfyniad yr Arolygydd10.1 Byddwn yn anfon copi o benderfyniad yr Arolygydd atoch. Fel arfer, bydd yn disgrifio eich apêl gorfodi; yn nodi’r sail, y ffeithiau a’r dadleuon cynllunio pwysig; ac yn archwilio’r prif ddadleuon ac yn egluro pam mae’r Arolygydd wedi dod i’r penderfyniad. 10.2 Byddwn yn anfon copi o’r penderfyniad i’r ACLl ac unrhyw un arall sydd â’r hawl i gael copi neu a ofynnodd am un. Penderfyniad gan y Cynulliad10.3 Bydd yr Arolygydd yn anfon adroddiad i’r Cynulliad. Bydd adroddiad yr Arolygydd yn cynnwys casgliadau ar y materion a godwyd ac yn argymell a ddylid caniatáu’r apêl ai peidio. 10.4 Nid oes rhaid i’r Cynulliad dderbyn argymhelliad yr Arolygydd a bydd yn ystyried popeth sy’n berthnasol. Weithiau, mae’r Cynulliad yn anghytuno ag argymhelliad yr Arolygydd. Os bydd hyn yn digwydd am eu bod yn ystyried tystiolaeth newydd a gyflwynwyd ar ôl yr ymchwiliad, neu am eu bod yn anghytuno ag un o ganfyddiadau’r Arolygydd, bydd gennych chi a’r ACLl gyfle i wneud sylwadau cyn i’r penderfyniad gael ei wneud. Os bydd angen, gallwn ailagor yr ymchwiliad. Bydd rhywun a benodwyd gan y Cynulliad yn llofnodi’r llythyr yn eich hysbysu am y penderfyniad. 10.5 Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn anfon copi o’r llythyr o benderfyniad ac adroddiad yr Arolygydd atoch chi, yr ACLl ac unrhyw un arall y mae ganddynt hawl i gael copi neu a ofynnodd am un. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |