Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

11 Cwyno a herio

Cwynion am yr Arolygiaeth Gynllunio

11.1 Bydd y llythyr cyntaf a anfonwn atoch yn derbyn eich apêl yn rhoi enw eich swyddog achos. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y modd yr ymdriniwn â’ch apêl, dylech gysylltu ag ef, neu hi, yn gyntaf.

11.2 Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau am y penderfyniad, neu’r ffordd rydym wedi ymdrin â’r apêl, ysgrifennwch at ein Swyddog Cwynion:

Y Swyddog Cwynion
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3889
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

11.3 Byddant yn eich ateb, neu byddant yn gofyn i adran o fewn yr Arolygiaeth ateb am fod ganddynt wybodaeth arbenigol benodol.

11.4 Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn a gallwch ddisgwyl ateb llawn o fewn tair wythnos. Fodd bynnag, ni allwn ailystyried apêl os bydd yr Arolygydd eisoes wedi rhoi penderfyniad arni. Dim ond os caiff y penderfyniad ei herio’n llwyddiannus yn yr Uchel Lys y gellir gwneud hyn.

Yr Uchel Lys

11.5 Dim ond ar sail gyfreithiol y gellir herio penderfyniad apêl yn yr Uchel Lys

11.6 Er mwyn bod yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i chi ddangos:

  • Bod yr Arolygydd, neu’r Cynulliad, wedi mynd y tu hwnt i’w pwerau neu wedi camddehongli’r gyfraith; neu
  • Nad oeddem wedi dilyn y gweithdrefnau priodol a’n bod wedi amharu ar eich buddiannau felly.

11.7 Os bydd eich her yn llwyddiannus, bydd yr Uchel Lys yn gwrthod penderfyniad gwreiddiol yr apêl ac yn dychwelyd yr achos atom. Caiff yr apêl ei hystyried eto, fel arfer gan Arolygydd gwahanol. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y caiff y penderfyniad gwreiddiol ei wrthdroi. Gallai’r Arolygydd ddod i’r un penderfyniad, ond am resymau gwahanol.

11.8 Os byddwch yn penderfynu herio penderfyniad apêl, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod i ddyddiad penderfyniad apêl. Pan fyddwch yn anfon penderfyniad apêl, byddwn yn anfon taflen atoch yn egluro eich hawl i’w herio.

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru

11.7 Os ydych o’r farn nad ydym wedi eich trin yn deg, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r achos. Nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i gwestiynu rhinweddau eich apêl na newid y penderfyniad. Yr unig beth y mae’r Ombwdsmon yn ei ystyried yw ein dull o ymdrin ag apeliadau a’u gweinyddu. Fel arfer bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl eich bod wedi cwyno i ni yn gyntaf cyn iddynt ymchwilio i’ch achos. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon yn y cyfeiriad canlynol:

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru
Pumed Llawr
Twr y Ddinas
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AG

Ffôn: 0845 601 0987
Ffacs: 029 2022 6909

Y Cyngor Tribiwnlysoedd

11.8 Os ydych o’r farn bod rhywbeth o’i le ar y weithdrefn sylfaenol a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer eich apêl, gallwch gwyno i’r Cyngor Tribiwnlysoedd yn:

Cyngor Tribiwnlysoedd
22 Kingsway
London
WC2B 6LE

11.9 Bydd y cyngor yn ymdrin â’ch cwyn os credant ei bod yn berthnasol iddynt. Yn yr un modd â’r Ombwdsmon, nid ydynt yn ystyried rhinweddau eich apêl ac nid oes ganddynt bwer i newid y penderfyniad.

Yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol

11.10 Os oes gennych gwyn am y ffordd yr ymdriniodd yr ACLl â chi, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol ymchwilio iddi mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ni all yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol ymchwilio i gwyn am benderfyniad cynllunio am nad ydych chi a’r ACLl yn cytuno ag ef, ac nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i newid y penderfyniad. Gallwch gael llyfryn yn egluro sut i gwyno drwy ysgrifennu at swyddfa’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol briodol yn:

Derwen House
Court Road
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BN

Ffôn: 01656 661325.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English