Gwneud eich apêl gorfodi

Atodiad 1
Y weithdrefn ysgrifenedig
Amserlen |
Chi |
ACLl |
Pobl â diddordeb |
Apêl a wnaed
Rydym yn pennu dyddiad dechrau |
Rydych yn anfon eich ffurflen apelio a’ch holl ddogfennau
ategol atom ni a’r ACLl. Dylai sail eich apêl ffurfio
eich achos llawn. |
Os na fydd yr ACLl am gael y weithdrefn ysgrifenedig (neu os
penderfynwn fod angen i Arolygydd wrando ar yr apêl), byddwn
yn eich hysbysu ac yn trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad. |
|
O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau |
Rydych yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau
ategol gan yr ACLl. |
Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau
ategol atoch chi ac atom ni. Maent hefyd yn ysgrifennu at bobl â
diddordeb ynglyn â’r apêl. |
Mae’r bobl â diddordeb yn derbyn llythyr yr ACLl ynglyn
â’r apêl. |
O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau hwyr ond cânt eu
dychwelyd.) |
Rydych yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom. |
Mae’r bobl â diddordeb yn anfon 3 chopi o unrhyw
sylwadau atom. |
O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer ni dderbynnir sylwadau a anfonwyd yn hwyr ond cânt
eu dychwelyd.) |
Rydych yn anfon 2 gopi o’ch sylwadau terfynol ar ddatganiad
yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar
eich datganiad ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb
atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
|
* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt
gael eu derbyn o fewn y terfynau amser
Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi
a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.
Penderfyniad: Ar ôl ymweld ag unrhyw safle (neu
gael hysbysiad na chynhelir ymweliad), bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r
penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir
copi o’r penderfyniad atoch chi a’r ACLl. Anfonir copi hefyd
at unrhyw un sy’n gofyn am un, yn ogystal ag unrhyw berson arall
y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt.

|