Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 3

Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliad

Amserlen

Chi

ACLl

Pobl â diddordeb

Apêl a wnaed
Rydym yn pennu dyddiad dechrau

Rydych yn anfon eich ffurflen apelio a’r holl ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl.

Os na fydd y cyngor am gael y weithdrefn ysgrifenedig (neu os penderfynwn fod angen i Arolygydd wrando ar yr apêl), byddwn yn eich hysbysu ac yn trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad.

 

O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau

Rydych yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau ategol gan yr ACLl.

Mae’r cyngor yn anfon copi o holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau ategol atoch chi. Maent yn ysgrifennu at bobl â diddordeb ynglyn â’r apêl.

Mae’r bobl â diddordeb yn derbyn llythyr yr ACLl ynglyn â’r apêl.

O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau hwyr ond cânt eu dychwelyd.)

Rydych yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom. Dim ond at faterion a godwyd gan yr holiadur ac unrhyw ddogfennau ategol y dylai hyn gyfeirio.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u datganiad pellach atom.

Mae’r bobl â diddordeb yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom.

O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir sylwadau a anfonwyd yn hwyr ond cânt eu dychwelyd.)

Rydych yn anfon 2 gopi o’ch sylwadau terfynol ar ddatganiad yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar eich datganiad ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

 

4 wythnos cyn yr ymchwiliad*
(Ni fyddwn fel arfer yn derbyn datganiadau na sylwadau hwyr. Yn hytrach, byddwn yn eu dychwelyd atoch.)

Rydych yn anfon 2 gopi o’ch datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth ac 1 copi o’r datganiad o dir cyffredin atom.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth atom. Mae’r ACLl yn rhoi hysbysiad am yr ymchwiliad mewn papur lleol ac yn hysbysu’r bobl â diddordeb.

Mae’r ACLl yn hysbysu’r bobl â diddordeb am yr ymchwiliad. Gallant fynychu a mynegi eu barn, os bydd yr Arolygydd yn cytuno i hynny.

* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt gael eu derbyn o fewn y terfynau amser

Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.

Penderfyniad: Ar ôl yr ymchwiliad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r
penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir copi o’r hysbysiad o
benderfyniad atoch chi a’r ACLl. Anfonir copi hefyd at unrhyw un sy’n
gofyn am un, yn ogystal ag unrhyw berson y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English