Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 4

Apeliadau yn erbyn Hysbysiadau Gorfodi Adeilad Rhestredig ac Ardal Gadwraeth

Gall eich ACLl gyflwyno hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig pan fyddant o’r farn:

  • Bod gwaith dymchwel neu addasu neu ymestyn wedi’i gyflawni i adeilad rhestredig, heb ganiatâd, a bod y gwaith yn effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
  • Bod methiant i gydymffurfio ag unrhyw amod a atodwyd i ganiatâd adeilad rhestredig.

Bydd ACLl yn cyflwyno hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth pan fyddant o’r farn bod adeilad heb ei restru mewn Ardal Gadwraeth wedi’i ddymchwel heb Ganiatâd Ardal Gadwraeth.

Caiff apeliadau yn erbyn yr hysbysiadau hyn eu hystyried gan yr un gweithdrefnau ag apeliadau gorfodi. Mae rheolau ac amserlenni tebyg yn berthnasol, fel y’u disgrifiwyd yn y llyfryn hwn. Mae dau brif wahaniaeth. Gellir gwneud eich apêl ar unrhyw un, neu fwy, o’r 11 sail a nodwyd gan y llythrennau (a) i (k), a eglurir isod ac yn y ffurflen apelio. Ac mewn apeliadau o’r fath, nid oes ffi cais tybiedig i’w thalu.

Cyflwynir Hysbysiadau Gorfodi Adeilad Rhestredig o dan rannau gwahanol o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 – naill ai adran 38(2)(a), sy’n ceisio adfer yr adeilad; adran 38(2)(b), sy’n ceisio lleddfu effeithiau’r gwaith nas awdurdodwyd; neu adran 38(2)(c), sy’n ceisio cydymffurfiad â’r amodau. Y ddwy sail berthnasol ar gyfer adran 38(2)(a) yw (g) ac (i), ar gyfer adran 38(2)(b) y sail berthnasol yw (j) ac ar gyfer adran 38(2)(c) y sail berthnasol yw (k). Noder na ellir dewis pob sail gyda’i gilydd am eu bod yn berthnasol i wahanol fathau o hysbysiadau. Felly, os dewisir sail (g), ni allwch apelio ar yr un adeg o dan sail (j) neu (k). Y cam pwysig i chi yw sefydlu pa fath ar hysbysiad a gyflwynwyd, ac yna dewis sail briodol ar gyfer yr apêl.

Dylai eich ACLl fod wedi anfon tri chopi o’r ffurflenni ‘Apelio yn erbyn Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig/Ardal Gadwraeth’ gyda’u hysbysiad. Ond os nad oes gennych ffurflen apelio ac na allwch gael gafael ar un yn gyflym, efallai y gallwch apelio drwy lythyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymwelwch â’n gwefan neu ffoniwch eich llinell gymorth a ddangosir ar gefn y llyfryn hwn.

Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig/Ardaloedd Cadwraeth) 1990

  1. Diffinnir ‘adeilad rhestredig’ yn adran 1 o’r Ddeddf fel adeilad a gynhwysir, ar hyn o bryd, ar restr a luniwyd neu a gymeradwywyd gan y Cynulliad o dan yr adran honno. At ddiben y Ddeddf, caiff unrhyw wrthrych neu strwythur a osodir ar yr adeilad, ers neu cyn 1 Gorffennaf 1948, sydd wedi ffurfio rhan o’r tir ac a gynhwysir o fewn cwrtil yr adeilad, ei drin fel rhan o’r adeilad. Yn ôl y diffiniad, mae ‘adeilad’ yn cynnwys unrhyw strwythur neu waith adeiladu ac unrhyw ran o adeilad.
  2. Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig er mwyn dymchwel adeilad rhestredig, neu ddymchwel rhan ohono, neu er mwyn ei newid neu ei ymestyn mewn unrhyw fodd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Ceir enghreifftiau o’r mathau o waith addasu neu ymestyn a fyddai fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd adeilad rhestredig isod:
    1. ymestyn adeilad pa un a ydyw o fewn terfynau datblygu a ganiateir Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref Datblygu Cyffredinol a Ganiateir 1995;
    2. newid adeilad, megis symud ac ailosod drysau a ffenestri; a
    3. newid ffabrig mewnol adeilad rhestredig.
  3. Caniatâd Ardal Gadwraeth. Caiff darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud ag adeiladau rhestredig eu cymhwyso, gydag addasiadau, i’r gwaith o ddymchwel adeiladau rhestredig mewn ardaloedd cadwraeth. Mae hyn yn gofyn am ganiatâd ardal gadwraeth.

Sail yr apêl – Adran 39 (1)

  1. Nid yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. – Hynny yw, er bod yr adeilad wedi’i restru, nid yw’n eithriadol nac yn haeddu cael ei gadw. Mewn gwirionedd, mae’r sail hon yn gwahodd y Cynulliad i dynnu’r adeilad oddi ar y rhestr statudol. Yn achos hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth, mae sail (a) yn darllen: “nid yw cadw’r adeilad yn angenrheidiol er lles cadw neu wella cymeriad neu olwg yr ardal gadwraeth y’i lleolir ynddi.” (gweler OS 1990 Rhif 1519 rheoliad 12 ac Atodlen 3).
  2. Nid yw’r materion yr honnir eu bod yn gyfystyr â mynd yn groes i adran 9(1) neu (2) wedi digwydd. - Nid yw’r hyn a honnir yn yr hysbysiad wedi digwydd mewn gwirionedd.
  3. Nid yw’r materion hynny (os oeddent wedi digwydd) yn gyfystyr â mynd yn groes i’r adran. – Mae’r sail hon yn dadlau nad oes angen caniatâd adeilad rhestredig – er enghraifft, am nad yw’r gwaith yn effeithio ar gymeriad yr adeilad rhestredig neu am fod y gwaith ym ymwneud ag adeilad nad yw’n rhan o adeilad rhestredig.
  4. Bod angen gweithio ar yr adeilad ar frys er lles diogelwch neu iechyd neu er mwyn diogelu’r adeilad, nad oedd yn ymarferol sicrhau diogelwch neu iechyd neu, yn ôl y galw, ddiogelu’r adeilad drwy weithio arno neu ei atgyweirio, neu wneud gwaith arno i ddarparu cymorth neu loches dros dro, a bod y gwaith a wnaed wedi ei gyfyngu i’r isafswm mesurau yr oedd eu hangen ar unwaith. – Mae’n rhaid bodloni’r 3 prawf yma, er enghraifft, roedd angen cyflawni’r gwaith dan sylw ar unwaith oherwydd roedd rhannau o’r adeilad yn beryglus.
  5. Dylid rhoi caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith, neu dylid rhyddhau unrhyw amod perthnasol ar y cyfryw ganiatâd a roddwyd, neu dylid bennu amodau gwahanol yn ei le. – Mae’r sail hon yn cwmpasu unrhyw ddadleuon ar rinweddau’r achos.
  6. Ni chyflwynwyd copïau o’r hysbysiad yn ôl gofyniad adran 38(4). – Mae’r sail hon yr un fath â sail (e) mewn apêl gorfodi adran 174 – gweler tudalen 11 o’r llyfryn hwn.
  7. Heblaw mewn perthynas â’r cyfryw ofyniad a grybwyllwyd yn adran 38(2)(b) neu (c), bod gofynion yr hysbysiad yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol ar gyfer adfer yr adeilad i’w gyflwr cyn i’r gwaith gael ei gynnal. – Bydd apêl ar y sail hon yn honni bod y camau y mae angen eu cymryd er mwyn adfer yr adeilad i’w gyflwr blaenorol yn eithafol. [Os dewiswch y sail hon, ni allwch ddewis (j) neu (k) hefyd]
  8. Bod y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad fel y cyfnod pan ddylid cymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad yn fyrrach na’r cyfnod y dylid ei ganiatáu yn rhesymol. – Mae hyn yn cyfeirio at y cyfnod cydymffurfio a nodir yn yr hysbysiad. Os honnwch fod y cyfnod hwn yn rhy fyr, nodwch yr hyn sy’n gyfnod rhesymol ar gyfer cydymffurfio yn eich barn chi, a pham.
  9. Ni fyddai’r camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad at ddibenion adfer cymeriad yr adeilad i’w gyflwr blaenorol yn ateb y diben hwnnw. – Byddai apêl ar y sail hon yn honni na fyddai’r camau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad yn adfer cymeriad yr adeilad i’w gyflwr blaenorol. Mae hyn yn wahanol i apêl ar sail (g) a fyddai’n honni bod y camau angenrheidiol yn eithafol. Nid yw’r sail hon ar gael ar gyfer apeliadau yn erbyn hysbysiadau gorfodi ardal gadwraeth sy’n honni dymchwel adeilad heb ei restru mewn ardal gadwraeth.
  10. Bod y camau y mae’n rhaid eu cymryd yn ôl adran 38(2)(b) yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn lleddfu effaith y gwaith a wnaed i’r adeilad. – Pan nad oedd angen adfer yr adeilad i’w gyflwr blaenorol, mae’r gwaith sydd ei angen yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn lleddfu effaith y gwaith a wnaed. (Mae adran 38(2)(b) yn galluogi awdurdod sydd o’r farn na fyddai adfer yr adeilad i’w gyflwr blaenorol yn rhesymol ymarferol neu y byddai’n annymunol, i nodi camau “ar gyfer gwneud y cyfryw waith a nodwyd yn yr hysbysiad yn eu barn hwy yn angenrheidiol er mwyn lleddfu effaith y gwaith a wnaed heb ganiatâd adeilad rhestredig”.)
  11. Bod y camau y mae’n rhaid eu cymryd yn ôl adran 38(2)(c) yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau ac amodau’r caniatâd adeilad rhestredig. – Fel uchod, ond yn gysylltiedig ag achosion sy’n ymwneud â thor-amod a atodwyd i ganiatâd adeilad rhestredig a roddwyd. (Mae adran 38(2)(c) yn galluogi awdurdod i nodi camau “ar gyfer sicrhau bod yr adeilad yn y cyflwr y byddai wedi bod ynddo pe cydymffurfiwyd â thelerau ac amodau unrhyw ganiatâd adeilad rhestredig a roddwyd ar gyfer y gwaith”.)

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English