Gwneud eich apêl gorfodiAtodiad 5 - Rhai cyhoeddiadau perthnasolGallwch brynu copïau o’r holl ddogfennau hyn o Siop Lyfrau’r Llyfrfa neu unrhyw siop lyfrau mawr arall, neu efallai y gallwch eu gweld yn swyddfeydd yr ACLl neu eich llyfrgell leol. Gallwch weld llawer ohonynt ar wefan y Llyfrfa yn www.hmso.gov.uk Darpariaethau statudolDeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990Mae hon yn cynnwys y prif reolau sy’n rheoli’r system rheoli cynllunio. Mae a wnelo Rhan VII – ‘Gorfodi’ – yn trafod y pwer i gyflwyno hysbysiad gorfodi, eich hawl i apelio a phwerau’r Cynulliad. Nodir darnau perthnasol o Ran VII yn Atodiad 6 i’r llyfryn hwn. Mae Atodlen 6 yn trafod y broses o benderfynu ar apeliadau pan fydd Arolygydd, yn hytrach na’r Cynulliad, yn penderfynu ar eich apêl. Deddf Cynllunio a Digolledu 1991Newidiwyd y darpariaethau gorfodi yn Neddf 1990 gan adrannau 1 – 11 o’r Ddeddf hon. Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990Mae hon yn cynnwys y prif reolau ynglyn â hysbysiadau gorfodi ar adeiladau rhestredig ac mewn ardaloedd gadwraeth. Diwygiwyd y rhain gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 hefyd. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu a Ganiateir yn Gyffredinol) 1995 (OS 1995 Rhif 418)Mae hwn yn eich hysbysu am y mathau o ddatblygiad nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (OS 1995 Rhif 419)Mae hwn yn egluro’n fanwl y gweithdrefnau a ddilynir gan yr ACLl pan fyddant yn ystyried eich cais. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu Apeliadau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthiadau Rhagnodedig) 1981 (OS 1997 Rhif 420)Mae’r rhain yn rhoi’r pwer i Arolygwyr benderfynu ar y rhan fwyaf o apeliadau o dan Ddeddf 1990 a’r rhan fwyaf o apeliadau sy’n ymwneud â chaniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth. Ond mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pwer o hyd i benderfynu ar unrhyw apêl. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apeliadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/394) (W.53)Mae’r rhain yn cynnwys gofynion ychwanegol ynglyn â chynnwys yr hysbysiadau gorfodi a’r hyn y mae’n rhaid i’r partïon ei wneud os gwneir apêl yn erbyn yr hysbysiad. Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/395) (W.54)Mae’r rhain yn egluro’r gweithdrefnau a’r terfynau amser ar gyfer y camau amrywiol o’r weithdrefn apeliadau ysgrifenedig. Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Gwrandawiadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/1268)Mae’r rhain yn egluro’r gweithdrefnau a’r terfynau amser ar gyfer y camau amrywiol o’r apeliadau gorfodi a bennir drwy wrandawiadau. Maent yn egluro hawliau a chyfrifoldebau pawb sy’n ymwneud ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy wrandawiad. Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/1269)Rheolau Apeliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfyniad gan Arolygwyr) (Gorfodi) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/1270)Mae’r rhain yn egluro’r gweithdrefnau a’r terfynau amser ar gyfer y camau amrywiol o’r apeliadau gorfodi a bennir drwy ymchwiliadau. Maent yn egluro hawliau a chyfrifoldebau pawb sy’n ymwneud ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy ymchwiliad. Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (OS 1519)Mae’r rhain yn nodi’r rheolau arbennig ar gyfer ceisiadau ac apeliadau sy’n ymwneud â chaniatâd ar gyfer adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth. CylchlythyrauDyma restr gryno o rai o Gylchlythyrau perthnasol y Swyddfa Gymreig. Efallai y gallwch gael copïau o’ch llyfrgell leol neu gallwch edrych arnynt yn swyddfeydd y cyngor. 08/2003 Gweithdrefnau Apeliadau GorfodaethMae hwn yn nodi arfer da wrth weithredu gweithdrefnau ar gyfer penderfynu ar apeliadau gorfodi. 07 /2003 Gweithdrefnau Apeliadau CynllunioMae hwn yn nodi arfer da wrth weithredu gweithdrefnau ar gyfer penderfynu ar apeliadau gorfodi. 11/99 Asesiad o’r Effaith AmgylcheddolMae hwn yn rhoi cyngor ar yr amgylchiadau lle y bydd angen i ni asesu effeithiau amgylcheddol y cynnig. Mae hefyd yn disgrifio’r modd y byddwn yn cynnal yr asesiad hwn. 29/95 Cydgyfnerthiad Gorchymyn Datblygu Cyffredinol 1995Mae hwn yn nodi’r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau ac apeliadau cynllunio, cofrestri cynllunio a materion cysylltiedig. 24/97 Gorfodi Rheolaeth Gynllunio: Darpariaethau Deddfwriaethol a Gofynion GweithdrefnolMae hwn yn dod â’r canllawiau cynharach yng Nghylchlythyrau’r hen Swyddfa Gymreig, rhifau 76/91 ac 8/92, ynglyn â sut i ddefnyddio’r darpariaethau gorfodi cynllunio diwygiedig yn Rhan VII Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, at ei gilydd ac yn eu diweddaru. 60/96 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Archeoleg1/98 Cynllunio a’r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac ardaloedd Cadwraeth.Mae hwn yn nodi Cyfarwyddiadau gan y Cynulliad. Canllawiau polisi cynllunioYng Nghymru, ceir canllawiau polisi ym Mholisi Cynllunio Cymru (PPW) a Nodiadau Cyngor Technegol (TAN). Mae’r rhain ar gael hefyd ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol (www.cymru.gov.uk) TAN(W) 1 Astudiaethau Argaeledd Tai a Thir ar y Cyd |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |