Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 6 - Y darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer hysbysiadau ac apeliadau gorfodi

Cynhwysir pwerau awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno hysbysiadau gorfodi, mynegiadau a ddefnyddir yn y broses o orfodi rheolaeth gynllunio a’r hawl i apelio i’r Cynulliad yn erbyn hysbysiadau gorfodi yn adrannau 171A, 171B ac 172 i 177 Deddf Cynllunio Gwlad a Tref 1990, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991. Nodir y darpariaethau hyn yn llawn isod, ynghyd â darpariaethau adran 289, sy’n cynnwys y brif hawl i apelio i’r Uchel Lys yn erbyn penderfyniad apêl gorfodi. [Y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer hysbysiadau ac apeliadau gorfodi adeiladau rhestredig yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, adrannau 38-41 (gweler hefyd Atodiad 4 uchod).]

Adran 171A.

  1. At ddibenion y Ddeddf hon -
    1. mae datblygu heb y caniatâd cynllunio gofynnol; neu
    2. mae methu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo, yn dor-rheolaeth cynllunio.
  2. At ddibenion y Ddeddf hon -
    1. mae cyflwyno hysbysiad gorfodi (a ddiffiniwyd yn adran 172); neu

    2. mae cyflwyno hysbysiad tor-amod (a ddiffiniwyd yn adran 187A), yn gyfystyr â chymryd camau gorfodi.
  3. Yn y Rhan hon mae “caniatâd cynllunio” yn cynnwys caniatâd o dan Ran III o Ddeddf 1947, Deddf 1962 neu Ddeddf 1971.

Adran 171B.

  1. Lle y mae achos o dor-rheolaeth cynllunio sy’n cynnwys cynnal gwaith adeiladu, peirianneg, cloddio neu waith arall mewn tir, ar dir, dros dir neu o dan dir, heb ganiatâd cynllunio, ni ellir cymryd unrhyw gamau gorfodi ar ôl diwedd y cyfnod o bedair blynedd yn dechrau gyda’r dyddiad y cwblhawyd y gwaith i raddau helaeth.
  2. Lle y mae achos o dor-rheolaeth cynllunio sy’n cynnwys newid y defnydd o unrhyw adeilad i’w ddefnyddio fel un anhedd-dy, ni ellir cymryd camau gorfodi ar ôl diwedd y cyfnod o bedair blynedd yn dechrau gyda dyddiad y tor-rheolaeth cynllunio.
  3. Yn achos unrhyw dor-rheolaeth cynllunio arall, ni ellir cymryd unrhyw gamau gorfodi ar ôl diwedd y cyfnod o ddeng mlynedd yn dechrau gyda dyddiad y tor-rheolaeth cynllunio.
  4. Nid yw’r is-adrannau blaenorol yn atal y canlynol -
    1. cyflwyno hysbysiad tor-amod mewn perthynas ag unrhyw achos o dor-rheolaeth cynllunio os bydd hysbysiad gorfodi mewn grym mewn perthynas â’r tor-rheolaeth cynllunio; neu
    2. cymryd camau gorfodi pellach mewn perthynas ag unrhyw achos o dor-rheolaeth cynllunio os bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi cymryd camau gorfodi, neu yn honni iddo gymryd camau gorfodi, mewn perthynas â’r achos hwnnw o dor-rheolaeth cynllunio, yn ystod y cyfnod o bedair blynedd yn gorffen gyda chymryd y camau hynny.

Adran 172.

  1. Gall yr awdurdod cynllunio lleol gyflwyno hysbysiad (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “hysbysiad gorfodi”) pan ymddengys iddo -
    1. bod achos o dor-rheolaeth cynllunio wedi bod, ac
    2. ei bod yn fanteisiol cyflwyno’r hysbysiad, gan roi sylw i ddarpariaethau’r cynllun datblygu ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
  2. Cyflwynir copi o hysbysiad gorfodi -
    1. i berchennog ac i ddeiliad y tir y mae a wnelo ag ef; ac
    2. i unrhyw berson arall sydd â diddordeb yn y tir, ar yr amod bod y diddordeb hwnnw’n ddiddordeb y mae’r hysbysiad hwn yn effeithio’n sylweddol arno ym marn yr awdurdod.
  3. Cyflwynir yr hysbysiad -
    1. o fewn wyth diwrnod ar hugain i’w ddyddiad cyflwyno; ac
    2. o fewn wyth diwrnod ar hugain i’r dyddiad a nodwyd arno fel y dyddiad y daw i rym.

Adran 173.

  1. Bydd hysbysiad gorfodi yn nodi -
    1. y materion sydd ym marn yr awdurdod cynllunio lleol yn gyfystyr ag achos o dor-rheolaeth cynllunio; a
    2. y paragraff o adran 171A(1) y mae’r achos o dor-rheolaeth cynllunio yn berthnasol iddo ym marn yr awdurdod.
  2. Mae hysbysiad yn cydymffurfio ag is-adran (1)(a) os yw’n galluogi unrhyw berson y cyflwynir copi ohono iddo i wybod beth yw’r materion hynny.
  3. Bydd hysbysiad gorfodi yn pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd yn ôl yr awdurdod, neu’r gweithgareddau y mae’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i roi terfyn arnynt, er mwyn cyflawni unrhyw un o’r dibenion canlynol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
  4. Y dibenion hynny yw -
    1. unioni’r achos o dor-rheolaeth cynllunio drwy sicrhau bod unrhyw ddatblygiad yn cydymffurfio â thelerau (gan gynnwys amodau a chyfyngiadau) unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd mewn perthynas â’r tir, drwy roi terfyn ar unrhyw ddefnydd o’r tir neu drwy adfer y tir i’w gyflwr cyn i’r tor-rheolaeth cynllunio ddigwydd; neu
    2. unioni unrhyw niwed i amwynder a achoswyd gan y tor-rheolaeth cynllunio.
  5. Gallai hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i -
    1. newid neu symud unrhyw adeiladau neu waith;
    2. cynnal unrhyw waith adeiladu neu waith eraill;
    3. peidoi â gwneud unrhyw weithgaredd ar y tir ac eithrio i’r graddau a bennwyd yn yr hysbysiad; neu
    4. addasu cyfuchlin man gollwng sbwriel neu ddefnyddiau gwastraff ar y tir drwy newid graddiant ei ochrau.
  6. Lle y cyflwynir hysbysiad gorfodi mewn perthynas â thor-rheolaeth cynllunio sy’n cynnwys dymchwel adeilad, gallai’r hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i godi adeilad (y cyfeirir ato yn yr adran hon fel “adeilad newydd”) sydd mor debyg â phosibl i’r adeilad a ddymchwelwyd, yn ddarostyngedig i is-adran (7).
  7. Lle -
    1. Mae’n rhaid i adeilad newydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodwyd gan unrhyw ddeddf sy’n gymwys i godi adeiladau;
    2. Gall adeilad newydd fod yn wahanol i’r adeilad a ddymchwelwyd mewnunrhyw fodd na fyddai wedi bod yn achos o dor-rheolaeth cynllunio, pe bai’r adeilad a ddymchwelwyd wedi’i newid yn y modd hwnnw;
    3. Mae’n rhaid i adeilad newydd gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a wnaed at ddibenion yr is-adran hon (gan gynnwys rheoliadau sy’n diwygio paragraffau (1) a (2)).
  8. Bydd hysbysiad gorfodi yn pennu’r dyddiad y daw i rym, a daw i rym ar y dyddiad hwnnw, yn ddarostyngedig i adrannau 175(4) a 298(4A).
  9. Bydd hysbysiad gorfodi yn pennu’r cyfnod y mae’n ofynnol i unrhyw gamau gael eu cymryd erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu y mae’n ofynnol i unrhyw weithgareddau ddod i ben erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, a gall bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer camau neu weithgareddau gwahanol; a, lle y bydd cyfnodau gwahanol yn gymwys i gamau neu weithgareddau gwahanol, mae’r cyfeiriadau yn y Rhan hon at y cyfnod ar gyfer cydymffurfio â hysbysiad gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw gam neu weithgaredd, yn cyfeirio at y cyfnod y mae’n ofynnol i’r cam gael ei gymryd erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu y mae’n ofynnol i’r gweithgaredd ddod i ben erbyn diwedd y cyfnod hwnnw.
  10. Bydd hysbysiad gorfodi yn pennu’r cyfryw faterion ychwanegol ag a ragnodir, a gall y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i bob copi o hysbysiad gorfodi a gyflwynir o dan adran 172 gynnwys nodyn eglurhaol yn rhoi gwybodaeth ragnodedig am yr hawl i apelio o dan adran 174.
  11. Lle -
    1. a. gallai hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag unrhyw achos o dor-rheolaeth cynllunio fod wedi ei gwneud yn ofynnol i symud unrhyw adeiladau neu waith neu roi terfyn ar unrhyw weithgaredd, ond nad yw’n gwneud hynny; a
    2. b. cydymffurfiwyd â holl ofynion yr hysbysiad,
    yna, i’r graddau nad oedd hynny’n ofynnol gan yr hysbysiad, trinnir caniatâd cynllunio fel pe bai wedi’i roi yn rhinwedd adran 73A mewn perthynas â datblygiad sy’n cynnwys codi’r adeiladau neu waith adeiladu neu, yn ôl y galw, cyflawni’r gweithgareddau.
  12. Lle -
    1. a. bydd hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i godi adeilad newydd; a
    2. b. cydymffurfiwyd â holl ofynion yr hysbysiad mewn perthynas â’r gwaith adeiladu hwnnw,
    trinnir caniatâd cynllunio fel pe bai wedi’i roi yn rhinwedd adran 73A mewn perthynas â datblygiad sy’n cynnwys y gwaith deiladu hwnnw.

Adran 173A.

  1. Gall yr awdurdod cynllunio lleol -
    1. tynnu hysbysiad gorfodi a gyflwynwyd ganddo yn ôl; neu
    2. hepgor neu leddfu unrhyw ofyniad gan y cyfryw hysbysiad ac, yn arbennig, gall ymestyn unrhyw gyfnod a bennir yn unol ag adran 173(9).
  2. Gellir arfer y pwerau a roddwyd gan is-adran (1) pa un a yw’r hysbysiad wedi dod i rym ai peidio.
  3. Yn union ar ôl arfer y pwerau a roddwyd gan is-adran (1), bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn hysbysu pob un y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo/iddi, neu bob un a fyddai’n cael copi ohono pe câi’r hysbysiad ei ailgyflwyno, ei fod yn arfer y pwerau hyn a roddwyd ar unwaith.
  4. Nid yw tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl yn effeithio ar bwerau’r awdurdod cynllunio lleol i gyflwyno hysbysiad gorfodi arall.

Adran 174.

  1. Gall person sydd â diddordeb yn y tir y mae a wnelo hysbysiad gorfodi ag ef, neu ddeiliad perthnasol, apelio i’r Cynulliad yn erbyn yr hysbysiad, pa un a gyflwynwyd copi o’r hysbysiad iddo ai peidio.
  2. Gellir cyflwyno apêl am unrhyw un o’r rhesymau canlynol -
    1. dylid rhoi caniatâd cynllunio neu, yn ôl y galw, dylid rhyddhau’r amod neu’r cyfyngiad dan sylw mewn perthynas ag unrhyw achos o dor-rheolaeth cynllunio a achosir gan y materion a nodwyd yn yr hysbysiad,;
    2. nid yw’r materion hynny wedi digwydd;
    3. nid yw’r materion hynny (os oeddent wedi digwydd) yn golygu bod achos o dor-rheolaeth cynllunio;
    4. ni ellid cymryd unrhyw gamau gorfodi, ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad, mewn perthynas ag unrhyw achos o dor-rheolaeth cynllunio a achosir gan y materion hynny;
    5. ni chyflwynwyd copïau o’r hysbysiad gorfodi yn unol â gofyniad adran 172;
    6. bod y camau y mae’n ofynnol i’w cymryd o dan yr hysbysiad, neu’r gweithgareddau y mae angen rhoi terfyn arnynt yn ôl yr hysbysiad, yn mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn unioni unrhyw achos o dor-rheolaeth cynllunio a achosir gan y materion hynny neu, yn ôl y galw, er mwyn unioni unrhyw niwed i amwynder a achoswyd gan y cyfryw dor-rheolaeth cynllunio;
    7. bod unrhyw gyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad yn unol ag adran 173(9) yn fyrrach na ’r cyfnod yn rhesymol y dylid ei ganiatáu.
  3. Gwneir apêl o dan yr adran hon naill ai -
    1. drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i’r Cynulliad cyn y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad gorfodi fel y dyddiad y daw i rym; neu
    2. drwy anfon y cyfryw hysbysiad ato mewn llythyr rhagdaledig, gyda’r cyfeiriad cywir, a anfonwyd ato drwy’r post ar y cyfryw adeg fel y byddai’n cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw gyda’r post arferol.
  4. Bydd person sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (3) yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad, naill ai wrth roi’r hysbysiad neu o fewn y cyfnod ragnodedig -
    1. yn pennu ar ba sail y mae’n apelio yn erbyn yr hysbysiad gorfodi; ac
    2. yn rhoi’r cyfryw wybodaeth bellach ag a ragdnodir.
  5. Os na fydd yr apelydd, lle y pennir mwy nag un sail yn y datganiad hwnnw, yn rhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan is-adran (4)(b) mewn perthynas â phob sail o fewn y cyfnod rhagnodedig, gall y Cynulliad benderfynu ar yr apêl heb ystyried unrhyw sail y mae’r apelydd wedi methu â rhoi’r cyfryw wybodaeth amdani o fewn y cyfnod hwnnw.
  6. Yn yr adran hon, mae “deiliad perthnasol” yn golygu person -
    1. sy’n meddiannu’r tir y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef yn rhinwedd trwydded ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gorfodi; ac
    2. sy’n parhau i feddiannu’r tir pan gyflwynir yr apêl.

Adran 175.

  1. Yn ôl y rheoliadau, gall y Cynulliad ragnodi’r weithdrefn i’w dilyn ar apeliadau o dan adran 174 ac, yn arbennig, ond heb ddangos rhagfarn tuag at gyffredinolrwydd yr is-adran hon, gall -
    1. ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno datganiad yn nodi’r sylwadau y maent yn bwriadu eu cyflwyno mewn perthynas â’r apêl, o fewn y cyfryw gyfnod ag a ragnodir;
    2. nodi’r materion i’w cynnwys mewn datganiad o’r fath;
    3. ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod neu’r apelydd roi’r cyfryw hysbysiad ag a ragnodir o’r cyfryw apêl;
    4. ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod anfon copi o’r hysbysiad gorfodi a rhestr o’r bobl y cyflwynwyd copïau ohono iddynt, i’r Cynulliad o fewn y cyfryw gyfnod o’r dyddiad cyflwyno’r apêl ag a ragnodir.
  2. Yr hysbysiad i’w ragnodi o dan is-adran (1)(c) fydd y cyfryw hysbysiad sydd, ym marn y Cynulliad, yn debygol o dynnu sylw pobl yr ardal lle y lleolir y tir y mae a wnelo’r hysbysiad gorfodi ag ef, at yr apêl.
  3. Yn ddarostyngedig i adran 176(4), os bydd naill ai’r apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno hynny, bydd y Cynulliad yn rhoi cyfle iddynt ymddangos gerbron person a benodwyd gan y Cynulliad at y diben.
  4. Lle y cyflwynir apêl o dan 174, bydd yr hysbysiad gorfodi yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 289(4A), yn ddi-rym tra’n disgwyl penderfyniad terfynol yr apêl neu wrth iddi gael ei thynnu’n ôl.
  5. Lle y bydd unrhyw berson wedi apelio i’r Cynulliad yn erbyn hysbysiad gorfodi, ni fydd gan unrhyw berson yr hawl i hawlio na chyflwynwyd yr hysbysiad yn briodol i’r person a apeliodd, mewn unrhyw waith arall a ddechreuwyd ar ôl gwneud yr apêl.
  6. Mae atodlen 6 yn gymwys i apeliadau o dan adran 174, gan gynnwys apeliadau o dan yr adran honno fel y cymhwysir gan reoliadau o dan unrhyw ddarpariaethau eraill y Ddeddf hon.
  7. Bydd is-adran (5) o adran 250 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (sy’n awdurdodi Gweinidog sy’n cynnal ymchwiliad o dan yr adran honno i wneud gorchmynion mewn perthynas â chostau pob parti) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw waith a gyflwynir gerbron y Cynulliad mewn perthynas ag apêl o dan adran 174 fel pe bai’r gwaith hwnnw yn ymchwiliad yr oedd y Cynulliad yn ei gynnal o dan adran 250.

Adran 176.

  1. (1) Ar apêl o dan adran 174, gall y Cynulliad -
    1. cywiro unrhyw ddiffyg, gwall neu gamddisgrifiad yn yr hysbysiad gorfodi; neu
    2. newid telerau’r hysbysiad gorfodi

    os bydd yn fodlon na fydd y cywiriad neu’r newid yn peri anghyfiawnder i’r apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol.
  2. Lle y bydd y Cynulliad yn penderfynu caniatáu’r apêl, gall ddirymu’r hysbysiad.
    1. Bydd y Cynulliad yn rhoi unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol er mwyn sicrhau y caiff ei benderfyniad ar yr ap êl ei weithredu
  3. Gall y Cynulliad -
    1. gwrthod apêl os na fydd yr apelydd yn cydymffurfio ag adran 174(4) o fewn y cyfnod rhagnodedig; a
    2. caniatáu apêl a dirymu’r hysbysiad gorfodi os na fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o ran rheoliadau a wnaed yn rhinwedd paragraff (a), (b), neu (d) o adran 175 (1) o fewn y cyfnod rhagnodedig.
  4. Os bydd y Cynulliad yn cynnig gwrthod apêl o dan baragraff (a) o is-adran (3) neu ganiatáu apêl a dirymu’r hysbysiad gorfodi o dan baragraff (b) o’r is-adran honno, nid oes angen iddo gydymffurfio ag adran 175(3).
  5. Lle na chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi i berson yr oedd yn ofynnol cyflwyno copi iddo ac y byddai fel arall yn sail dros benderfynu ar apêl o dan adran 174 o blaid yr apelydd, gall y Cynulliad ddiystyru’r ffaith honno os na chafodd yr apelydd na’r person hwnnw ei niweidio’n sylweddol gan y methiant i gyflwyno hysbysiad gorfodi iddo.

Adran 177.

(1) Wrth benderfynu ar apêl o dan adran 174, gall y Cynulliad -

  1. rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â’r materion a nodwyd yn yr hysbysiad gorfodi bod achos o dor-rheolaeth cynllunio, boed hynny mewn perthynas â’r materion hynny yn gyfan gwbl neu’n rhannol neu mewn perthynas â’r tir cyfan neu unrhyw ran o’r tir y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef;
  2. rhyddhau unrhyw amod neu gyfyngiad yn ddarostyngedig i ba ganiatâd cynllunio a roddwyd;
  3. penderfynu, ar y dyddiad y gwnaed yr apêl, a oedd unrhyw ddefnydd presennol o’r tir yn gyfreithlon, a oedd unrhyw waith a gyflawnwyd yn y tir, ar y tir, dros y tir neu o dan y tir yn gyfreithlon, neu a oedd unrhyw fater, a oedd yn golygu na chydymffurfiwyd ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo, yn gyfreithlon, ac os felly, cyflwyno tystysgrif o dan adran 191.

(1A) Bydd darpariaethau adrannau 191 i 194 a grybwyllwyd yn is-adran (1B) yn gymwys at ddibenion is-adran (1)(c) yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion adran 191, ond –

  1. fel pe bai unrhyw gyfeiriad at wneud cais am dystysgrif yn gyfeiriad at yr apêl ac unrhyw gyfeiriad y cyfryw ddyddiad cais yn gyfeiriad at y dyddiad y gwneir yr apêl; a
  2. fel pe bai cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol yn gyfeiriadau at y Cynulliad.

(1B) Y darpariaethau hynny yw: adrannau 191(5) i (7), 193(4) (cyhyd ag y mae a wnelo â ffurf y dystysgrif), (6) a (7) a 194.

(2) Wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd cynllunio o dan is-adran (1), bydd y Cynulliad yn rhoi sylw i ddarpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau ag y bônt yn gymwys i destun yr hysbysiad gorfodi, ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

(3) Mae’r caniatâd cynllunio a roddir o dan is-adran (1) yn unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir ar gais o dan Ran III.

(4) Lle y bydd y Cynulliad yn rhyddhau amod neu gyfyngiad o dan is-adran (1), gall osod amod neu gyfyngiad arall yn ei le, pa un a yw’n fwy rhwymedigaethus neu’n llai rhwymedigaethus.

(5) Lle y cyflwynir apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan adran 174, tybir bod yr apelydd wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â’r materion a nodwyd yn yr hysbysiad gorfodi fel rhai sy’n gyfystyr â thor-rheolaeth cynllunio.

(5A) Lle–

  1. bydd y datganiad o dan is-adran (4) o adran 174 yn pennu’r sail a grybwyllwyd yn is-adran (2)(a) o’r adran honno;
  2. bydd unrhyw ffi yn daladwy o dan reoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 303 mewn perthynas â’r cais y tybir iddo gael ei wneud yn rhinwedd yr apêl; a
  3. bydd y Cynulliad yn rhoi hysbysiad yn ysgrifenedig i’r apelydd yn pennu’r cyfnod amser y mae’n rhaid talu’r ffi o’i fewn,

yna, os na thelir y ffi honno o fewn y cyfnod hwnnw, daw’r apêl, i’r graddau y’i cyflwynwyd ar y sail honno, a’r cais i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(6) Trinnir unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd o dan is-adran (1) ar apêl fel caniatâd a roddwyd ar y cais y tybir bod yr apelydd wedi’i wneud.

(7) Mewn perthynas â rhoi caniatâd cynllunio neu benderfyniad o dan is-adran (1), bydd penderfyniad y Cynulliad yn derfynol.

(8) At ddibenion adran 69, trinnir penderfyniad y Cynulliad fel penderfyniad a roddwyd ganddo wrth ymdrin â chais am ganiatâd cynllunio a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol.

Adran 289.

(1) Lle y bydd y Cynulliad yn rhoi penderfyniad mewn achos llys ar apêl o dan Ran VIII yn erbyn hysbysiad gorfodi, gall yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol neu unrhyw berson arall sydd â diddordeb yn y tir y mae a wnelo’r hysbysiad gorfodi ag ef, yn ôl rheolau’r llys, naill ai apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad ar bwynt cyfreithiol neu ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad nodi a llofnodi achos er mwyn cael barn yr Uchel Lys.

(2) Lle y bydd y Cynulliad yn rhoi penderfyniad mewn achos llys o dan Ran VIII yn erbyn hysbysiad o dan adran 207, gall yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol neu unrhyw berson arall (ac eithrio’r apelydd) y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, yn ôl rheolau’r llys, naill ai apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad ar bwynt cyfreithiol neu ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad nodi a llofnodi achos er mwyn cael barn yr Uchel Lys.

(3) Yn ystod unrhyw gam o’r achos llys ar gyfer y cyfryw apêl a grybwyllir yn is-adran (1), gall y Cynulliad nodi unrhyw gwestiwn cyfreithiol sy’n deillio o’r achos llys ar ffurf achos arbennig ar gyfer penderfyniad yr Uchel Lys.

(4) Tybir bod penderfyniad yr Uchel Lys ar achos a nodir yn rhinwedd is-adran (3) yn ddyfarniad y llys o fewn ystyr adran 16 Deddf y Goruchaf Lys 1981 (awdurdodaeth y Llys Apêl i wrando ar apeliadau gan unrhyw ddyfarniad yr Uchel Lys, a phenderfynu arnynt).

(4A) Mewn achos llys a ddygir yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â hysbysiad gorfodi, gall yr Uchel Lys neu, yn ôl y galw, y Llys Apêl, ar y cyfryw delerau, os o gwbl, ag y gwêl y Llys yn dda (a allai gynnwys telerau yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol roi ymrwymiad o ran iawndal neu unrhyw fater arall), orchymyn y daw’r hysbysiad i rym, neu y daw i rym i’r graddau ag a bennir yn y gorchymyn, tra’n disgwyl penderfyniad terfynol yr achos llys hwnnw ac unrhyw ailwrandawiad a phenderfyniad gan y Cynulliad.

(4B) Lle y dygir achos llys yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad o dan adran 207, ni fydd gan yr hysbysiad unrhyw rym tra’n disgwyl penderfyniad terfynol yr achos llys hwnnw ac unrhyw ailwrandawiad a phenderfyniad gan y Cynulliad.

(5) Mewn perthynas ag unrhyw achos llys yn yr Uchel Lys neu’r Llys Apêl a ddygir yn rhinwedd yr adran hon, bydd y pwer i wneud rheolau’r llys yn cynnwys y pwer i wneud rheolau -

  1. sy’n rhagnodi pwerau’r Uchel Lys neu’r Llys Apêl mewn perthynas ag ailgyfeirio’r mater gyda barn neu gyfarwyddyd y llys ar gyfer ailwrandawiad a phenderfyniad gan y Cynulliad; a
  2. sy’n darparu i’r Cynulliad gael ei drin fel parti i’r cyfryw achos llys ac iddo gael yr hawl i ymddangos a chael gwrandawiad yn unol â hynny, naill ai’n gyffredinol neu yn y cyfryw amgylchiadau ag a ragnodir gan y rheolau.

(5A) Gall rheolau’r llys hefyd ddarparu i’r Uchel Lys neu, yn ôl y galw, y Llys Apêl, roi cyfarwyddiadau ynghylch arfer unrhyw bwerau mewn perthynas â materion y mae a wnelo’r cyfryw hysbysiad â hwy, hyd nes y caiff y cyfryw achos llys mewn perthynas â hysbysiad gorfodi ei derfynu a hyd nes y bydd unrhyw ailwrandawiad a phenderfyniad gan y Cynulliad wedi digwydd.

(6) Ni ddygir unrhyw achos llys yn yr Uchel Lys yn rhinwedd yr adran hon ac eithrio gyda chaniatâd y Llys hwnnw ac ni chyflwynir unrhyw apêl i’r Llys Apêl ac eithrio gyda chaniatâd y Llys Apêl neu’r Uchel Lys.

(7) Yn yr adran hon mae “penderfyniad” yn cynnwys cyfarwyddyd neu orchymyn, a dehonglir cyfeiriadau at roi penderfyniad yn unol â hynny.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English