Gwneud eich apêl gorfodiAtodiad 8Deddf Diogelu Data a Phreifatrwydd yn yr Arolygiaeth GynllunioCyflwyniadO dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i’ch hysbysu am unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych a’i diogelu. Wrth ystyried apêl, mae’r Arolygydd (neu’r Cynulliad) yn cael amrywiaeth o wybodaeth bersonol. Daw’r wybodaeth hon o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:
Yn unol â rhwymedigaethau statudol presennol, bydd y rhan fwyaf o’r ddogfennaeth a dderbynnir ar gael i’r cyhoedd. Serch hynny, mae’r Arolygiaeth Gynllunio, fel rhan o’r Cynulliad, yn cydnabod pwysigrwydd preifatrwydd unigolion. Mae’r nodiadau hyn yn nodi pa wybodaeth a gesglir gennym a sut y’i defnyddir. Diogelu DataRydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 wrth ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol. Yn arbennig:
Pwy all weld eich gwybodaeth bersonol?Bydd papurau’r apêl ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd y cyngor, a gall unrhyw un edrych arnynt. Mae gan unrhyw un sydd â hawl i gael ei hysbysu am y penderfyniad mewn achos ymchwiliad hawl gyfreithiol i wneud cais i archwilio’r dogfennau, y ffotograffau a’r cynlluniau a restrir o fewn 6 wythnos i ddyddiad y penderfyniad. Fel arfer, ni wrthodir ceisiadau eraill i weld dogfennau’r apêl. Yn ogystal, pan fydd y Porth Cynllunio electronig ar gael, rhoddir y mwyafrif o’r wybodaeth bersonol a dderbynnir ar y wefan Gwaith achos [www.planningportal.gov.uk] a gall unrhyw drydydd parti ledled y byd gael mynediad iddi, gan gynnwys unigolion neu sefydliadau nad oes ganddynt ddiddordeb uniongyrchol yn yr apêl benodol. Pa wybodaeth a gesglir gennym?Wrth ymdrin ag apêl, gallem dderbyn gwybodaeth bersonol amdanoch gan nifer o bartïon, gan gynnwys:
Mae’r wybodaeth a dderbyniwn yn amrywio, ond yn aml mae’n cynnwys:
Pa gamau y dylech eu cymryd?
Y Rheolwr DataUwch Weinidog Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yw’r rheolwr data (y sefydliad sy’n gyfrifol am ymdrin â gwybodaeth bersonol). Eich Hawl i Weld Data PersonolMae’n rhaid i ni roi copi darllenadwy o’r data personol a gedwir amdanoch i chi o fewn 40 diwrnod. Codir tâl statudol o £10. Bydd angen tystiolaeth neu brawf adnabod. Mae cadw data cywir yn bwysig er ein lles ni a’ch lles chi. Os bydd y data a gedwir gennym yn anghywir mewn unrhyw ffordd, yna gellir:
y data heb godi tâl arnoch lle y bo’n briodol. Ar gyfer unrhyw ymholiad neu bryder ynghylch ein polisi preifatrwydd, neu i ofyn am gael gweld eich data personol, cysylltwch â’n Rheolwr Data: Alastair Grant Ffôn: 0117 372 8922 Ceir gwybodaeth gysylltiedig am ein Polisi Preifatrwydd ar ein gwefan yn http://www.planning-inspectorate.gov.uk yn yr adran wedi’i marcio “Datganiad Preifatrwydd”. Anghydfod Ein nod yw sicrhau ein bod yn datrys unrhyw faterion yn foddhaol, fodd bynnag, os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gysylltu â: The
Information Commissioner Switsfwrdd: 01625 545 700 |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |