Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill – canllaw i’r weithdrefn apelio

Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Arweiniad ar y Weithdrefn Apêl

Cyflwyniad

1. Mae’r arweiniad hwn yn cwmpasu’r gweithdrefnau ar gyfer apeliadau o ran caniatâd gollwng, hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau gweithio a phenderfyniadau nad yw gwybodaeth yn gyfrinachol yn fasnachol (at ddibenion eu cynnwys mewn cofrestrau rheoli llygredd) a gyhoeddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae’r arweiniad yn esbonio’r cefndir deddfwriaethol, yn tynnu ynghyd yr amrywiol gyhoeddiadau sy’n berthnasol i’r broses hon ac yn amlygu rhai o’r materion penodol a allai fod yn destun apêl. Mae’r wybodaeth yma yn gywir ar adeg cyhoeddi ac mae’n ymwneud â gweithdrefnau yng Nghymru a Lloegr. Nid oes statws gyfreithiol i’r arweiniad hwn. Nodir y gweithdrefnau i’w dilyn yn y Rheoliadau Rheoli Llygredd (Ceisiadau, Apeliadau a Chofrestri) 1996 OS Rhif 2971, a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf Adnoddau Dwr 1991 (‘Deddf 1991’) fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Amgylchiadau lle gellir gwneud Apeliadau yn erbyn Caniatâd

2. a) Caniatâd Gollwng

Gall ymgeiswyr sydd am gael caniatâd i ollwng wneud apêl o dan adran 91 Deddf 1991 (fel y’i diwygiwyd) ar y seiliau canlynol:-

i os bydd cais am ganiatâd wedi’i wrthod;

ii os rhoddir caniatâd yn ddarostyngedig i amodau;

iii os caiff amodau caniatâd eu diwygio;

iv os caiff caniatâd ei ddiddymu;

v os daw caniatâd diamod yn ddarostyngedig i amodau; neu

vi os bydd gwrthod amrywiad caniatâd, neu ganiatáu amrywiad o’r fath, wedi’i wneud yn ddarostyngedig i amodau;

vii os gwrthodir cais am ganiatâd, at ddibenion A.89 (4)(a) ar gyfer unrhyw ollyngiad a wneir;

viii os bydd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi methu â phenderfynu caniatâd o fewn y cyfnod penodol o amser heb gytundeb yr ymgeisydd;

ix os gwrthodir caniatâd ar gyfer torri a gwaredu llystyfiant o ddyfroedd croyw mewndirol, neu os bydd yr Asiantaeth, wrth roi’r caniatâd hwnnw, wedi’i wneud yn ddarostyngedig i amodau.

b) Hysbysiadau Gorfodi.

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd 1995 bwerau newydd o dan Adran 90B Deddf Adnoddau Dwr 1991 ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd i gyflwyno hysbysiad gorfodi lle mae’n ystyried bod person sy’n gollwng yn torri neu’n debygol o dorri caniatâd gollwng. Mae’r hysbysiad yn nodi’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni materion. Rhaid gwneud apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad. O dan yr amgylchiadau hyn, ni chaiff effaith hysbysiad gorfodi ei oedi wrth aros am ganlyniad apêl.

c) Apeliadau eraill.

Yn ogystal, rhaid gwneud apeliadau yn erbyn Hysbysiadau Gwaith o dan Adran 161C Deddf Adnoddau Dwr 1991 (fel y’i diwygiwyd), ac o dan Adran 191B(5) Deddf 1991 (fel y’i diwygiwyd) yn erbyn penderfyniadau gan yr Asiantaeth na fydd gwybodaeth yn gyfrinachol yn fasnachol.

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd 1995 bwerau newydd o dan Adran 161A – D Deddf Adnoddau Dwr 1991 i Asiantaeth yr Amgylchedd gyflwyno hysbysiad gwaith lle mae’n ystyried bod llygredd dyfroedd rheoledig wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd. Byddai’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i waith neu weithrediadau penodol gael eu gwneud er mwyn unioni neu atal llygredd. Rhaid gwneud apêl yn erbyn hysbysiad gwaith o fewn 21 diwrnod o’r dydd y cyflwynir yr hysbysiad.

Cyn gwneud Apêl

3. Cynghorir darpar apelyddion i siarad ag Asiantaeth yr Amgylchedd i geisio datrys unrhyw anawsterau neu anghytundebau. Weithiau gellir dod i gytuneb drwy ddiwygio amodau’r caniatâd. Dylid ystyried apêl fel y dewis olaf.

4. Er mai hwn, ar y cyfan, yw’r arfer a dderbynnir, ni fyddai’n berthnasol i apeliadau hysbysiadau gorfodi, apeliadau hysbysiadau gwaith neu apeliadau yn erbyn penderfyniadau nad yw gwybodaeth yn gyfrinachol yn fasnachol. Ar gyfer hysbysiadau gwaith, rhaid i’r Asiantaeth geisio trafod, yn rhesymol, y materion i’w nodi yn yr hysbysiad gyda’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo. Ar gyfer hysbysiadau gorfodi, byddai ymagwedd debyg yn berthnasol yn unol â Datganiad Polisi Gorfodi yr Asiantaeth.

5. O dan Adran 191B Deddf 1991 (fel y’i diwygiwyd) ni fydd trafodaeth ymlaen llaw yn berthnasol mewn achosion sy’n gyfrinachol yn fasnachol, lle bydd y person sy’n rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad â chaniatâd gollwng yn gwneud cais i sicrhau ei fod yn cael ei eithrio o’r gofrestr rheoli llygredd. Yna os bydd yr Asiantaeth yn penderfynu nad yw’r wybodaeth yn gyfrinachol yn fasnachol, gall y person wneud apêl. Ar y llaw arall, pan fydd yr Asiantaeth yn ystyried y gallai’r wybodaeth y mae wedi ei chasglu fod yn gyfrinachol yn fasnachol ac yn hysbysu’r person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef yn unol â hynny, gall y person hwnnw wneud cynrychioliadau i’r Asiantaeth cyn i benderfyniad gael ei wneud.

6. Mae Atodiad 1 yn cynnwys nodyn cefndir byr ar ddarpariaethau deddfwriaethol Deddf 1991 sy’n ymwneud â Chaniatâd Gollwng, ac arweiniad mwy manwl ar rai o’r materion penodol y gallai apêl eu cwmpasu o dan y darpariaethau hyn. Yn ogystal, mae Atodiad 2 yn cynnwys rhestr o gyhoeddiadau swyddogol sy’n ymwneud â llawer o’r materion a allai fod yn destun apêl.

Pwy fydd yn penderfynu ar eich apêl?

7. Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn penderfynu ar apeliadau.

Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English