Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill – canllaw i’r weithdrefn apelio

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Sut i Apelio

  1. Cynhwysir manylion llawn y gweithdrefnau ar gyfer gwneud apêl yn rheoliadau 8 – 13 Rheoliadau Rheoli Llygredd (Ceisiadau, Apeliadau a Chofrestri) 1996. Er cyfleustra, amlinellir y prif gamau isod.

Terfyn Amser ar gyfer Apelio

  1. Tynnu caniatâd yn ei ôl –
    1. mae’n rhaid gwneud apêl cyn i’r caniatâd gael ei dynnu yn ei ôl;
    2. Gorfodi – cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad gorfodi;
    3. Hysbysiadau Gwaith Gwrthlygredd – cyn diwedd 21 diwrnod o ddydd y cyflwynwyd yr hysbysiad.
    4. Eithrio gwybodaeth gyfrinachol benodol o’r Gofrestr Gyhoeddus – cyn diwedd y
      cyfnod o 21 diwrnod pan hysbysir yr apelydd o’r penderfyniad;
    5. Apeliadau eraill – cyn diwedd y cyfnod o 3 mis o ddyddiad penderfyniad yr Asiantaeth. Pan fydd yr Asiantaeth yn methu â phenderfynu ar gais o fewn 4 mis, neu unrhyw gyfnod y cytunwyd arno, mae’n rhaid gwneud apeliadau o fewn 3 mis i ddiwedd y cyfnod hwn.
    6. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol dderbyn apeliadau a gyflwynwyd ar ôl y cyfnod hwn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond nid oes ganddo unrhyw ddisgresiwn i dderbyn apeliadau hwyr o dan Baragraff 2(iii), (iv) a (v) ac mewn achosion masnachol gyfrinachol.
  2. Hysbysiad o Apêl

  3. Mae’n rhaid i’r hysbysiad o apêl gael ei wneud yn ysgrifenedig a dylid amgáu’r canlynol gydag ef:
    • datganiad o sail yr apêl;
    • copi o unrhyw gais perthnasol a dogfennau ategol;
    • copi o ganiatâd i ollwng (os yw’n berthnasol);
    • unrhyw benderfyniad, hysbysiad neu ddogfen arall berthnasol sy’n destun apêl ac unrhyw ohebiaeth arall rhwng y partïon; a
    • ffurf y gwrandawiad neu benderfynu ar sail cynrychioliadau ysgrifenedig, a’r rhesymau pam.
    • datganiad yn nodi pa un a ydych yn dymuno i’r apêl gael ei phenderfynu drwy wrandawiad neu ar sail cynrychioliadau ysgrifenedig.
  4. Dylid anfon yr hysbysiad o apêl at:

YNG NGHYMRU
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
CAERDYDD CF1 3NQ
Ffôn: 029 2082 5538
Ffacs: 029 20825150

LLOEGR:
Customer Support Unit
The Planning Inspectorate
3/15 Eagle Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN

Ffôn: 0117 372 6372
Ffacs: 0117 372 8782

  1. Pan anfonwch hwn i’r Arolygiaeth, dylid anfon copi i swyddfa berthnasol yr Asiantaeth hefyd, am nad yw’r Arolygiaeth yn gwneud hyn. Mae’n ofynnol i’r apelydd wneud hyn o dan reoliad 8(4) y Rheoliadau.

  2. Effaith Gwneud Apêl

  3. Os gwneir apêl yn erbyn y newidiadau mewn caniatâd gollwng, ni ddaw’r newidiadau hynny i rym nes y penderfynwyd ar yr apêl, a byddant naill ai’n cael eu gweithredu, eu haddasu neu eu dileu bryd hynny. (Gweler paragraff 2(b) ynglín ag apeliadau yn erbyn Hysbysiadau Gorfodi.)
  4. Os bydd yr apêl wedi’i chyflwyno yn erbyn hysbysiad gorfodi, ni chaiff effaith yr hysbysiad ei gohirio wrth aros am ganlyniad yr apêl.
  5. GWEITHREDU WRTH DDERBYN APÊL

  6. Pan dderbynnir apêl, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn hysbysu’r apelydd a chynrychiolwyr priodol yr Asiantaeth pa un a fydd yr apêl yn cael ei phennu drwy wrandawiad, neu a fydd cynrychioliadau ysgrifenedig yn ddigonol. Bydd yr Arolygiaeth yn cadw dymuniadau’r partïon mewn cof wrth ystyried y mater hwn. Beth bynnag fydd yr achos, mae’n debygol y bydd angen ymweld â’r safle er mwyn i’r Arolygydd allu gweld y safle yn bersonol.
  7. Er mwyn sicrhau bod digon o wybodaeth i seilio penderfyniad arni, gellir gofyn i’r partïon roi rhagor o fanylion ar unrhyw gyfnod yn ystod yr apêl.
  8. Cynrychioliadau Ysgrifenedig

  9. Os bwriedir cynnal yr apêl drwy gynrychioliadau ysgrifenedig, gofynnir i’r Asiantaeth roi ymateb ysgrifenedig i’r Arolygiaeth ar sail yr apêl o fewn 28 diwrnod (14 diwrnod yn achos apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) ac anfon copi yn syth at yr apelydd hefyd. Pan fydd y cynrychioliadau wedi’u cwblhau, trefnir ymweliad â’r safle gan yr Arolygiaeth ar ddyddiad sy’n gyfleus i’r ddau barti, a wahoddir i fynychu. Mae’n rhaid i’r holl wybodaeth gael ei rhoi yn ysgrifenedig ac ni ellir rhoi na thrafod unrhyw dystiolaeth yn yr ymweliad â’r safle.
  10. Gwrandawiadau

  11. Bydd gwrandawiad yn caniatáu i’r materion gael eu trafod o dan gyfarwyddyd yr Arolygydd. Dilynir hyn gan ymweliad â’r safle, a gaiff ei drefnu yn ystod y gwrandawiad. Gall y naill barti neu’r llall ofyn am wrandawiad. Fel arall, gallai’r Arolygydd benderfynu y dylid cynnal gwrandawiad er mwyn trafod apeliadau gweddol gymhleth. Gofynnir i’r Asiantaeth ddarparu datganiad cychwynnol mewn ymateb i sail yr apêl. Mae’r rhaid i’r ddau barti ddarparu datganiadau llawn o’r gwrandawiad 21 diwrnod cyn y gwrandawiad. Trefnir dyddiad addas. Y bobl y mae hawl ganddynt siarad yw’r apelydd, yr Asiantaeth, ac unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i’r Asiantaeth gysylltu ag ef cyn i’r penderfyniad sy’n agored i apêl gael ei wneud. Gellir gwrando ar bobl eraill yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.
  12. Mae Atodiad 3 yn cynnwys Cod Ymarfer ar gyfer Gwrandawiadau ac yn egluro’r hyn sy’n digwydd yn ystod gwrandawiadau o’r fath.
  13. 17. Mewn achosion eithriadol iawn, gellir cynnal ymchwiliad. Er enghraifft, pan fydd tystiolaeth dechnegol arbennig o gymhleth yn rhan o’r achos ac efallai y bydd angen croesholi tystion, neu pan fydd nifer fawr o gyflwyniadau.
  14. Tynnu Apeliadau yn ôl

  15. Gall apelydd dynnu’r apêl yn ôl ar unrhyw adeg, cyhyd ag y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig i’r Cynulliad, dan ofal yr Arolygiaeth Gynllunio, ac anfonir copi i’r Asiantaeth.
  16. Os caiff yr apêl ei thynnu’n ôl, daw penderfyniad yr Asiantaeth i rym ar ddiwedd y diwrnod y caiff yr apêl ei thynnu’n ôl.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English