Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill – canllaw i’r weithdrefn apelioCam gweithredu ar ôl derbyn apêl15. Pan dderbynnir apêl, bydd yr Arolygiaeth yn gwirio’r apêl i weld a yw’n ddilys ac yna, os bydd popeth mewn trefn, yn rhoi dyddiad cychwyn amserlen yr apêl. Yna byddwn yn ysgrifennu at Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gan eu hysbysu bod apêl wedi’i dderbyn ac, os byddwch wedi gwneud cais i’r apêl gael ei chynnal drwy gynrychioliadau ysgrifenedig, gofynnwch pa un a ydynt yn cytuno â hyn, neu a fyddai’n well ganddynt i’r apêl gael ei chynnal drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol. Yn ogystal, byddwn yn hysbysu’r Asiantaeth o ddyddiad cychwyn yr apêl. 16. Yn ogystal, byddwn yn gofyn i’r Asiantaeth, o fewn 14 o dderbyn hysbysiad am yr apêl, roi gwybod i unrhyw un sydd, ym marn yr Asiantaeth; a. â diddordeb yn nhestun pwnc yr apêl mewn achosion sy’n
gysylltiedig â pharagraff 2 (iii), (iv) neu (v); Cynrychioliadau Ysgrifenedig17. Mae’r dull ysgrifenedig wrth ymdrin ag apêl yn broses o gyfnewid datganiadau rhyngoch chi ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a dilynir hyn gan ymweliad i’r safle gan Arolygydd a fydd yn penderfynu ar yr apêl. Fel arfer, hon yw’r ffordd gyflymaf, hawsaf a rhataf o benderfynu ar apêl. 18. Gofynnir i’r Asiantaeth ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r
Arolygiaeth ar eich sail apelio (datganiad achos) o fewn 28 diwrnod o’r
dyddiad cychwyn, gan anfon copi atoch. (14 diwrnod yn achos apêl
yn erbyn hysbysiad gorfodi.) Yna cewch chi a’r Asiantaeth y cyfle
i roi sylwadau ar gynrychioliadau eich gilydd a hefyd ar sylwadau y gellir
fod wedi’u derbyn gan unrhyw bartïon â diddordeb. Yna
bydd yr Arolygydd yn ymweld â’r safle. Gwrandawiadau20. Gall apelyddion ddewis i Arolygydd wrando ar eu hapêl. Fel arfer cynhelir gwrandawiad yn gyhoeddus, yn unol ag ysbryd Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Gwrandawiad)(Lloegr) 2000, OS 2000 Rhif 1626. Bydd gwrandawiad yn caniatáu i’r partïon gyflwyno eu hachos mewn awyrgylch mwy hamddenol a llai ffurfiol nag ymchwiliad (gwelir isod). Fel arfer bydd ar ffurf trafodaeth a arweinir gan yr Arolygydd, a dilynir hyn gan ymweliad safle. Os bydd yr Arolygydd yn penderfynu, gellir estyn y drafodaeth i’r safle. 21. Gall y naill barti neu’r llall wneud cais am wrandawiad neu gall yr Arolygiaeth benderfynu bod gwrandawiad yn angenrheidiol os oes materion cymharol gymhleth yn gysylltiedig â’r apêl. Bydd gwrandawiadau o’r fath yn dilyn y weithdrefn a nodir ym mharagraff 25 a hefyd yng Nghylchlythyr 05/2000. 22. Gofynnir i chi a’r Asiantaeth anfon 2 gopi o ddatganiad gwrandawiad i’r Arolygiaeth o fewn 6 wythnos i’r dyddiad cychwyn. Caiff unrhyw sylwadau gan bartïon â diddordeb eu hanfon atoch a’r Asiantaeth a chaiff y ddau barti y cyfle i wneud unrhyw gynrychioliadau pellach o fewn 9 wythnos o’r dyddiad cychwyn. 23. Bydd yr Arolygiaeth yn hysbysebu’r gwrandawiad mewn papur newydd lleol tua 21 diwrnod cyn y dyddiad y disgwylir i’r gwrandawiad ddechau a chaniateir i drigolion lleol a phartïon eraill â diddordeb fynychu gwrandawiad ac, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd, gyflwyno eu safbwyntiau. Mae gan yr Arolygydd bwerau i gynnal rhan o’r gwrandawiad, neu’r gwrandawiad cyfan, yn breifat, ond disgwylir mai yn anaml y bydd hyn yn digwydd, er enghraifft mewn achosion yn cynnwys cyfrinachedd masnachol a diogelwch cenedlaethol. Ymchwiliadau24. Cynhelir ymchwiliadau yn ysbryd Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn ar gyfer Ymchwiliad) 2000 (OS 2000 Rhifau 1624 a 1625). 25. Gall y naill barti neu’r llall ofyn am ymchwiliad cyhoeddus neu gall yr Arolygiaeth benderfynu bod un yn angenrheidiol, ond dylai’r weithdrefn hon fod yn berthnasol mewn achosion eithriadol yn unig. Er enghraifft, lle caiff tystiolaeth arbennig o gymhleth ei chyflwyno, neu lle ceir nifer fawr o gyflwyniadau neu cryn dipyn o sylw gan y cyhoedd. 26. O fewn 6 wythnos o’r dyddiad cychwyn, rhaid i chi a’r Asiantaeth gyflwyno 2 gopi o’ch datganiad i’r Arolygiaeth gan roi manylion llawn yr achos i’w gyflwyno yn yr ymchwiliad. Yn ogystal, cyflwynir proflenni tystiolaeth a datganiad tir cyffredin, heb fod yn hwyrach na 4 wythnos cyn yr ymchwiliad. Mae proflen dystiolaeth yn ddatganiad ysgrifenedig o’r dystiolaeth y mae tyst yn bwriadu ei chyflwyno yn yr ymchwiliad ac, os bydd yn fwy na 1,500 o eiriau o hyd, dylai hefyd gynnwys crynodeb nad yw’n fwy na 10% o hyd y broflen. Mae datganiad tir cyffredin yn rhestr o’r holl faterion yr ydych chi a’r Asiantaeth yn cytuno arnynt. 27. Mae ymchwiliad yn fwy ffurfiol na gwrandawiad ac mae fel arfer yn dechrau â datganiadau agoriadol byr gan y ddau brif barti. Gallant alw eu tystion er mwyn cyflwyno eu tystiolaeth, y gall yr ochr arall ei chroesholi. Fel arfer bydd yr Asiantaeth yn cyflwyno ei hachos gyntaf. Yn ogystal, gall partïon â diddordeb fynychu’r ymchwiliad a chaniateir iddynt gyflwyno eu safbwyntiau fel arfer. 28. Fel ym Mharagraff 27 uchod, efallai y bydd yr Arolygydd yn cynnal rhan o’r ymchwiliad, neu’r ymchwiliad cyfan, yn breifat pan fydd materion megis cyfrinachedd masnachol yn gysylltiedig. PENDERFYNIADAU AR APELIADAU29. a) Penderfyniad yr Arolygydd Anfonir penderfyniad yr Arolygydd at yr apelydd a’r Asiantaeth ar yr un pryd. Yn ogystal, anfonir copïau i bersonau sydd â diddordeb pan fyddant wedi gwneud cais am un, oni bai bod cyfrinachedd yn gysylltiedig â’r apêl. Bydd y penderfyniad yn cynnwys y pwyntiau pwysig a pherthnasol a fydd yn rhoi grym i benderfyniad yr Arolygydd. b) Penderfyniadau’r Ysgrifennydd Gwladol Yn dilyn yr ymweliad â’r safle, y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, bydd yr Arolygydd yn anfon adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr adroddiad yn disgrifio’r safle ac yn rhoi crynodeb o’r dadleuon a’r dystiolaeth a gyflwynir. Yn ogystal, bydd yr Arolygydd yn gwneud argymhelliad o ran pa un a ddylid caniatáu’r apêl. Yna bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried yr holl faterion dan sylw ac anfonir ei benderfyniad atoch chi a’r Asiantaeth ynghyd â chopi o adroddiad yr Arolygydd. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |