Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill – canllaw i’r weithdrefn apelioPwyntiau EraillTynnu apeliadau yn ôl30. Gall apelydd dynnu’r apêl yn ôl ar unrhyw adeg, cyhyd â bod y cadarnhad yn cael ei anfon i’r Arolygiaeth a bod copi yn cael ei anfon i’r Asiantaeth. Aseswyr32. Yn eithriadol, mewn rhai achosion ymchwiliad efallai y penodir aseswr gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn cynghori’r Arolygydd ar faterion technegol penodol. Bydd yr aseswr yn eistedd ochr yn ochr â’r Arolygydd ac yn ystyried y cynrychioliadau a wnaed. Bydd yr aseswr yn ysgrifennu adroddiad i’r Arolygiaeth, a datgelir cynnwys yr adroddiad i’r cyhoedd (oni bai bod materion cyfrinachedd yn gysylltiedig) pan gyhoeddir penderfyniad. 33. Pan benodir aseswr, hysbysir pawb fydd â hawl i ymddangos yn yr ymchwiliad o enw’r aseswr a materion y dylai ef neu hi gynghori’r Arolygydd yn eu cylch. Costau34. Fel arfer bydd yn rhaid i chi a’r Asiantaeth dalu eich treuliau eich hun am apêl. Fodd bynnag, os yw’r apêl i’w phenderfynu gan wrandawiad neu ymchwiliad, gallwch ofyn bod gorchymyn yn cael ei wneud i’r Asiantaeth dalu’ch holl gostau neu ran o’ch costau. Mae gan yr Asiantaeth yr un hawl i ofyn i chi dalu rhan o’u costau neu eu costau i gyd. 35. Fel arfer gwrandewir ar geisiadau am gostau tuag at ddiwedd y gweithrediadau a dim ond os gall y parti sy’n hawlio’r costau ddangos bod yr ochr arall wedi ymddwyn yn afresymol a pheri iddynt dalu treuliau diangen y cânt eu caniatáu. Cwynion yn erbyn y Penderfyniad36. Ar ôl i’r hysbysiad penderfyniad gael ei anfon atoch gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bydd y penderfyniad yn derfynol. Ar ôl hyn ni all Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried cynrychioliadau pellach na gwneud unrhyw sylwadau pellach ar rinweddau’r achos, neu fel arall. Cwynion yn erbyn yr Arolygiaeth Gynllunio37. Bydd y llythyrau sy’n cydnabod bod yr apêl wedi’i derbyn yn rhoi enw’r Swyddog Achos. Y Swyddog Achos ddylai fod y person cyntaf i chi gysylltu ag ef gydag ymholiadau neu gwynion am y ffordd yr ymdrinnir â’r apêl. Os na fydd hyn hyn foddhaol, gellir cysylltu â’r Swyddog Cwynion yn y cyfeiriad canlynol: Y Swyddog Cwynion Ffôn: 029 2082 3889 |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |