Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill – canllaw i’r weithdrefn apelio

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 1 - Deddf Adnoddau Dwr 1991 Caniatâd Gollwng

Rhan 1 – Cefndir Deddfwriaethol

1.1 Gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Adnoddau Dwr 1991 (fel y’i diwygiwyd), gwnaed Rheoliadau newydd ar 26 Tachwedd 1996 yn cwmpasu caniatâd gollwng, apeliadau a chofrestri cyhoeddus. Daeth y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Rheoli Llygredd (Ceisiadau, Apeliadau a Chofrestri) 1996, i rym ar 31 Rhagfyr 1996. Wrth ddod i rym, diddymodd y Rheoliadau y Rheoliadau canlynol :-

Rheoliadau Rheoli Llygredd (Caniatâd ar gyfer Gollyngiadau ac ati) (Swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol) 1989;
Rheoliadau Rheoli Llygredd (Gollyngiadau gan yr Awdurdod Afonydd Cenedlaethol) 1989;
Rheoliadau Rheoli Llygredd (Cofrestri) 1989.

1.2 Mae’r prif resymau a gwmpesir yn y Rheoliadau fel a ganlyn:-

  • y gweithdrefnau i’w dilyn mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd gollwng, neu eu hamrywio, yn cynnwys ceisiadau a wneir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn ogystal, maent yn nodi’r weithdrefn i’w dilyn pan roddir caniatâd gollwng o dan baragraff 6 Atodlen 10 Deddf Adnoddau Dwr 1991, heb wneud cais;
  • y gweithdrefnau i’w dilyn mewn cysylltiad ag apeliadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 91 a 191B Deddf Adnoddau Dwr 1991 – apeliadau yn erbyn caniatâd gollwng ac apeliadau mewn cysylltiad â gwybodaeth i’w chofnodi ar gofrestri rheoli llygredd y mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi penderfynu nad yw’n fasnachol gyfrinachol;
  • y manylion sydd i’w cofnodi ar gofrestri rheoli llygredd dwr a gynhelir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Maent yn nodi pryd y dylid cofnodi, ac yn ymdrin â mynegeio’r cofrestri.

Rhan 2 – Materion y gellir eu cwmpasu gan apêl

2.1 Pan fydd apêl yn cael ei pharatoi gan Arolygydd, efallai y bydd agen cyngor ar:

  • yr effaith ar ddosbarthiad yr afon:
  • yr effaith ar amcanion Ansawdd Dwr Statudol;
  • pa un a yw amod wedi’i eirio’n briodol.

2.2 Lle y bo’n berthnasol, gellir gofyn i bartïon apêl ddarparu rhai o’r manylion canlynol:

  • hanes cryno o’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r apêl;
  • tarddiad y ffynhonnell ddwr a’i gyfansoddiad cemegol a’i nodweddion ffisegol os yw’r gollyngiad o waith trin dwr;
  • y cyfaint, unrhyw amrywiad, cyfansoddiad cemegol a nodweddion ffisegol y gollyngiad dwr;
  • darlun sgematig o lif y dwr
  • cynllun yn dangos lleoliad a manylion gollyngiadau eraill a/neu dyniadau a allai dresmasu ar ollyngiad yr apêl;
  • y driniaeth elifiant a’r gwaith trin;
  • mesuriad ffisegol y llif dwr a dderbynnir, yn cynnwys Llif Tywydd Sych, neu resymau pam nad yw hyn yn bosibl neu pam na chaiff ei ystyried yn angenrheidiol;
  • pa un a fydd dwr ychwanegol ar gael os bydd y llifau dwr yn disgyn o dan lefel benodol;
  • y ffyrdd i’w defnyddio ar gyfer monitro’r amodau dadleuol;
  • canlyniadau dileu’r amod dadleuol h.y., beth fyddai’r canlyniadau o ran meini prawf y Gymuned Ewropeaidd a meini prawf cenedlaethol;
  • mesurau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r amod dadleuol neu’r amodau dadleuol;
  • pa un a yw’r gwelliannau a geisir gan yr Asiantaeth yn cael eu hariannu gan yr AMP;
  • efallai y bydd angen gofyn i’r Asiantaeth ystyried costau a buddiannau eu camau gweithredu mewn unrhyw achos penodol (gweler Adran 39 Deddf yr Amgylchedd 1995).

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English