Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill – canllaw i’r weithdrefn apelioAtodiad 2 – Canllaw Swyddogol Cyhoeddedig at ddibenion CyfeirioGellir dod o hyd i gyngor ar lawer o’r materion a allai fod yn destun apêl yn y cyhoeddiadau canlynol:- PRIF DDEDDFWRIAETHDeddf yr Amgylchedd 1995Sefydlodd y Ddeddf hon Asiantaeth yr Amgylchedd, a gwnaeth ddarpariaethau hefyd gan gynnwys y rhai ar gyfer rheoli llygredd, gwarchod adnoddau naturiol a gwarchod neu wella’r amgylchedd. Rhannau mwy perthnasol y Ddeddf hon yw Adran 114, Atodlen 20, Atodlen 22 (Paragraffau 142-145, 161-171 ac 182-186) ac Atodlen 23 (Paragraff 21) y Ddeddf hon, sy’n diwygio Deddf 1991 mewn cysylltiad â cheisiadau am ganiatâd gollwng, apeliadau, a chofrestri cyhoeddus. Deddf Adnoddau Dwr 1991Cyfunodd y Ddeddf hon y ddeddfwriaeth dër flaenorol o ran ansawdd a maint. Deddf Diwydiant Dwr 1991Mae’r Ddeddf hon yn cyfuno’r deddfau sy’n ymwneud â chyflenwi dër a darparu gwasanaethau carthffosiaeth. Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990Sefydlodd y Ddeddf hon ddarpariaethau statudol ar gyfer amrywiaeth o ddibenion Diogelwch Amgylcheddol, gan gynnwys rheolaeth llygredd integredig ar gyfer y rhan fwyaf o brosesau peryglus; rheoliadau gwastraff; a niwsans statudol. DEDDFWRIAETH EILRADDRheoli Llygredd (Ceisiadau, Apeliadau a Chofrestri) 1996: OS Rhif 2971 CYFARWYDDEBAU’R GECyfarwyddeb Dwr Ymdrochi (76/160/CEE) Cyfarwyddeb Trin Dwr Gwastraff Trefol (91/271/CEE)Mae hon yn nodi’r gofynion ar gyfer darparu systemau casglu a thriniaeth
Cyfarwyddeb Sylweddau Peryglus (76/464/CEE)Ynghyd â Deddf Adnoddau Dwr 1991 (fel y’i diwygiwyd), ei nod yw rheoli faint o sylweddau peryglus penodol a gaiff eu rhoi yn nyfroedd y Gymuned. Cyfarwyddeb Dwr Daear (80/68/CEE)Mae’r Gyfarwyddeb hon yn ymwneud â’r Gyfarwyddeb Sylweddau Peryglus, ac mae’n cymhwyso rheolau tebyg i ddiogelwch dër daear. Cyfarwyddeb Pysgod Dwr Croyw (78/659/CEE)Cyfarwyddeb Dwr Pysgod Cregyn (79/923/CEE)Nod y ddwy Gyfarwyddeb hon yw diogelu iechyd pysgod dër croyw a physgod cregyn drwy ddynodi dyfroedd y mae angen eu diogelu a gosod safonau ansawdd ar gyfer y dyfroedd hynny. Ceir Cyfarwyddeb (91/492/CEE) hefyd sy’n anelu at ddiogelu iechyd y rhai sy’n bwyta pysgod cregyn drwy orfodi safonau ansawdd ar gyfer bacteria. Cyfrifoldeb MAFF yw gweithredu a rheoleiddio’r Gyfarwyddeb hon. Cyfarwyddeb Nitradau o Ffynonellau Amaethyddol (91/676/CEE)Mae’r Gyfarwyddeb hon yn mynnu bod Aelod Wladwriaethau yn nodi ac yn diogelu dyfroedd a ddiffiniwyd fel rhai sydd wedi’u llygru gan nitradau, yn ôl meini prawf a ddisgrifir gan y Gyfarwyddeb hon. Arweiniad Perthnasol ArallGellir hefyd dod o hyd i arweiniad at faterion penodol sy’n deillio
o bryd i’w gilydd mewn dogfennau fel:- |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |