Caniatadau Gollwng a Chaniatadau Eraill –
canllaw i’r weithdrefn apelio
Atodiad 3 – Achosion y Cynulliad Cenedlaethol
- Achosion pwysig iawn yw’r rhain y gallai’r Cynulliad
eu hadfer er mwyn
penderfynu arnynt. Yn yr achosion hyn, bydd yr Arolygydd yn cynnal gwrandawiad
yn y ffordd arferol ond yna’n paratoi adroddiad a fydd yn disgrifio’r
safle dan sylw, yn crynhoi’r achos ar gyfer yr apelydd a’r
Asiantaeth, ac yn rhoi eu hystyriaethau a’u casgliadau eu hunain,
gydag argymhelliad ynghylch y penderfyniad y gallai’r Cynulliad
ei wneud.
- Caiff pob achos ei ystyried yn unigol ac nid yw’n bosibl rhagweld
pob math o apêl a allai ddisgyn i’r categori hwn, ond gallent
gynnwys er enghraifft:-
- achosion sy’n ymwneud â safleoedd pwysig iawn a/neu
sydd â mwy nag arwyddocâd lleol neu ranbarthol;
- achosion sy’n codi anawsterau cyfreithiol sylweddol;
- achosion y gellir penderfynu arnynt mewn cydweithrediad ag achosion
eraill yn unig nad oes gan Arolygwyr awdurdodaeth drostynt;
- achosion sy’n codi materion pwysig newydd o ran polisi mewn
perthynas â rheolaeth caniatáu gollwng gyda goblygiadau
â chynsail (er enghraifft, amodau Kinnersley Rubric ac amodau
niwed i bysgod mewn dyfroedd arfordirol).
- Yn eithriadol, efallai y bydd achosion eraill sy’n deilwng
o’u hadfer o ganlyniad i’r amgylchiadau penodol. Er enghraifft,
efallai y bydd angen i rai achosion sy’n cynnwys cyfrinachedd
masnachol gael eu hadfer, ond ni fydd angen adfer pob un ohonynt. Mae
hefyd yn bosibl y gallai amgylchiadau achosion a adferwyd newid yn ystod
y broses benderfynu, os, er enghraifft, byddai apêl atodol nad
oes gan yr Arolygydd unrhyw awdurdodaeth drosti yn cael ei thynnu yn
ôl. Mewn achosion o’r fath, gellir dychwelyd yr apêl
i’r Arolygydd er mwyn iddo benderfynu arni.
|
Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau
i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy
|