DEDDF CYNLLUNIO (SYLWEDDAU PERYGLUS) 1990 APELIADAU CANIATÂD SYLWEDDAU PERYGLUSCanllawiau ar y Weithdrefn ApelioCYFLWYNIAD1. Mae’r arweiniad hwn yn cwmpasu’r gweithdrefnau ar gyfer apeliadau o ran caniatadau sylweddau peryglus a roddwyd gan yr awdurdod sylweddau peryglus (ASP). Mae’n egluro’r cefndir deddfwriaethol, yn tynnu’r amrywiol gyhoeddiadau sy’n berthnasol ynghyd ac mae’n nodi rhai o’r materion penodol a all fod yn amodol ar yr apêl. Credir fod y wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ac mae’n cyfeirio at weithdrefnau yng Nghymru, ond nid oes iddi statws cyfreithiol. Nodir y gweithdrefnau y dylid eu dilyn yn Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 ac fe’u gwneir o dan ddarpariaethau Adran 21 Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990. Hefyd, rhoddir arweiniad yng Nghylchlythyr 20/01, ‘Rheolaethau Cynllunio Sylweddau Peryglus’. RHESYMAU DROS APELIO2. Gall y rhai sy’n gwneud cais am ganiatâd sylweddau peryglus apelio o dan Adran 21 Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 ar y seiliau canlynol.
CYN GWNEUD APÊL4. Cynghorir darpar geiswyr i geisio datrys unrhyw drafferthion neu anghytundebau gyda’r ASP cyn apelio. Dylid ystyried apêl fel y dewis olaf. PWY SY’N PENDERFYNU AR EICH APÊL5. Yn dilyn yr ymweliad safle, neu ar ôl i wrandawiad neu ymchwiliad ddod i ben, bydd yr Arolygydd yn cyflwyno adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr adroddiad yn disgrifio’r safle ac yn crynhoi’r dadleuon a’r dystiolaeth a gyflwynwyd. Hefyd, bydd yr Arolygydd yn gwneud argymhelliad o ran pa un a ddylid caniatáu’r apêl ai peidio. Yna, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried yr holl faterion sy’n ymwneud â’r apêl ac yn gwneud penderfyniad a gaiff ei anfon atoch ac at yr ASP gyda chopi o adroddiad yr Arolygydd. SUT I APELIO 6. Anfonwch ddogfennau apelio i’r cyfeiriad isod neu cysylltwch
â: |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |