APELIADAU CANIATÂD SYLWEDDAU PERYGLUS – ADRAN 21 DEDDF CYNLLUNIO (SYLWEDDAU PERYGLUS) 1990Dewis y weithdrefn12. Ar ffurflen yr apêl, nodwch pa weithdrefn yr hoffech ei dilyn. Os ydych wedi gwneud cais i’r apêl gael ei hystyried trwy gyfwng cynrychioliadau ysgrifenedig, byddwn yn gofyn i’r ASP a ydynt yn cytuno i hyn neu a fyddai’n well ganddynt gynnal ymchwiliad lleol. Nodir manylion pob un o’r gweithdrefnau isod. Cynrychioliadau Ysgrifenedig13. Ymdrinnir ag apeliadau yn ysbryd Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Trosglwyddiadau ac Apeliadau) (Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003, OS 2003 Rhif 390 (W.52). 14. Y dull ysgrifenedig o ymdrin ag apêl yw cyfnewid datganiadau rhyngoch chi a’r ASP, a ddilynir gan ymweliad safle gan yr Arolygydd a fydd yn gwneud argymhelliad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fel arfer, dyma’r ffordd gyflymaf, symlaf a rhataf o benderfynu ar apêl. 15. Os ydych wedi gwneud cais am y weithdrefn cynrychioliadau ysgrifenedig, datganiad llawn o’r achos y dymunwch ei chyflwyno ddylai fod seiliau eich apêl. Os dymunwch wneud cynrychioliadau atodol, dylid anfon y rhain at yr Arolygiaeth o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau. Bydd yn ofynnol i’r ASP anfon 2 gopi o’u datganiad i’r Arolygiaeth o fewn 6 wythnos o’r dyddiad dechrau. Hefyd, gall unrhyw barti sydd â diddordeb yn yr apêl wneud sylwadau o fewn y cyfnod hwn. Yna, byddwch chi a’r ASP yn cael cyfle i wneud sylwadau ar yr holl gynrychioliadau o fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau. Yna, bydd yr Arolygydd yn ymweld â’r safle. 16. Mae’n arferol i Arolygydd fynychu’r ymweliad safle gyda chynrychiolydd o’r ddau barti er mwyn cael mynediad i’r safle. Fodd bynnag, ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu unrhyw drafodaeth ar deilyngdod yr achos a bydd yn cyfyngu’r drafodaeth i gwestiynau ar nodweddion ffisegol y safle ei hun. Ymchwiliadau17. Cynhelir ymchwiliadau yn ysbryd Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003, OS. 2003 Rhif 1266. 18 Gall y naill barti neu’r llall ofyn am ymchwiliad cyhoeddus, neu gall yr Arolygiaeth benderfynu fod angen un. Gall yr Arolygiaeth benderfynu bod ymchwiliad yn angenrheidiol, er enghraifft, lle y caiff tystiolaeth dechnegol arbennig o gymhleth ei chyflwyno; lle y gall fod angen croesholi; lle y cafwyd nifer o gyflwyniadau neu lle y ceir llawer iawn o ddiddordeb ymysg y cyhoedd. 19. Os byddwch wedi gwneud cais am ymchwiliad lleol, dim ond amlinelliad bras o’r achos sydd ei angen yn sail eich apêl. Yna, o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau, rhaid i chi a’r ASP gyflwyno datganiad gerbron yr Arolygiaeth yn nodi manylion yr achos yn llawn i’w cyflwyno yn yr ymchwiliad. Yna, cewch chi a’r ASP gyfle i wneud sylwadau ar yr holl gynrychioliadau o fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau. Hefyd, dylid cyflwyno datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth a datganiad o dir cyffredin heb fod yn hwyrach na 4 wythnos cyn yr ymchwiliad. Datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth yw datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth y mae tyst yn bwriadu ei chyflwyno yn yr ymchwiliad ac, os yw’n hwy na 1,500 gair, dylid cynnwys crynodeb nad yw’n fwy na 10% o hyd y dystiolaeth. Rhestr o’r holl faterion yr ydych chi a’r ASP yn cytuno arnynt yw datganiad o dir cyffredin. 20. Fel arfer, mae ymchwiliad yn dechrau gyda datganiadau agoriadol cryno gan y ddau brif barti. Yna, gall pob parti alw ar dystion i roi tystiolaeth y gellir ei chroesholi gan yr ochr arall. Fel arfer, bydd yr ASP yn cyflwyno ei achos yn gyntaf. Gall partïon eraill sydd â diddordeb hefyd fynychu’r ymchwiliad ac yn ôl disgresiwn yr Arolygydd, cânt fynegi eu barn. PWYNTIAU ERAILLTynnu apeliadau yn ôl21. Gall ceisydd dynnu’r apêl yn ôl unrhyw bryd cyn belled ag y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio ac y cânt eu copïo i’r ASP. Aseswyr22. Mewn rhai achosion lle cynhelir ymchwiliad, gall eithriad ddigwydd lle y caiff aseswr ei benodi gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i gynghori’r Arolygydd ar faterion technegol arbenigol iawn. Bydd yr aseswr yn ysgrifennu adroddiad ac yn ei anfon at yr Arolygydd, y bydd ei gynnwys yn cael ei wneud yn gyhoeddus pan gaiff penderfyniad ei wneud. 23. Lle y penodir aseswr, bydd pawb sydd â hawl i fod yn bresennol yn yr ymchwiliad yn cael eu hysbysu o enw’r aseswr a’r materion y bydd ef neu hi yn cynghori’r Arolygydd arnynt. Costau24. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi a’r ASP dalu eich costau eich hunain ar gyfer yr apêl. Fodd bynnag, os mai mewn ymchwiliad y bydd penderfyniad ar yr apêl yn cael ei wneud, gallwch wneud cais i’r ASP orfod talu eich holl gostau neu ran o’ch costau. 25. Fel arfer, trafodir ceisiadau am gostau tua diwedd gweithrediadau’r ymchwiliad a dim ond os bydd y parti sy’n gwneud cais am gostau yn gallu dangos bod yr ochr arall wedi ymddwyn yn afresymol ac wedi peri iddynt orfod gwario’n ddiangen y gellid gwneud hyn. Cwynion am y penderfyniad 26. Mae penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn derfynol. Erbyn
hyn, ni all Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried cynrychioliadau pellach
neu wneud unrhyw sylwadau pellach ar deilyngdod yr achos nac ar unrhyw
beth arall sy’n ymwneud â hi. Cwynion am yr Arolygiaeth Gynllunio 28. Bydd y llythyrau sy’n cydnabod bod yr apêl wedi’i
derbyn yn nodi enw’r Swyddog Achos sy’n ymdrin â’r
apêl. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu gwynion am y modd yr
ymdriniwyd â’ch apêl, dylech gysylltu â’ch
Swyddog Achos yn gyntaf. Os nad yw hyn yn foddhaol, gellir cysylltu â’r
Swyddog Cwynion yn y cyfeiriad canlynol: |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |