Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

APELIADAU CANIATÂD SYLWEDDAU PERYGLUS – ADRAN 21 DEDDF CYNLLUNIO (SYLWEDDAU PERYGLUS) 1990 Tystysgrif o Dan Reoliad 13(5)

Tudalen dwethaf Tabl Cynnwys Tudalen nesaf

Tystysgrifau i’w darparu o dan Reoliad 13

Wrth wneud apêl, bydd angen i chi gwblhau tystysgrif ffres o ran perchenogaeth, oherwydd efallai y bydd y sefyllfa wedi newid ers i’r cais gael ei wneud. Atodir yr hysbysiad a gaiff ei gyflwyno gerbron perchennog ynghyd â thystysgrifau (A) i (D). Dim ond UN o dystysgrifau (A) i (D) fydd yn bodloni amgylchiadau’r achos ac y bydd angen ei gwblhau.

Golyga ‘perchennog’ unigolyn sydd â diddordeb neu denantiaeth rydd-ddaliadol lle nad yw ei dymor annarfodedig yn llai na 7 mlynedd.

  • Os mai chi yw unig berchennog y tir y mae’r apêl yn ymwneud ag ef, cwblhewch a dychwelwch dystysgrif A.

Os nad chi yw unig berchennog y tir, dylid cymryd un o’r camau canlynol:

  • os yw enwau a chyfeiriadau pob perchennog (neu berchenogion eraill, os ydych yn berchen ar ran o’r tir) yn hysbys, dylech eu hysbysu yn y ffurflen a ddangosir yn yr HYSBYSIAD O APÊL O DAN REOLIAD 13(5) atodedig. Cwblhewch a dychwelwch dystysgrif B, ynghyd â chopi o’r Hysbysiad o dan Reoliad 13(5).
  • os yw enwau a chyfeiriadau rhai o’r perchenogion, ond nid pob un ohonynt yn hysbys, dylech gwblhau a dychwelyd tystysgrif C, ynghyd â chopi o’r Hysbysiad o dan Reoliad 13(5).
  • os nad yw enwau a chyfeiriadau dim un o’r perchenogion yn hysbys, cwblhewch dystysgrif D.

Pan fo’n ofynnol i chi roi hysbysiad i berchenogion, a bod eu henwau a’u cyfeiriadau yn hysbys, gellir cyflwyno’r Hysbysiad iddynt yn bersonol, ei adael yn eu cyfeiriad, neu eu hanfon atynt gyda registered post neu wasanaeth ‘recorded delivery’. Os oes rhaid cyflwyno’r hysbysiad i gwmni neu gorff corfforedig arall, rhaid ei anfon at ysgrifennydd neu glerc y cwmni yn eu swyddfa gofrestredig neu yn eu prif swyddfa, trwy gyfrwng unrhyw un o’r tri dull a nodir uchod.

Mae perygl y caiff unrhyw un sy’n cyflwyno tystysgrif sy’n cynnwys unrhyw ddatganiad sy’n ffug neu’n gamarweiniol mewn deunydd penodol yn fwriadol neu’n fyrbwyll eu dyfarnu’n euog neu eu dirwyo os cânt eu canfod yn euog.

Hysbysiad apêl o dan Reoliad 13(5)

I’w gyflwyno i berchennog (golyga “perchennog” unigolyn sydd â diddordeb neu denantiaeth rydd-ddaliadol nad yw ei dymor diweddu yn llai na 7 mlynedd.)

Rwy’n hysbysu fod

(a)......................................................................................................................

sydd wedi gwneud cais i’r

(b).....................................................................................................................

am ganiatâd sylweddau peryglus / i ymestyn caniatâd sylweddau peryglus* i

(c)......................................................................................................................

..........................................................................................................................

..........................................................................................................................

..........................................................................................................................

yn (d).................................................................................................................

..........................................................................................................................

yn apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

* yn erbyn penderfyniad (b)...............................................................................

* am fethiant (b)................................................................................................ i roi hysbysiad o benderfyniad.

Os hoffech wneud cynrychioliadau am yr apêl hwn, dylech ysgrifennu at Yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad hwn.


Llofnodwyd...............................................................................

* Ar ran ....................................................................................

Dyddiad.....................................................................................

*dilëwch lle bo’n amhriodol

Nodiadau

  • enw’r apelydd
  • enw’r ASP y gwnaed cais iddo
  • manylion bras y caniatâd a geisir
  • cyfeiriad neu leoliad safle’r cais

Tudalen dwethaf Tabl Cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English