Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)
Atodiad 2
Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliad
Amserlen |
Chi |
ACLl |
Pobl â diddordeb |
Apêl a wnaed
Rydym yn pennu dyddiad dechrau |
Rydych yn anfon eich ffurflen apelio a’r holl
ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl. Dylai sail eich apêl
ffurfio eich achos llawn. |
Os na fydd y cyngor am gael y weithdrefn ysgrifenedig
(neu os penderfynwn fod angen i Arolygydd wrando ar yr apêl),
byddwn yn eich hysbysu ac yn trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad.
|
|
O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau |
Rydych yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau
ategol gan yr ACLl. |
Mae’r cyngor yn anfon copi o holiadur wedi’i gwblhau
a dogfennau ategol atoch chi. Maent yn ysgrifennu at bobl â
diddordeb ynglyn â’r apêl.
|
Mae’r bobl â diddordeb yn derbyn llythyr yr ACLl
yngln â’r apêl. |
O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau hwyr ond cânt eu dychwelyd.) |
Rydych yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom. Dim
ond at faterion a godwyd gan yr holiadur ac unrhyw ddogfennau ategol
y dylai hyn gyfeirio. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach
atom. |
Mae’r bobl â diddordeb yn anfon 3 chopi o unrhyw
sylwadau atom. |
| O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer ni dderbynnir sylwadau a anfonwyd yn hwyr ond cânt
eu dychwelyd.) |
Rydych yn anfon 2 gopi o’ch sylwadau terfynol ar ddatganiad
yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol
ar eich datganiad ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb
atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
|
* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt gael eu
derbyn o fewn y terfynau amser
Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi
a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.
Penderfyniad: Ar ôl yr ymchwiliad, bydd yr Arolygydd
yn ysgrifennu’r
penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir
copi o’r hysbysiad o
benderfyniad atoch chi a’r ACLl. Anfonir copi hefyd at unrhyw un
sy’n
gofyn am un.
|