Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Atodiad 3

Tudalen dwethaf table of contents Tudalen nesaf

Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad

Amserlen

Chi

ACLl

Pobl â diddordeb

Apêl a wnaed

Rydym yn pennu dyddiad dechrau

Rydych yn anfon eich ffurflen apelio a’r holl ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl. Dylai sail eich apêl ffurfio eich achos llawn.

Mae’r ACLl yn ein hysbysu os nad ydynt o’r farn bod gwrandawiad yn addas.

 

O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau

Rydych yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau ategol gan yr ACLl.

Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau ategol atoch chi ac atom ni. Maent yn ysgrifennu at bobl â diddordeb ynglyn â’r apêl.

Mae’r bobl â diddordeb yn derbyn llythyr yr ACLl ynglyn â’r apêl.

 

O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau hwyr ond cânt eu dychwelyd.)

Rydych yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom.

 

Mae’r bobl â diddordeb yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom.

O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*

(Fel arfer ni dderbynnir sylwadau a anfonwyd yn hwyr ond cânt eu dychwelyd.)

Rydych yn anfon 2 gopi o’ch sylwadau terfynol ar ddatganiad yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar eich datganiad ac unrhyw sylwadau a wnaed gan bobl â diddordeb atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

 

* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt gael eu derbyn o fewn y terfynau amser

Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.

Penderfyniad: Ar ôl y gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir copi o’r hysbysiad o benderfyniad atoch chi a’r ACLl. Anfonir copi hefyd at unrhyw un sy’n gofyn am un.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English