Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Atodiad 4

Tudalen dwethaf table of contents Tudalen nesaf

Deddfwriaeth berthnasol

Tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol.

Adran 191, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(1) Os bydd unrhyw berson am gadarnhau -

(a) a oes unrhyw ddefnydd presennol o adeiladau neu dir arall yn gyfreithlon;

(b) a yw unrhyw weithrediadau a gynhaliwyd mewn tir, ar dir, dros dir neu o dan dir, yn gyfreithlon; neu

(c) a yw unrhyw fater arall, sy’n golygu y methir â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo, yn gyfreithlon,

gall wneud cais at y diben i’r awdurdod cynllunio lleol yn nodi’r tir ac yn disgrifio’r defnydd, y gweithrediadau neu unrhyw fater arall.

(2) At ddibenion y Ddeddf hon, mae defnyddiau a gweithrediadau yn gyfreithlon ar unrhyw adeg -

(a) os na ellir cymryd unrhyw gamau gorfodi mewn perthynas â hwy (am nad oeddent yn ymwneud â datblygu neu am nad oedd angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer neu am fod y cyfnod ar gyfer camau gorfodi wedi dod i ben neu am unrhyw reswm arall); ac

(b) os nad ydynt yn torri unrhyw un o ofynion unrhyw hysbysiad gorfodi, sydd mewn grym bryd hynny.

(3) At ddibenion y Ddeddf hon, mae unrhyw fater sy’n golygu y methir â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo, yn gyfreithlon ar unrhyw adeg -

(a) os bydd y cyfnod ar gyfer cymryd camau gorfodi mewn perthynas â’r methiant wedi dod i ben bryd hynny; ac

(b) os na fydd yn torri unrhyw un o ofynion unrhyw hysbysiad gorfodi neu hysbysiad tor-amod, sydd mewn grym bryd hynny.

(4) Ar gais o dan yr adran hon, os rhoddir gwybodaeth i’r awdurdod cynllunio lleol sy’n eu bodloni bod y defnydd, y gweithrediadau neu’r mater arall a ddisgrifiwyd yn y cais, neu’r disgrifiad hwnnw a ddefnyddiwyd ganddynt, yn gyfreithlon ar adeg y cais, byddant yn cyhoeddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw; ac mewn unrhyw fater arall, byddant yn gwrthod y cais.

(5) Bydd tystysgrif o dan yr adran hon yn -

(a) nodi’r tir y mae’n ymwneud ag ef;

(b) disgrifio’r defnydd, y gweithrediadau neu’r mater arall dan sylw (gan ei nodi drwy gyfeirio at y dosbarth hwnnw, yn achos unrhyw ddefnydd sy’n syrthio i un o’r dosbarthiadau a nodwyd mewn gorchymyn o dan adran 55(2)(f));

(c) rhoi’r rhesymau dros benderfynu bod y defnydd, y gweithrediadau neu’r mater arall yn gyfreithlon; a

(d) nodi’r dyddiad y gwnaed cais am y dystysgrif.

(6) Caiff cyfreithlondeb unrhyw ddefnydd, gweithrediadau neu fater arall, y mae tystysgrif mewn grym ar eu cyfer o dan yr adran hon, ei ragdybio’n derfynol.

(7) Bydd tystysgrif o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ddefnydd hefyd yn weithredol, at ddibenion y deddfau canlynol, fel pe bai’n rhoi caniatâd cynllunio -

(a) adran 3(3) Deddf Meysydd Carafanau a Rheoli Datblygiad 1960;

(b) adran 5(2) Deddf Rheoli Llygredd 1974; a

(c) adran 36(2) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Tystysgrif o gyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad arfaethedig

Adran 192, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(1) Os bydd unrhyw berson am gadarnhau -

(a) a fyddai unrhyw ddefnydd arfaethedig o adeiladau neu dir arall; neu

(b) a fyddai unrhyw weithrediadau y bwriedir eu cynnal mewn tir, ar dir, dros dir neu o dan dir,

yn gyfreithlon, gallai wneud cais at y diben i’r awdurdod cynllunio lleol yn nodi’r tir ac yn disgrifio’r defnydd neu’r gweithrediadau dan sylw.

(2) Os rhoddir gwybodaeth i’r awdurdod cynllunio lleol ar gais, o dan yr adran hon, sy’n eu bodloni y byddai’r defnydd neu’r gweithrediadau a ddisgrifiwyd yn y cais yn gyfreithlon pe caent eu sefydlu neu eu dechrau ar adeg y cais, byddant yn cyhoeddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw; ac mewn unrhyw fater arall, byddant yn gwrthod y cais.

(3) Bydd tystysgrif o dan yr adran hon yn -

(a) nodi’r tir y mae’n ymwneud ag ef;

(b) disgrifio’r defnydd neu’r gweithrediadau dan sylw (gan ei nodi drwy gyfeirio at y dosbarth hwnnw, yn achos unrhyw ddefnydd yn syrthio i un o’r dosbarthiadau a nodwyd mewn gorchymyn o dan adran 55(2)(f));

(c) rhoi’r rhesymau dros benderfynu bod y defnydd neu’r gweithrediadau yn gyfreithlon; a

(d) nodi’r dyddiad y gwnaed cais am y dystysgrif.

(4) Caiff cyfreithlondeb unrhyw ddefnydd neu weithrediadau, y mae tystysgrif mewn grym ar eu cyfer o dan yr adran hon, ei ragdybio’n derfynol oni fydd unrhyw un o’r materion sy’n berthnasol i bennu cyfreithlondeb o’r fath yn newid yn sylweddol cyn i’r defnydd gael ei sefydlu neu cyn i’r gweithrediadau ddechrau.

Apeliadau yn erbyn gwrthodiad neu fethiant i roi penderfyniad ar gais

Adran 195, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(1) Pan wneir cais i awdurdod cynllunio lleol am dystysgrif o dan adran 191 neu 192 a –

(a) gwrthodir y cais neu gwrthodir y cais yn rhannol, neu

(b) nid yw’r awdurdod yn hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad ar y cais o fewn y cyfryw gyfnod ag y gellir ei ragnodi gan orchymyn datblygu nac o fewn y cyfryw gyfnod estynedig y gellir cytuno arno ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig rhwng yr apelydd a’r awdurdod, gall y ceisydd apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hysbysiad.

(2) Ar unrhyw apêl o’r fath, os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fodlon, ac i’r graddau y mae’n fodlon -

(a) nad oes sail gadarn i wrthodiad yr awdurdod, mewn achos apêl o dan is-adran (1)(a), neu

(b) na fyddai sail gadarn i wrthodiad yr awdurdod, pe byddai wedi gwrthod y cais, mewn achos apêl o dan is-adran (1)(b),

gallai roi tystysgrif i’r apelydd o dan adran 191, neu 192 os mai dyna’r achos, neu gallai addasu’r dystysgrif a roddwyd gan yr awdurdod ar y cais, os gwrthodwyd y cais.

(3) Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fodlon, ac i’r graddau y mae’n fodlon, bod sail gadarn i wrthodiad yr awdurdod, neu y byddai sail gadarn wedi bod iddo, yn ôl y galw, bydd yn gwrthod yr apêl.

(4) Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at wrthod cais yn rhannol yn cynnwys addasu neu newid y disgrifiad o’r defnydd, y gweithrediadau neu’r mater arall dan sylw a geir yn y cais.
(5) At ddibenion cymhwyso adran 288(10)(b) mewn perthynas ag apêl mewn achos o fewn is-adran (1)(b), tybir bod yr awdurdod wedi penderfynu gwrthod y cais dan sylw.

(6) Mae Atodlen 6 yn berthnasol i apeliadau o dan yr adran hon.

Darpariaethau pellach o ran cyfeiriadau ac apeliadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Adran 196, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(1) Cyn penderfynu ar apêl a gyflwynir iddo o dan adran 195(1), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol ymddangos, pe dymunant, gerbron person a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y diben er mwyn iddo wrando arnynt.

(2) Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi tystysgrif o dan adran 191 neu 192 ar apêl o’r fath, bydd yn hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol o’r ffaith honno.

(3) Bydd penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl o’r fath yn derfynol.

(4) Bydd y wybodaeth y gellir ei rhagnodi fel gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan adran 69 yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â thystysgrifau o dan adran 191 neu 192 a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5) Ar gais neu apêl o’r fath, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ddefnydd o dir na rhoddwyd tystysgrif o ddefnydd sefydledig ar ei gyfer (naill ai gan y Cynulliad neu gan yr awdurdod cynllunio lleol), roi caniatâd cynllunio ar gyfer y defnydd hwnnw neu ar gyfer parhau â’r defnydd hwnnw heb gydymffurfio ag amod penodol y rhoddwyd caniatâd cynllunio blaenorol yn ddarostyngedig iddo, yn ôl y galw.

(6) Mewn achos unrhyw ddefnydd o dir y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwer i roi caniatâd cynllunio ar ei gyfer o dan yr adran hon, tybir bod y ceisydd neu’r apelydd wedi gwneud cais ar gyfer caniatâd cynllunio o’r fath.

(7) Caiff unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn y fath fodd ei drin fel caniatâd a roddir ar y cais hwnnw.

(8) Bydd is-adran (5) o adran 250 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (sy’n awdurdodi Gweinidog sy’n cynnal ymchwiliad o dan yr adran honno i wneud gorchmynion mewn perthynas â chostau’r partïon) yn berthnasol mewn perthynas ag unrhyw weithrediadau a gyflwynir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar apêl o dan adran 195 fel pe bai’r gweithrediadau hynny yn ymchwiliad a gynhelir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 250.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apeliadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/394 (W53))

Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth am gamau cynnar apêl.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/395 (W54))

Mae’r rhain yn egluro’r gweithdrefnau a’r terfynau amser ar gyfer camau amrywiol y weithdrefn ar gyfer apeliadau ysgrifenedig.

Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Gwrandawiadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/1268 )

Mae’r rhain yn egluro’r gweithdrefnau a’r terfynau amser ar gyfer camau amrywiol yr apeliadau gorfodi a bennir drwy wrandawiad. Maent yn egluro hawliau a chyfrifoldebau pawb sy’n ymwneud ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy wrandawiad.

Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003 (OS Rhif 2003/1269 )

Rheolau Apeliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfyniad gan Arolygwyr) (Gorfodi) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) (OS Rhif 2003/1270)

Mae’r rhain yn egluro’r gweithdrefnau a’r terfynau amser ar gyfer camau amrywiol yr apeliadau gorfodi a bennir drwy ymchwiliad. Maent yn egluro hawliau a chyfrifoldebau pawb sy’n ymwneud ag apêl yr ymdrinnir â hi drwy ymchwiliad.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English