Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)Atodiad 5Diben y system Mae adrannau 191 ac 192 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990)
yn darparu ar gyfer unrhyw un (nid dim ond pobl â diddordeb cyfreithiol
yn y tir) i wneud cais i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) am dystysgrif
datblygiad cyfreithlon. Dogfen statudol yw tystysgrif sy’n ardystio:- Yr hyn y mae “cyfreithlondeb” yn ei olygu at ddibenion cynllunioMae defnyddiau a gweithrediadau yn “gyfreithlon” os na ellir cymryd unrhyw gamau gorfodi yn eu herbyn ac os nad ydynt yn mynd yn groes i unrhyw hysbysiad gorfodi sydd mewn grym. Bydd methu â chydymffurfio ag unrhyw amod neu gyfyngiad, y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo, yn “gyfreithlon” os bydd yr amser ar gyfer cymryd camau gorfodi mewn perthynas â’r methiant wedi dod i ben ac os na thorrir unrhyw hysbysiad gorfodi neu hysbysiad tor-amod sydd mewn grym. Yr hyn y mae tystysgrif yn ei wneud Bydd tystysgrif a roddir ar gyfer defnydd, gweithrediad neu weithgaredd
presennol yn nodi (drwy gyfeirio at gynllun neu lun) ardal y tir a gynhwysir
yn y dystysgrif ac yn disgrifio union natur y defnydd, y gweithrediad
neu’r gweithgaredd sy’n gyfreithlon yn ôl y dystysgrif.
Ni fydd y dystysgrif yn eich diogelu rhag camau gorfodi gan yr awdurdod
cynllunio os byddwch yn gwneud newid ‘sylweddol’ i’r
defnydd a nodwyd heb wneud cais cynllunio amdano. Er enghraifft, gall
tystysgrif nodi y gellir defnyddio safle cludwr nwyddau yn gyfreithlon
i barcio nifer diffiniedig o gerbydau nwyddau trwm, o gapasiti neu faint
penodol, a gall nodi ardaloedd y safle a ddefnyddiwyd at ddibenion cynnal
a chadw cerbydau. Neu gallai nodi’r ardal a ddefnyddiwyd ar gyfer
storio paledi a pha mor uchel y gellir eu pentyrru. Neu gallai nodi’r
oriau pan gyflawnwyd unrhyw weithrediadau ar y safle. Os byddwch yn gwneud
rhywbeth yn sylweddol wahanol i’r hyn a nodir ar y dystysgrif, gallai’r
ACLl gymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |