Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)
Atodiad 6
Côd Ymddygiad yr Arolygydd – egwyddorion gwaith yr Arolygwyr*
* Er bod yr egwyddorion hyn yn ymwneud yn bennaf ag Arolygwyr Cynllunio,
maent
hefyd yr un mor berthnasol i bawb sy’n gwneud penderfyniadau yn
yr Arolygiaeth
Gynllunio.
1. Mae Arolygwyr yn gwneud eu penderfyniadau a’u hargymhellion er
budd y cyhoedd.
2. Nid yw Arolygwyr yn barnu achosion ymlaen llaw.
3. Nid yw Arolygwyr yn ymwneud ag achosion pan fydd ganddynt ddiddordeb
ariannol neu ddiddordeb personol a allai arwain at amgyffrediad rhesymol
o duedd.
4. Ni fydd ystyriaethau amherthnasol na dylanwadau o’r tu allan
yn dylanwadu ar Arolygwyr pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau a’u
hargymhellion.
5. Mae Arolygwyr yn gwrthod pob rhodd, lletygarwch a buddiannau eraill
a gynigir iddynt gan bartïon sydd â diddordeb mewn achos.
6. Mae Arolygwyr yn cynnal achosion mor gyflym â phosibl.
7. Mae Arolygwyr yn trin pob unigolyn sy’n ymddangos ger eu bron
gydag urddas a pharch.
8. Nid yw Arolygwyr yn gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol,
statws priodasol, crefydd, anabledd, ac oedran, neu fel arall.
9. Mae Arolygwyr yn osgoi oedi diangen wrth ddod i’w penderfyniadau
a’u hargymhellion.
10. Mae Arolygwyr yn rhoi rhesymau dros eu penderfyniadau a’u hargymhellion.
11. Mae Arolygwyr yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth broffesiynol a’r
sgiliau diweddaraf.
12. Mae Arolygwyr yn gyfrifol am eu penderfyniadau a’u hargymhellion
ac yn barod i eraill graffu ar eu gwaith pan fydd hynny’n briodol.
|