Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)
Atodiad 7
Deddf Diogelu Data a Phreifatrwydd yn yr Arolygiaeth Gynllunio
Cyflwyniad
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i’ch
hysbysu
am unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych a’i diogelu.
Wrth ystyried apêl, mae’r Arolygydd (neu’r Cynulliad)
yn cael amrywiaeth o wybodaeth bersonol. Daw’r wybodaeth hon o nifer
o ffynonellau, gan gynnwys:
y cais gwreiddiol, ynghyd ag unrhyw ddogfennau o gefnogaeth neu wrthwynebiad;
y ffurflen apelio ynghyd ag unrhyw ddogfennau pellach o gefnogaeth neu
wrthwynebiad;
Yn unol â rhwymedigaethau statudol presennol, bydd y rhan fwyaf
o’r ddogfennaeth a dderbynnir ar gael i’r cyhoedd. Serch hynny,
mae’r Arolygiaeth Gynllunio, fel rhan o’r Cynulliad, yn cydnabod
pwysigrwydd preifatrwydd unigolion. Mae’r nodiadau hyn yn nodi pa
wybodaeth a gesglir gennym a sut y’i defnyddir.
Diogelu Data
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio
â Deddf Diogelu Data 1998 wrth ymdrin â’ch gwybodaeth
bersonol.
Yn arbennig:
- dim ond at ddibenion sy’n ymwneud ag ymdrin â’r
apêl gynllunio berthnasol y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
bersonol;
- dim ond am gyhyd ag y bydd angen y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
bersonol. Fel arfer, ar gyfer apeliadau cynllunio wedi’u cwblhau,
12 mis yw’r cyfnod hwn, er y byddwn yn sicr yn cadw copi o benderfyniad
yr Arolygydd am gyfnod amhenodol. Efallai y gallai gwybodaeth bersonol
fod yn rhan o benderfyniad yr Arolygydd.
Pwy all weld eich gwybodaeth bersonol?
Bydd papurau’r apêl ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd
y cyngor, a gall unrhyw un edrych arnynt.
Mae gan unrhyw un sydd â hawl i gael ei hysbysu am y penderfyniad
mewn achos ymchwiliad hawl gyfreithiol i wneud cais i archwilio’r
dogfennau, y ffotograffau a’r cynlluniau a restrir o fewn 6 wythnos
i ddyddiad y penderfyniad. Fel arfer, ni wrthodir ceisiadau eraill i weld
dogfennau’r apêl.
Yn ogystal, pan fydd y Porth Cynllunio electronig ar gael, rhoddir y mwyafrif
o’r wybodaeth bersonol a dderbynnir ar y wefan Gwaith achos [www.planningportal.gov.uk]
a gall unrhyw drydydd parti ledled y byd gael mynediad iddi, gan gynnwys
unigolion neu sefydliadau nad oes ganddynt ddiddordeb uniongyrchol yn
yr apêl benodol.
Pa wybodaeth a gesglir gennym?
Wrth ymdrin ag apêl, gallem dderbyn gwybodaeth bersonol amdanoch
gan nifer o bartïon, gan gynnwys:
- awdurdodau cynllunio lleol;
- chi;
- partïon eraill â diddordeb yn yr apêl.
Mae’r wybodaeth a dderbyniwn yn amrywio, ond gallai gynnwys:
- manylion eich enw, eich cyfeiriad a’ch galwedigaeth;
- gwybodaeth yn ymwneud â’ch iechyd;
- gwybodaeth yn ymwneud â’ch barn neu’ch bwriad mewn
perthynas â chais cynllunio/apêl gynllunio.
Pa gamau y dylech eu cymryd?
- Dim ond gwybodaeth bersonol rydych yn fodlon iddi fod ar gael i’r
cyhoedd y dylech ei darparu.
- Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol am drydydd parti arall
(gan gynnwys aelodau o’r teulu) oni fyddwch wedi hysbysu’r
unigolyn dan sylw, a’u bod yn fodlon i chi ei hanfon.
- Os bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych yn newid,
rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Y Rheolwr Data
Uwch Weinidog Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yw’r rheolwr
data (y sefydliad sy’n gyfrifol am ymdrin â gwybodaeth bersonol).
Eich Hawl i Weld Data Personol
Mae’n rhaid i ni roi copi darllenadwy o’r data personol
a gedwir amdanoch i chi o fewn 40 diwrnod. Codir tâl statudol o
£10. Bydd angen tystiolaeth neu brawf adnabod. Mae cadw data cywir
yn bwysig er ein lles ni a’ch lles chi. Os bydd y data a gedwir
gennym yn anghywir mewn unrhyw ffordd, yna gellir:
- dileu,
- cywiro neu ddiwygio,
- cwblhau,
y data heb godi tâl arnoch lle y bo’n briodol.
Ar gyfer unrhyw ymholiad neu bryder ynghylch ein polisi preifatrwydd,
neu i ofyn am gael gweld eich data personol, cysylltwch â’n
Rheolwr Data:
Alastair Grant
Data Manager
The Planning Inspectorate
Room 3/16 Eagle Wing
Temple Quay House
2, The Square,
Temple Quay
Bristol BS1 6PN
Ffôn: 0117 372 8922
Ebost: alastair.grant@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Ceir gwybodaeth gysylltiedig am ein Polisi Preifatrwydd ar ein gwefan
yn http://www.planning-inspectorate.gov.uk
yn yr adran wedi’i marcio “Datganiad Preifatrwydd”.
Anghydfod
Ein nod yw sicrhau ein bod yn datrys unrhyw faterion yn foddhaol, fodd
bynnag, os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gysylltu â:
The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Switsfwrdd: 01625 545 700
Ffacs: 01625 524 510
DX: 20819 Wilmslow
Gwefan: http://www.dataprotection.gov.uk/
E-bost: mail@dataprotection.gov.uk
|