Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Ynglyn â'r Arolygiaeth Gynllunio

Tabl cynnwys Tudalfen nesaf

Rydym yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM). Rydym yn ymdrin ag apeliadau am dystysgrif datblygiad cyfreithlon yng Nghymru o’n swyddfa yng Nghaerdydd ac apeliadau am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer Lloegr o’n swyddfa ym Mryste. Mae gan yr Arolygwyr, sy’n dyfarnu’r rhan fwyaf o’r apeliadau, amrywiaeth o gefndiroedd. Ymhlith y rhain mae cynllunio tref, tirfesur a pheirianneg, pensaernïaeth a’r gyfraith. Rydym yn dewis yr Arolygwyr yn ofalus iawn ac yn eu hyfforddi yn drylwyr.

Pan fydd staff ein swyddfa yn cael eich ffurflen apelio, byddant yn casglu’r holl wybodaeth am eich achos. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau amdani, gallwch gysylltu â’ch swyddog achos. Byddwn yn rhoi eu henw a’u rhif ffôn i chi. Ychydig cyn yr ymweliad â’r safle, y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, bydd y swyddog achos yn anfon eich papurau apêl at yr Arolygydd, a fydd yn eu hastudio. Yn y rhan fwyaf o achosion, ar ôl cynnal ymchwiliad neu wrandawiad, neu ymweld â’r safle, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad. Bydd eich swyddog achos yn anfon y penderfyniad atoch.

Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r gweithdrefnau ar gyfer apeliadau am dystysgrif datblygiad cyfreithlon a wnaed yng Nghymru ar ol 1 Ebrill 2003. Os ydych am gael cyngor ar apeliadau yn Lloegr, dylech gysylltu â’n swyddfa ym Mryste. Roedd y wybodaeth a gynhwyswyd yn y llyfryn yn gywir ar y dyddiad cyhoeddi, ond nid oes unrhyw statws cyfreithiol ganddo. Byddwn yn ymdrin â phob apêl mor effeithlon ag y gallwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn dibynnu ar gydweithrediad pawb.

Ein datganiad ansawdd

Ein nod yw darparu’r canlynol yn y broses apelio:

cyngor a gwybodaeth eglur, prydlon a chwrtais;

ymdrin â’ch apêl yn gyflym ac yn effeithlon;

cyfnewid sylwadau rhwng y bobl sy’n ymwneud â’r apêl yn agored;

penderfyniadau teg a diduedd gan bobl â chymwysterau priodol;

penderfyniadau ac adroddiadau eglur a rhesymegol;

gweithdrefn gwyno gyflym a thrylwyr;

gwasanaeth sy’n peri i’r cyhoedd ymddiried ynom.

Tabl cynnwys Tudalfen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English