Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Gwneud eich apêl

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Eich hawl i apelio

Bwriad y canllaw hwn yw helpu unrhyw un sy’n dymuno apelio, ar neu ar ôl 1 Mawrth 2003, yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio (neu fethiant awdurdod cynllunio i ddod i benderfyniad) ar gais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

Os caiff cais a wnaed yn gywir ei wrthod yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu os caiff ei ganiatáu mewn ffurf wahanol i’r cais, neu os tybir ei fod wedi’i wrthod (am nad yw’r awdurdod wedi penderfynu ar y cais o fewn y terfyn amser o wyth wythnos i ddyddiad derbyn y cais wedi’i gwblhau), gallwch apelio. Mae Atodiad 4 yn rhoi testun y darpariaethau statudol ar gyfer apêl yn erbyn achos o wrthod cais am dystysgrif, neu wrthodiad tybiedig.

O dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Arolygwyr Cynllunio sy’n penderfynu ar bron pob apêl. Gellir gwrthod apêl, neu gellir ei chaniatáu yn gyfan gwbl neu’n rhannol, a rhoi tystysgrif.

Y Gymraeg

Rydym yn cyflwyno gwasanaeth o’r un safon i’n cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cydnabyddwn y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn yn well yn eu dewis iaith. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Gall unrhyw un sydd am siarad mewn ymchwiliad neu wrandawiad yn Gymraeg wneud hynny, ond byddai o gymorth pe gallech hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio ymlaen llaw er mwyn iddynt wneud trefniadau.

Sut i apelio

Dim ond yr apelydd all apelio. Y ffordd orau o apelio yw drwy gwblhau’r ffurflen apelio swyddogol ar gyfer tystysgrif datblygiad cyfreithlon. Gallwch gael ffurflenni gennym yn y cyfeiriad canlynol. Drwy gwblhau ffurflen apelio, byddwn yn helpu i sicrhau yr ymdrinnir â’ch apêl yn gyflym.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3893
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

Gallwch ddefnyddio’r ffurflenni ar ei gwefan. Ein cyfeiriad yw www.planning-inspectorate.gov.uk. Ni allwn dderbyn apeliadau dros yr e-bost eto. Os ydych am ddefnyddio’r ffurflenni ar ein gwefan bydd yn rhaid i chi eu cwblhau a’u hanfon atom trwy’r post.

Dylech amgáu eich dogfennau ategol, gan gynnwys y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) ac unrhyw gynlluniau a dogfennau a oedd yn rhan o’r cais, gyda’ch ffurflen wedi’i chwblhau. Dylech hefyd amgáu penderfyniad yr ACLl (os oedd un), yr holl ohebiaeth berthnasol gyda’r ACLl a chynllun yn dangos y safle wedi’i farcio’n goch gyda dwy ffordd wedi’u henwi. Os bydd eich apêl am dystysgrif datblygiad cyfreithlon yn ymwneud ag amod cynllunio, amgaewch gopi o’r caniatâd cynllunio perthnasol hefyd.

Dylech anfon copi o’ch apêl a’ch dogfennau i’r ACLl.

Cyflwyno eich achos

Dylai eich ffurflen apelio gynnwys datganiad clir a chryno o’ch achos llawn a’r rheswm (rhesymau) pam y credwch fod testun y cais yn gyfreithlon.

Nid yw cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon yr un fath â chais am ganiatâd cynllunio, lle caiff rhinweddau’r hyn y gwnaethoch gais amdano eu hystyried. Wrth benderfynu ar eich cais neu eich apêl am dystysgrif datblygiad cyfreithlon, y dehongliad o’r ffeithiau a’r gyfraith gynllunio sy’n llywio’r penderfyniad; nid yw’r rhinweddau cynllunio yn berthnasol. Felly, nid oes gan y Cynulliad unrhyw bwer i roi caniatâd cynllunio os byddwch yn apelio yn erbyn penderfyniad yr ACLl ar eich cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon. Ond gallwch wneud cais i’r ACLl am ganiatâd cynllunio yn y ffordd arferol, heb effeithio ar eich cais na’ch apêl am dystysgrif datblygiad cyfreithlon.

A yw eich apêl yn ddilys?

Bydd y swyddog achos yn gwneud asesiad cynnar o ddilysrwydd eich apêl. Os bydd eich apêl, neu wybodaeth a dderbynnir yn ddiweddarach gan yr ACLl yn dangos bod gan y gweithrediad, y defnydd neu’r mater arall hysbysiad gorfodi ar waith ar adeg eich cais, ni all y mater fod yn gyfreithlon a chaiff eich apêl ei gwrthod.

Y broses apelio

Pan fydd y swyddog achos wedi archwilio eich ffurflen apelio a’ch dogfennau, cewch wybod a yw’r apêl yn ddilys a pha weithdrefn a ddefnyddir ar ei chyfer. Gallwch ofyn am y weithdrefn ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Ystyrir ceisiadau am wrandawiad lle bynnag y bo’n bosibl. Ond byd yn rhaid i ni ystyried a fydd ymchwiliad lleol yn angenrheidiol. Er enghraifft, pan fydd y datblygiad neu’r defnydd eisoes wedi digwydd (apeliadau o dan Adran 191), bydd ymchwiliad fel arfer yn angenrheidiol os bydd angen tystiolaeth o’r cyfnod y digwyddodd y gweithgaredd ynddo, neu lle y bydd anghydfod rhyngoch chi a’r ACLl mewn perthynas â ffeithiau’r achos. Bydd ymchwiliad hefyd yn angenrheidiol pan fyddwch chi neu’r ACLl yn ofyn am un.

Fel rhan o’r broses apelio, bydd yr ACLl yn anfon datganiad o’u hachos atom ni ac anfonir copi atoch chi. Caiff copi o’ch datganiad ei anfon i’r ACLl. Bydd gennych chi a’r ACLl gyfle i wneud sylwadau ar ddatganiadau eich gilydd. Disgrifir y broses apelio yn fanylach yn adrannau 4 i 6.

Atal gweithredu ar eich apêl (dirymedd)

Rydym yn ymrwymedig i ymdrin â phob apêl mor gyflym â phosibl.

Fel arfer, nid ydym yn cytuno i arafu apeliadau, ond mae hyn yn bosibl mewn amgylchiadau eithriadol am gyfnod byr. Er enghraifft, er mwyn caniatáu i chi a’r ACLl ddod i gytundeb a fydd yn arwain at dynnu’r apêl yn ôl.

Fodd bynnag, dim ond os mai dyna’r ffordd fwyaf priodol ymlaen, a bod tystiolaeth y bydd casgliad cyflym yn debygol, y caiff yr apêl ei gohirio.

Dylai pob cais i ni beidio â phenderfynu ar apêl gael ei wneud yn ysgrifenedig i’r swyddog achos. Byddwn yn gofyn i’r ACLl am eu sylwadau. Hyd yn oed os byddant yn cytuno, ni sydd â’r penderfyniad terfynol o hyd.

Gohirio ac oedi gwrandawiadau, ymchwiliadau neu ymweliadau â safleoedd

Gwnawn popeth o fewn ein gallu i wneud y trefniadau ar gyfer gwrandawiad, ymchwiliad neu ymweliad â safle cyn gynted â phosibl. Os byddwch chi a’r ACLl yn cytuno i’r dyddiad cyntaf a gynigiwn, gwneir y penderfyniad yn gynt o lawer.

Dim ond unwaith y caniateir i bob ochr wrthod dyddiad a gynigir ar gyfer gwrandawiad neu ymchwiliad. Ar ôl y dyddiad hwnnw, byddwn yn pennu amser a lleoliad.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir newid dyddiad ar ôl ei bennu.

Tynnu eich apêl yn ôl

Gallwch dynnu eich apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn i’r Arolygydd roi ei benderfyniad/ei phenderfyniad. Efallai y byddwch am wneud hyn, er enghraifft, os byddwch chi a’r ACLl yn dod i gytundeb a gallwch ddatrys eich gwahaniaethau. Neu efallai y byddwch yn sylweddoli y bydd cais newydd yn datrys materion heb orfod cynnal apêl.

Os penderfynwch eich bod am dynnu eich apêl yn ôl, dylech ffonio eich swyddog achos ar unwaith ac yna ysgrifennu i gadarnhau eich bod yn tynnu’r apêl yn ôl, gan roi rhif cyfeirnod yr apêl. Dylech hefyd hysbysu’r ACLl ar unwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig os byddwn wedi trefnu ymweliad â safle, gwrandawiad neu ymchwiliad.

Os byddwch yn tynnu eich apêl yn ôl heb reswm digonol ar unrhyw adeg, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau pobl eraill sy’n ymwneud â’r apêl.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English