Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)A oes unrhyw un arall yn ymwneud â'r apêl?Gall pobl eraill gynnig eu sylwadau‘Pobl â diddordeb’ yw’r enw ar unrhyw bobl arall sydd â diddordeb yn eich apêl, er enghraifft grwpiau amgylcheddol neu gymdogion. Byddwn yn rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn am eich apêl. Fodd bynnag, ni fydd yr Arolygydd yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau ynglyn â rhinweddau cynllunio’r achos Sut y cânt eu hysbysu am yr apêl?Gofynnwn i’r ACLl ysgrifennu at unrhyw un sy’n byw mewn eiddo cyfagos a phobl eraill y gallai eich apêl effeithio arnynt. Gofynnwn i’r ACLl hysbysu pobl â diddordeb am y gweithdrefnau a ddefnyddir gennym i benderfynu ar yr apêl a’r amserlen ar gyfer derbyn eu sylwadau. Bydd yr ACLl hefyd yn hysbysu pobl nad yw rhinweddau cynllunio’r datblygiad yn berthnasol a dim ond ar ffeithiau’r achos y dylid gwneud sylwadau. Byddwn yn anfon copïau o’r sylwadau a gawn gan bobl â diddordeb atoch chi a’r ACLl. Ar gyfer apeliadau y byddwn yn penderfynu arnynt drwy ymchwiliad neu wrandawiad, bydd yr ACLl hefyd yn hysbysu pobl â diddordeb am y trefniadau ac yn eu gwahodd i fynychu’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad. Gallant hefyd archwilio sail yr apêl a thystiolaeth ysgrifenedig yr ACLl sy’n ategu eu penderfyniad yn swyddfeydd y Cyngor. Os cynhelir ymchwiliad, mae’n rhaid i chi roi hysbysiad, a anfonwn atoch, ar safle’r apêl. Efallai y bydd yn rhaid i’r ACLl osod hysbysiadau mewn mannau cyhoeddus a hysbysu’r papurau lleol hefyd. Cyn i ni ystyried sylwadau pobl â diddordeb, bydd gennych gyfle i wneud sylwadau arnynt. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |