Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y weithdrefn ysgrifenedig

Rheolir yr apeliadau a bennir gan y weithdrefn ysgrifenedig gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Cynrychioliadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003. Cynlluniwyd yr amserlen ar gyfer y weithdrefn ysgrifenedig i sicrhau bod yr apêl yn mynd rhagddi yn gyflym ac yn deg. Dylai pawb sy’n ymwneud â’r apêl gadw at yr amserlen. Os penderfynwch ar y weithdrefn ysgrifenedig, mae’n rhaid i bopeth rydych am ei ddweud fod yn ysgrifenedig. Er y bydd yr Arolygydd yn ymweld â’r safle a gallai gyfarfod â chi (gweler isod), ni allwch drafod pam y dylid caniatáu eich apêl.

Sail yr apêl

Sail yr apêl, a nodwyd ar y ffurflen apelio, sy’n ffurfio eich achos. Os na rhowch hyn i ni, neu os credwn fod eich sail yn annigonol, gallwn ofyn i chi am fwy o fanylion.

Holiadur

Yn ôl y rheoliadau, mae’n rhaid i’r ACLl gwblhau holiadur a’i ddychwelyd atoch chi, ac atom ni, gyda dogfennau i ategu eu penderfyniad.

Datganiad o fewn 6 wythnos

Os byddwch chi, neu’r ACLl, am ychwanegu rhagor o sylwadau, mae’n rhaid i chi anfon dau gopi o’r datganiad hwn er mwyn iddynt gael eu derbyn o fewn chwe wythnos i’r ‘dyddiad dechrau’. Byddwn yn anfon copi o’ch datganiad i’r ACLl ac yn anfon copi o unrhyw ddatganiad a anfonir atom gan yr ACLl atoch chi. Byddwn hefyd yn anfon unrhyw sylwadau gan bobl â diddordeb atoch.

Ni fyddwn yn derbyn datganiadau hwyr heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Yn hytrach, byddwn yn eu dychwelyd atoch.

Sylwadau o fewn 9 wythnos

O fewn naw wythnos i’r dyddiad dechrau, mae’n rhaid i ni dderbyn unrhyw sylwadau ar ddatganiadau eich gilydd, ac ar sylwadau gan bobl â diddordeb, gennych chi a’r ACLl.

Ni fyddwn yn derbyn sylwadau hwyr heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Yn hytrach, byddwn yn eu dychwelyd atoch.

Peidiwch â gwneud sylwadau yn ddi-angen. Dim ond os oes gennych rywbeth newydd i’w ddweud y dylech anfon sylwadau pellach atom.

Sylwadau Hwyr

Disgwyliwn i bawb sy’n ymwneud â’r apêl gadw at yr amserlen. Os bydd yr Arolygydd yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych chi neu’r ACLl, byddwn yn anfon copi o’r wybodaeth honno atoch chi neu’r ACLl. Byddwn yn caniatáu amser i chi wneud sylwadau.

Ymweld Â’r safle

Anfonir papurau’r apêl at yr Arolygydd. Bydd ef, neu hi, yn astudio papurau’r apêl, y rheswm (rhesymau) dros wrthod a’r sylwadau, ac fel arfer, bydd yn ymweld â’r safle. Os na chynhelir ymweliad â’r safle, byddwn yn eich hysbysu ac yn rhoi cyfle i chi wneud unrhyw sylwadau.

Os gwnaethoch nodi ar eich ffurflen apelio y gall yr Arolygydd edrych ar y safle o dir cyhoeddus, a bod yr ACLl yn cytuno, byddwn yn trefnu i’r Arolygydd ymweld â’r safle ar ei ben/phen ei hun.

Pan fyddwn yn trefnu i’r Arolygydd ymweld â’r safle yng nghwmni rhywun arall, bydd yn rhaid i chi a’r ACLl fod yn bresennol neu gael rhywun yno i’ch cynrychioli. Os na fyddwch chi, neu’r ACLl, yn bresennol, bydd yr Arolygydd yn cynnal yr arolygiad ar ei ben/phen ei hun. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn aildrefnu’r ymweliad ar adeg a fydd yn gyfleus i bawb.

Os bydd angen i’r Arolygydd fynd ar dir preifat i gynnal yr arolygiad, mae’n rhaid i chi drefnu hyn. Byddwn yn hysbysu unrhyw un sy’n gofyn i ni am ddyddiad ac amser yr ymweliad.

Pan fydd yr Arolygydd yn ymweld â safle yng nghwmni rhywun arall, bydd ef, neu hi, yn cyflwyno eu hunain ac yn gofyn am enwau pawb sydd yno. Bydd yr Arolygydd yn gwneud yn siwr bod pawb yn cytuno eu bod yn ymdrin â’r un safle a ystyriwyd gan yr ACLl yn eich cais. Os na fydd pobl yn cytuno, bydd yr Arolygydd yn gofyn iddynt ddatrys yr anghytundeb ymysg ei gilydd. Ni fydd yr Arolygydd yn cymryd rhan yn y trafodaethau hyn. Ni all ef, neu hi, dderbyn unrhyw newidiadau yn ystod yr ymweliad â’r safle.

Bydd yr Arolygydd yn gofyn i bobl ddangos unrhyw nodweddion ffisegol ar y safle, neu gerllaw’r safle, y credant eu bod o bwys. Efallai y bydd ef, neu hi, am gadarnhau hefyd nodweddion penodol a grybwyllwyd gan bobl yn eu sylwadau ysgrifenedig. Ond ni allwch drafod pam y credwch y dylid caniatáu eich apêl. Mae’n rhaid i bopeth fel hyn fod yn ysgrifenedig.

Weithiau, bydd perchnogion y tir sy’n ffinio â safle’r apêl yn gofyn i’r Arolygydd edrych ar y safle o’u heiddo hwy. Os bydd yr Arolygydd o’r farn bod hyn yn angenrheidiol, bydd ef, neu hi, yn eich hysbysu chi a’r ACLl yn ystod yr ymweliad â’r safle. Os bydd yr Arolygydd yn mynd ar dir rhywun arall fel rhan o’r ymweliad â’r safle, bydd yn rhaid i chi a’r ACLl fynd yno hefyd.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English