Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliad

Yr enw ar y rheolau sy’n rheoli apeliadau y penderfynir arnynt drwy ymchwiliad yw Rheolau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2003. Ceir dwy gyfres o reolau, yn dibynnu ar ba un ai’r Arolygydd ynteu’r Cynulliad fydd yn penderfynu ar eich apêl.

Bydd camau cynnar eich apêl yr un fath â’r rhai a ddisgrifir yn adran 3. Ond mae mwy o bethau y bydd yn rhaid i chi a’r ACLl eu gwneud.

Yn aml, bydd ymchwiliad yn angenrheidiol mewn apêl am dystysgrif datblygiad cyfreithlon, yn enwedig lle y ceir anghydfod ynghylch ffeithiau’r achos ac y bydd angen rhoi tystiolaeth ar lw neu bydd yn rhaid croesholi tystion. Os penderfynwn fod ymchwiliad yn angenrheidiol, byddwn yn dweud pam wrthych. Gwnawn y canlynol ar gyfer pob achos lle y cynhelir ymchwiliad.

Eich hysbysu chi a’r ACLl y cynhelir ymchwiliad. Bydd y llythyr yn pennu’r ‘dyddiad dechrau’ ac yn egluro’r hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud.

Pennu dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad.

Penodi Arolygydd addas. Efallai y bydd yn rhaid i ni drosglwyddo’r achos i Arolygydd arall, weithiau ar fyr rybudd, ond byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newid.

Byddwn yn pennu dyddiad yr ymchwiliad cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cysylltu â chi a’r ACLl ynglyn â’r trefniadau. Yn ôl y rheolau, dylid cynnal yr ymchwiliad o fewn 20 wythnos i’r dyddiad dechrau ar gyfer apeliadau a bennir gan Arolygwyr, a 22 wythnos ar gyfer apeliadau a bennir gan y Cynulliad. Os na allwn gadw at y dyddiadau hyn, gall y Cynulliad ymestyn y cyfnodau. Fel arfer, dim ond un dyddiad y gallwch chi a’r ACLl ei wrthod cyn i ni drefnu’r ymchwiliad. Mae gennych hawl i gael 28 diwrnod o rybudd o leiaf, yn ysgrifenedig, yngln â threfniadau’r ymchwiliad. Ond os bydd angen cynnal yr apêl ar frys, neu os ceir dyddiad cynnar yn sgîl canslo apêl arall, efallai y byddwn yn gofyn i chi dderbyn llai o rybudd.

Cyfnewid datganiadau ysgrifenedig

Mae’n rhaid i chi a’r ACLl anfon dau gopi atom o’r datganiad llawn o’r achos (ynghyd ag unrhyw ddogfennau a chynlluniau) rydych yn bwriadu eu cyflwyno yn yr ymchwiliad. Mae’n rhaid i chi anfon y rhain er mwyn i ni eu derbyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad dechrau. Bydd y datganiad, a’r dogfennau a’r cynlluniau atodol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.

Byddwn yn anfon copi o ddatganiad yr ACLl atoch chi a chopi o’ch datganiad chi atynt hwy. Byddwn hefyd yn anfon copi o unrhyw sylwadau gan bobl â diddordeb ac unrhyw un arall sydd â’r hawl i wneud sylwadau atoch chi a’r ACLl. Gallwch chi a’r ACLl wneud sylwadau ysgrifenedig ar y rhain.

Datganiad o dir cyffredin

Mae’n rhaid i chi drafod yr holl bwyntiau sy’n gysylltiedig â’ch apêl yr ydych chi a’r ACLl yn cytuno arnynt, er enghraifft, y safle, yr ardal, unrhyw gynlluniau, ac ati. O leiaf pedair wythnos cyn dyddiad yr ymchwiliad, mae’n rhaid i chi anfon copi ysgrifenedig atom o’r hyn a gytunwyd gan y ddau ohonoch. ‘Datganiad o dir cyffredin’ yw’r enw ar hyn.

Hysbysebu’r ymchwiliad

Byddwn yn anfon hysbysiad atoch sy’n rhoi manylion trefniadau’r ymchwiliad. Mae’n rhaid i chi ei godi ar y safle bythefnos cyn i’r ymchwiliad gael ei gynnal. Os nad oes gennych reolaeth dros y tir, byddwn yn gofyn i’r ACLl osod yr hysbysiad rywle y gall pobl ei weld yn hawdd, gerllaw’r safle. Byddwn hefyd yn gofyn i’r ACLl hysbysu’r papurau lleol, o leiaf pythefnos cyn dyddiad yr ymchwiliad, yn ogystal ag unrhyw un arall y gallai’r apêl fod o ddiddordeb iddynt neu y gallai’r apêl effeithio arnynt.

Yn yr ymchwiliad

Bydd yr Arolygydd yn dechrau drwy gyflwyno ei hun, cyhoeddi pwnc yr ymchwiliad a gofyn am enwau’r bobl hynny sydd am siarad. Yna, bydd yr Arolygydd fel arfer yn egluro’r weithdrefn.

Mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ddilyn yr un rheolau. Mae hyn yn sicrhau bod y weithdrefn yn deg i bawb. Bydd yr Arolygydd yn gwneud yn siwr bod ganddo ef, neu ganddi hi, yr holl wybodaeth sydd ei hangen i benderfynu ar yr apêl.

Fel arfer, byddwch yn cyflwyno eich achos yn gyntaf, yna’n galw unrhyw dystion. Gall yr ACLl a’r Arolygydd ofyn cwestiynau. Yna, bydd yr ACLl cyflwyno eu hachos yn yr un modd, a gallwch chi a’r Arolygydd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych iddynt hwy neu eu tystion.

Ar ôl hyn, bydd cyfle fel arfer gan bobl eraill â diddordeb i fynegi eu barn am ffeithiau’r achos. Gall yr Arolygydd ganiatáu iddynt gael eu holi neu eich holi chi, a bydd yn gwneud yn siwr eich bod chi, a’r ACLl, wedi gweld unrhyw lythyrau gan bobl a grwpiau â diddordeb nad oeddent yn bresennol eu hunain. Ni fydd unrhyw drafodaeth ar rinweddau cynllunio’r datblygiad yn berthnasol ac ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu hyn. Mae gennych chi, a’r ACLl, yr hawl i wneud datganiad terfynol. Fel arfer, chi fydd yn siarad olaf. Mae hyn yn caniatáu i chi hysbysu’r Arolygydd am y pwyntiau pwysig sydd wedi codi yn ystod y cwestiynau. Ond ni allwch gyflwyno dadleuon newydd.

Gall unrhyw un sy’n ymwneud â’r apêl ddefnyddio cyfreithiwr neu rywun arall i gyflwyno eu hachos. Bydd yr Arolygydd yn trin pob dadl yr un fath, pwy bynnag sy’n eu cyflwyno, a bydd yn gwneud yn siwr bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn deg.

Ymweld â’r safle mewn perthynas â’r ymchwiliad

Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl a’r tir o’i amgylch ar ei ben ei hun, cyn i’r ymchwiliad ddechrau. Gallwch chi a’r ACLl ofyn i’r Arolygydd ymweld â’r safle yn ystod yr ymchwiliad, neu ar ôl i’r ymchwiliad orffen, a gallwch fod yno neu gael eich cynrychioli yno. Yn ystod yr ymweliad â’r safle, bydd yr Arolygydd yn gofyn i chi a’r ACLl a oes unrhyw beth am safle’r apêl yr hoffech ei ddangos. Ond ni allwch ddweud unrhyw beth arall am eich apêl.

Sylwadau hwyr

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd Arolygwyr yn ystyried unrhyw dystiolaeth a dderbyniwn ar ôl i’r ymchwiliad gau. Fel arfer dychwelir y dystiolaeth atoch.

Pobl ag anableddau

Rydym am gynnal pob ymchwiliad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r lleoliad a byddwn wedi gofyn iddynt dalu sylw arbennig i anghenion pobl ag anableddau. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r ymchwiliad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol.

Cyfarfodydd cyn ymchwiliad

Weithiau, os bydd llawer o bobl am fynd i’r ymchwiliad neu os bydd yr apêl yn gymhleth, byddwn yn trefnu cyfarfod cyn yr ymchwiliad. Os penderfynwn wneud hyn, byddwn yn eich hysbysu ac yn egluro’r hyn a gaiff ei drafod yn y cyfarfod. Fel arfer, trefnir y rhain ar gyfer ymchwiliadau sy’n para 8 diwrnod neu fwy a gellir eu trefnu ar gyfer rhai byrrach.

Dim ond ymdrin â phethau megis y drefn y byddwch chi, yr ACLl ac unrhyw
bobl eraill yn cyflwyno tystiolaeth y bydd cyfarfod o’r math hwn yn ei wneud. Ni allwch drafod cynrychioliadau eich apêl yn y cyfarfod hwn.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English