Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiadEr mai drwy ymchwiliad neu gynrychioliadau ysgrifenedig y pennir apeliadau
am dystysgrif datblygiad cyfreithlon fel arfer, gall gwrandawiadau fod
yn briodol weithiau. Mae gwrandawiadau yn llai ffurfiol nag ymchwiliadau
ac fel arfer, maent yn cynnwys trafodaeth agored o dan arweiniad yr Arolygydd.
Galwch chi a’r ACLl ofyn am wrandawiad, ond nid oes gennych hawl
i gael un. Ymweld â’r safle mewn perthynas â’r gwrandawiadFel arfer,
bydd yr Arolygydd yn penderfynu a ddylid ymweld â’r
safle neu barhau â’r drafodaeth ar y safle. Bydd ef neu hi
yn eich hysbysu am hyn yn y gwrandawiad. Pobl ag anableddauRydym am gynnal pob gwrandawiad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r lleoliad a byddwn wedi gofyn iddynt dalu sylw arbennig i anghenion pobl ag anableddau. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r gwrandawiad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |