Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y Penderfyniad

Penderfyniad yr Arolygydd

Byddwn yn anfon copi o benderfyniad yr Arolygydd atoch. Byddwn hefyd yn anfon copi o’r penderfyniad i’r ACLl ac unrhyw un arall sydd â’r hawl i gael copi neu a ofynnodd am un.

Penderfyniad gan y Cynulliad

Pan fydd y Cynulliad yn gwneud y penderfyniad, bydd yr Arolygydd yn anfon adroddiad i’r Cynulliad. Bydd adroddiad yr Arolygydd yn cynnwys casgliadau ar y materion a godwyd ac yn argymell a ddylid caniatáu’r apêl ai peidio.

Nid oes rhaid i’r Cynulliad dderbyn argymhelliad yr Arolygydd a bydd yn ystyried popeth sy’n berthnasol. Weithiau, mae’r Cynulliad yn anghytuno ag argymhelliad yr Arolygydd. Gallai hyn ddigwydd am ei fod yn ystyried tystiolaeth newydd a gyflwynwyd ar ôl yr ymchwiliad, neu am ei fod yn anghytuno ag un o ganfyddiadau’r Arolygydd. Yn yr achosion hyn, bydd gennych chi a’r ACLl gyfle i wneud sylwadau cyn i’r penderfyniad gael ei wneud. Os bydd angen, gallwn ailagor yr ymchwiliad. Bydd rhywun a benodwyd gan y Cynulliad yn llofnodi’r llythyr yn eich hysbysu am y penderfyniad.

Bydd y Cynulliad yn anfon copi o’r llythyr o benderfyniad ac adroddiad yr Arolygydd i’r ACLl ac unrhyw un arall y mae ganddynt hawl i gael copi neu a ofynnodd am un.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English