Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich Apêl am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (Arweiniad)

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Cwyno a herio

Cwynion amdanom ni

Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau am y penderfyniad, neu’r ffordd rydym wedi ymdrin â’r apêl, ysgrifennwch at:

Y Swyddog Cwynion
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3889
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn a gallwch ddisgwyl ateb llawn o fewn tair wythnos. Fodd bynnag, ni allwn ailystyried apêl os bydd yr Arolygydd eisoes wedi rhoi penderfyniad arni oni fyddwch yn herio’r penderfyniad yn llwyddiannus yn yr Uchel Lys.

Yr Uchel Lys

Dim ond yn yr Uchel Lys y gellir herio penderfyniad yr Arolygydd. Er mwyn bod yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i chi ddangos bod yr Arolygydd wedi camddehongli’r gyfraith neu ein bod wedi gwneud gwall gweithdrefnol.

Os bydd eich her yn llwyddiannus, bydd Arolygydd (un gwahanol fel arfer) yn edrych ar eich apêl eto. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y caiff y penderfyniad gwreiddiol ei wrthdroi. Gallai’r Arolygydd ddod i’r un penderfyniad, ond am resymau gwahanol.

Os byddwch yn penderfynu herio penderfyniad yr apêl, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos i ddyddiad penderfyniad yr apêl. Byddwn yn anfon taflen atoch yn egluro hyn gyda phenderfyniad yr Arolygydd.

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru

Os ydych o’r farn nad ydym wedi eich trin yn deg, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r achos. Nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i gwestiynu rhinweddau eich apêl na newid y penderfyniad. Yr unig beth y mae ef neu hi yn ei ystyried yw ein dull o ymdrin ag apeliadau a’u gweinyddu. Fel arfer bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl eich bod wedi cwyno i ni yn gyntaf cyn iddo ef neu hi ymchwilio i’ch achos. Gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru yn y cyfeiriad canlynol:

Pumed Llawr
Twr y Ddinas
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AG

Llinell Ymholiadau: 0845 601 0987
Ffacs: 029 2022 6909

Y Cyngor Tribiwnlysoedd

Os ydych o’r farn bod rhywbeth o’i le ar y weithdrefn sylfaenol a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer eich apêl, gallwch gwyno i’r Cyngor Tribiwnlysoedd yn:

22 Kingsway
London
WC2B 6LE.

Bydd y cyngor yn ymdrin â’ch cwyn os credant ei bod yn berthnasol iddynt. Yn yr un modd â’r Ombwdsmon, nid ydynt yn ystyried rhinweddau eich apêl ac nid oes ganddynt bwer i newid y penderfyniad.

Yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol

Os oes gennych g?yn am y ffordd yr ymdriniodd yr ACLl â’ch cais cynllunio, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol ymchwilio iddi mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ni all yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol ymchwilio i g?yn am benderfyniad cynllunio am nad ydych chi a’r ACLl yn cytuno ag ef, ac nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i newid y penderfyniad. Gallwch gael llyfryn yn egluro sut i gwyno drwy ysgrifennu at swyddfa’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol briodol yn:

Derwen House
Court Road
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BN

Ffôn: 01656 661325.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English