Amodau Enghreifftiol Yr Arolygiaeth Gynllunio
Mewn cyfarfod rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a Chymdeithas y Swyddogion Cynllunio yn gynharach eleni cytunwyd y byddai'n ddefnyddiol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ac Arolygwyr pe bai'r Arolygiaeth Gynllunio yn cyhoeddi rhestr o amodau enghreifftiol i ategu'r rheini yng Nghylchlythyr 11/95 (Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 35/95). Nid yw'r amodau yn gynhwysfawr ac nid ydynt yn ymdrin â phob sefyllfa lle y gellir gosod amod. Bydd angen ystyried eu perthnasedd ym mhob achos yn erbyn y profion yng Nghylchlythyr 11/95 (Chylchlythyr y Swyddfa Gymreig 35/95) ac efallai y bydd angen newid y geiriad er mwyn ymdrin ag amgylchiadau unigol yr achos.Pan fydd mwy nag un amod wedi'i restru o dan bennawd bwriedir i'r rhain fod yn ddewisiadau amgen.
Amodau
MYNEDIAD - RHWYSTRO LLINELL WELD
Ni fydd unrhyw strwythur nac adeilad sy'n fwy na [ ] metr o uchder yn cael ei osod [i'r [dwyrain] o linell o [ ] i [ ]] [fel y dangosir ar ddarlun Rhif [ ]] [o fewn y llinellau gweld y cyfeirir atynt yn Amod [ ]].
HYSBYSEBION
Er mwyn sicrhau y ceir gwared â hysbysebion ar ôl i ganiatâd dros dro ddod i ben:
Ni fydd y [palis] a ganiateir drwy hyn yn cael ei gadw ar y safle ar ôl i [1 flwyddyn] o ddyddiad y penderfyniad hwn ddod i ben.
Er mwyn atal bwrdd arddangos rhag cael ei gadw ar ôl i'w swyddogaeth sgrinio ddod i ben:
Ni fydd yr hysbysebion a ganiateir drwy'r caniatâd hwn yn cael eu harddangos ar y safle ar ôl dyddiad cwblhau'r gwaith adeiladu nac ar ôl i [un flwyddyn] o ddyddiad y penderfyniad hwn ddod i ben, p'un bynnag a ddaw gyntaf.
Er mwyn sicrhau sgrinio priodol fel rhan o fwrdd arddangos poster:
Ni fydd y ffensys diogelwch pren ar ffin [orllewinol] y safle yn llai na [2.4 metr] o uchder.
Er mwyn cyfyngu ar y goleuo i'r oriau agor:
Dim ond yn ystod oriau agor yr eiddo y mae'n ymwneud ag ef y caiff yr arwydd a ganiateir drwy'r caniatâd hwn ei oleuo.
Er mwyn sicrhau na fydd yr arwydd yn cael ei arddangos ar yr un pryd ag arwydd cymeradwy presennol:
Ni fydd yr arwydd a ganiateir drwy'r caniatâd hwn yn cael ei arddangos ar yr un pryd â'r arwydd y rhoddwyd caniatâd diamwys iddo gan y Cyngor ar ...
Er mwyn cyfyngu ar nifer y goleuadau:
Ni fydd mwy na [phedwar] golau yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad ag arddangos yr arwydd wedi'i oleuo a ganiateir drwy hyn. Rhaid bod pellter cyfartal rhyngddynt ar hyd y ffryntiad uwchben yr arwydd.
Er mwyn cyfyngu ar ddisgleirdeb y golau ar naill ai sail amwynder/diogelwch cyhoeddus neu ar y ddwy sail:
Ni fydd disgleirdeb golau'r [arwydd] a ganiateir drwy'r caniatâd hwn yn fwy na xx candela. (oni nodir ffigur yn y cynrychioliadau yna dyweder "o fewn yr hyn a argymhellir gan Sefydliad y Peirianwyr Goleuo (ar gyfer arwydd o fewn y Parth...) yn eu Hadroddiad Technegol Rhif 5 (Trydydd Argraffiad-2001)"
Er mwyn ymdrin â thirlunio a chynnal a chadw gwaith tirlunio:
Ni fydd yr hysbysebion a ganiateir drwy'r caniatâd hwn yn cael eu harddangos tan fod manylion llawn y gwaith tirlunio [caled a meddal] arfaethedig [fel ei gilydd] [a hefyd amserlen gwaith cynnal a chadw tirlunio ar gyfer cyfnod y caniatâd diamwys] wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Rhaid i'r cynllun tirlunio gael ei gwblhau o fewn [3] mis i gymeradwyaeth ysgrifenedig yr Awdurdod Lleol a'i gynnal a'i gadw yn unol â'r amserlen a gymeradwywyd.
Er mwyn cyfyngu'n benodol ar y bwrdd arddangos i uchder y wynebfwrdd (yn enwedig lle mae'r apelydd yn fodlon ei ostwng o uwchben y wynebfwrdd):
Dim ond ar y wynebfwrdd adeiledig y bydd yr arwydd a ganiateir drwy'r caniatâd hwn yn cael ei arddangos, ac ni fydd unrhyw ran o'r arwydd yn uwch nag uchder y wynebfwrdd.
TAI FFORDDIADWY - EU DARPARU
Ni fydd y datblygiad yn dechrau hyd nes y bydd cynllun ar gyfer darparu tai fforddiadwy fel rhan o'r datblygiad wedi cael ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Rhaid darparu'r tai fforddiadwy yn unol â'r cynllun a gymeradwywyd a byddant yn cydymffurfio â'r diffiniad o dai fforddiadwy yn Atodiad B o PPS3 neu unrhyw ganllawiau sy'n cymryd ei le yn y dyfodol. Rhaid i'r cynllun gynnwys:
- nifer, math, daliadaeth y tai fforddiadwy i'w darparu na fydd yn cynnwys llai na X% o unedau tai/gwelyau, ynghyd â'u lleoliad ar y safle;
- amseriad adeiladu'r tai fforddiadwy a'u cyflwyno fesul cam mewn perthynas â deiliadaeth y tai ar y farchnad agored;
- y trefniadau ar gyfer trosglwyddo'r tai fforddiadwy i ddarparwr tai fforddiadwy [neu drefniadau rheoli'r tai fforddiadwy] (os nad oes unrhyw Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn gysylltiedig â'r broses) ;
- y trefniadau er mwyn sicrhau bod y fath ddarpariaeth yn fforddiadwy i ddeiliaid cyntaf y tai fforddiadwy a'r deiliaid dilynol;
- y meini prawf deiliadaeth i'w defnyddio i benderfynu pwy fydd deiliaid y tai fforddiadwy a'r ffordd y caiff meini prawf deiliadaeth o'r fath eu gorfodi.
TAI DI-GAR (Dim ond os bydd Parth Parcio a Reolir neu Orchymyn traffig tebyg wedi'i gynnig neu mewn grym y bydd yr amod hwn yn briodol)
Cyn bod y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn dechrau [neu'n cael ei feddiannu] rhaid cytuno ar y trefniadau'n ysgrifenedig â'r awdurdod cynllunio lleol a'u rhoi ar waith i sicrhau, ac eithrio pobl anabl, na fydd unrhyw un o breswylwyr y datblygiad yn cael caniatâd parcio preswyliwr o fewn unrhyw barth parcio a reolir a all fod mewn grym yn yr ardal (diffiniwch) ar unrhyw adeg.
COD CARTREFI CYNALIADWY
Rhaid i'r annedd/anheddau gyflawni Lefel [nodwch y lefel] y Cod yn unol â gofynion Cod Cartrefi Cynaliadwy: Canllaw Technegol (neu fesur cynaliadwyedd cenedlaethol o'r fath ar gyfer dylunio tai sy'n cymryd lle'r cynllun hwnnw). Ni fydd unrhyw annedd yn cael ei feddiannu tan fod Tystysgrif Cod Terfynol wedi'i rhoi ar ei chyfer yn ardystio bod Lefel X y Cod wedi'i chyflawni.
ARDAL GADWRAETH - DIOGELU EI NODWEDDION
Cyn bod unrhyw waith a awdurdodwyd drwy hyn yn dechrau, rhaid cymryd camau i sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd y rhan honno o'r adeilad [neu nodwedd bensaernïol] sydd i'w chadw. [Bydd camau o'r fath, lle y bo angen, yn cynnwys mesurau i atgyfnerthu unrhyw wal neu arwyneb fertigol; i gynnal unrhyw lawr, to neu arwyneb llorweddol; ac i amddiffyn yr adeilad rhag y tywydd wrth i'r gwaith fynd rhagddo].
ARDAL GADWRAETH - DYMCHWEL
Ni fydd y gwaith dymchwel a awdurdodwyd drwy hyn yn cael ei gyflawni tan fod contract ar gyfer cyflawni gwaith ailddatblygu'r safle wedi'i lunio a bod caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer y gwaith ailddatblygu y mae'r contract yn darparu ar ei gyfer.
CARAFANAU
Ni fydd mwy na [ ] o garafanau wedi'u lleoli ar y tir ar unrhyw adeg.
DATGANIAD DULL ADEILADU
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad, yn cynnwys unrhyw waith dymchwel, nes bod Datganiad Dull Adeiladu wedi'i gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Rhaid cadw at y Datganiad cymeradwy drwy gydol y cyfnod adeiladu. Rhaid i'r Datganiad ddarparu ar gyfer:
- parcio cerbydau gweithwyr y safle ac ymwelwyr
- llwytho a dadlwytho peiriannau a deunyddiau
- storio peiriannau a deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu'r datblygiad
- codi a chynnal a chadw palisau diogelwch, yn cynnwys byrddau arddangos addurniadol a chyfleusterau i'r cyhoedd edrych arnynt, lle y bo'n briodol
- cyfleusterau golchi olwynion
- mesurau i reoli'r llwch a'r baw a ollyngir yn ystod y gwaith adeiladu
- cynllun ar gyfer ailgylchu/gwaredu gwastraff sy'n deillio o waith dymchwel ac adeiladu
CYFLENWAD YNNI DATGANOLEDIG
Cyn dechrau'r datblygiad a ganiateir drwy hyn caiff cynllun ar gyfer cynhyrchu X% o ofynion ynni rhagweledig y datblygiad o ffynonellau adnewyddadwy datganoledig a/neu ffynonellau carbon isel (fel y'u diffinnir yn rhestr termau'r Datganiad Polisi Cynllunio: Cynllunio a Newid yn yr Hinsawdd (Rhagfyr 2007) neu unrhyw fersiwn ddilynol) ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Rhaid i'r cynllun cymeradwy gael ei weithredu cyn bod y datblygiad yn cael ei feddiannu am y tro cyntaf, a bydd yn parhau'n weithredol am hyd oes y datblygiad.
MANYLION - CYDYMFFURFIAETH Â PHOB CYNLLUN
Ni chaiff y datblygiad a ganiateir drwy hyn ei gyflawni oni bai ei fod yn cydymffurfio'n llwyr â'r manylion a ddangosir ar y cynlluniau a gyflwynwyd, rhifau [ ].
MANYLION - EITEM HANFODOL A DDANGOSIR AR GYNLLUNIAU
Ni chaiff y datblygiad a ganiateir drwy hyn ei feddiannu hyd nes [nodwch y mater hanfodol e.e. bod y wal derfyn ger Rhif 23 wedi'i hadeiladu yn unol â'r manylion a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd Rhif X].
MANYLION - DEUNYDDIAU A DDANGOSIR AR Y CYNLLUNIAU
Rhaid i'r datblygiad a ganiateir drwy hyn gael ei adeiladu'n gyfan gwbl o'r deunyddiau y dangosir eu manylion ar gynllun Rhif [ ].
MANYLION - LLE RHODDIR CANIATÂD CYNLLUNIO ÔL-WEITHREDOL
Rhaid i'r [defnydd/gweithgaredd]/[gweithrediadau adeiladu/peirianegol/cloddio/gweithrediadau eraill] a ganiateir drwy hyn [ddod i ben]/[cael eu dymchwel i lefel y ddaear]/[cael eu symud] a rhaid symud yr holl [gyfarpar a deunyddiau y daethpwyd â hwy ar y tir at ddibenion defnydd o'r fath]/[deunyddiau sy'n deillio o'r gwaith dymchwel] o fewn **** i ddyddiad methiant i fodloni un o'r gofynion a nodir yn (i) i (iv) isod:-
- o fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn bydd yn rhaid cyflwyno cynllun ar gyfer **** i'r awdurdod cynllunio lleol ei gymeradwyo'n ysgrifenedig a bydd yn rhaid i'r cynllun gynnwys amserlen ar gyfer ei weithredu.
- Os bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod cymeradwyo'r cynllun o fewn 11 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, neu'n methu â rhoi penderfyniad o fewn y cyfnod rhagnodedig, rhaid bod apêl wedi'i gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol, a'i derbyn fel apêl ddilys ganddo.
- os gwneir apêl yn unol â (ii) uchod, rhaid bod yr apêl honno wedi'i phenderfynu'n derfynol a bod y cynllun a gyflwynwyd wedi'i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
- rhaid bod y cynllun a gymeradwywyd wedi'i gyflawni ac wedi'i gwblhau yn unol â'r amserlen a gymeradwyd.
DS: Weithiau bydd "y cynllun" yn cynnwys elfennau y mae nid yn unig yn ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo a'u gweithredu ond hefyd eu cynnal neu eu cadw wedi hynny, e.e. cadw lleiniau gwelededd yn barhaol rydd o rwystrau dros 1m o uchder, sicrhau bod cynlluniau parcio cerbydau ar gael at y diben hwnnw, ac ati. Mae angen amod annibynnol i gyflawni hynny oherwydd bod amod y cynllun yn darfod unwaith y'i gweithredir. e.e. "Rhaid cadw'r lleiniau gwelededd a gymeradwywyd yn unol ag amod X (h.y. amod y cynllun) yn rhydd o bob rhwystr dros 1m o uchder ar bob adeg".
MANYLION - LLE RHODDIR CANIATÂD CYNLLUNIO ÔL-WEITHREDOL (lle y bo'r materion i'w cymeradwyo'n gymharol syml)
Oni chaiff cynllun ar gyfer [pa waith bynnag sydd ei angen] ei gyflwyno'n ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol i'w gymeradwyo o fewn [ ] mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, ac oni weithredir y cynllun cymeradwy o fewn [ ] mis i gymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol, rhaid i'r defnydd o'r safle [neu ei feddiant ar gyfer beth bynnag] ddod i ben hyd nes y caiff cynllun ei gymeradwyo a'i weithredu.
Oni chaiff unrhyw gynllun yn unol ag amod [(x)] uchod ei gymeradwyo o fewn [ ] mis i ddyddiad y llythyr hwn, rhaid i'r defnydd o'r safle [neu ei feddiant ar gyfer beth bynnag] ddod i ben hyd nes y caiff cynllun a gymeradwywyd gan yr awdurdod cynllunio lleol ei weithredu.
GAREJ/MANNAU PARCIO
Rhaid sicrhau bod y [garej a ganiateir drwy hyn] [mannau parcio sydd i'w darparu] ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur ar bob adeg. Rhaid defnyddio'r garej/mannau parcio er budd deiliaid yr annedd y mae'n rhan ohoni a'u hymwelwyr yn unig, ac nid at unrhyw ddiben arall, a rhaid ei gadw felly yn barhaol wedi hynny.
GWYDR - CYMYLOG
Cyn y meddiannir yr adeilad/estyniad a ganiateir drwy hyn gyntaf, rhaid gosod gwydr cymylog yn y ffenestri yn [ ], a rhaid eu cadw felly yn barhaol wedi hynny.
SIPSWN: MEDDIANNAETH
Ni chaniateir i unrhyw rai eraill ar wahân i sipsiwn a theithwyr, fel y'u diffiniwyd ym mharagraff 15 o Gylchlythyr Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog 01/2006, feddiannu'r safle'n barhaol.
SIPSWN: BLOCIAU AMWYNDER
O fewn tri mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, rhaid cyflwyno manylion am ddeunyddiau'r blociau tolied/gwasanaeth arfaethedig i'r awdurdod cynllunio lleol. Rhaid adeiladu'r blociau yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.
Ni chaniateir adeiladu'r bloc amwynderau a gymeradwyir drwy hyn tan fod samplau o'r deunyddiau sydd i'w defnyddio i adeiladu arwynebau allanol yr adeilad wedi'u cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Rhaid cyflawni datblygiadau yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.
SIPSWN: CERBYDAU MASNACHOL
Ni chaniateir lleoli, parcio na storio unrhyw gerbyd sy'n fwy na 3.5 tunnell ar y safle hwn.
Ni chaniateir cadw mwy nag un cerbyd masnachol fesul plot ar y tir at ddefnydd preswylwyr y carafanau a ganiateir drwy hyn, a rhaid iddynt beidio â phwyso mwy na 3.5 tunnell.
SIPSWN: GWEITHGAREDDAU DIWYDIANNOL/MASNACHOL
Ni chaniateir cynnal gweithgareddau masnachol ar y tir, gan gynnwys storio deunyddiau.
Ni chaniateir cynnal gweithgareddau masnachol ar y tir, gan gynnwys storio deunyddiau, ar wahân i weithgareddau o fewn yr ardal a ddangosir ar gynllun Rhif xxxx.
Ni chaniateir storio deunyddiau yn uwch nag X, na llosgi deunyddiau ar y safle, nac unrhyw weithgareddau masnachol, y tu allan i'r oriau **** i **** ddydd Llun - dydd Sadwrn a ddim o gwbl ar ddydd Sul.
SIPSWN: PERSONOL
Dim ond y canlynol a'u dibynyddion preswyl (nodwch yr enwau) sydd â'r hawl i feddiannu'r safle a ganiateir drwy hyn:
Pan fydd y rhai a enwir yn amod x uchod yn rhoi'r gorau i feddiannu'r tir, bydd y defnydd a ganiateir drwy hyn yn dod i ben, a chaiff pob carafán, strwythur, deunydd a chyfarpar y daethpwyd â hwy ar y tir mewn cysylltiad â'r defnydd, yn cynnwys y bloc amwynder a gymeradwyir drwy hyn, eu symud o'r tir. O fewn x mis i'r adeg honno rhaid adfer y tir yn unol â chynllun a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol yn flaenorol, ac a gymeradwywyd yn ysgrifenedig ganddo.
SIPSWN: LLEOLI CARAFANAU
Ni chaniateir dod â charafán i'r safle tan fod manylion ei lleoliad arfaethedig wedi'u cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Dim ond yn y lleoliad(au) a gymeradwywyd y caiff y carafán ei lleoli/carafanau eu lleoli, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol.
Ni chaiff carafán ei lleoli ar y tir ac eithrio o fewn yr ardal a ddangosir gyda chroeslinellau du ar gynllun xxx sy'n atodedig.
Rhaid lleoli'r carafanau yn unol â chynllun Rhif:
Dim ond ar ôl cael cytundeb ysgrifenedig y Cyngor y caniateir newid perthnasol mewn lleoliad cartref symudol, neu roi cartref symudol arall yn ei le mewn lleoliad gwahanol.
SIPSWN: NIFER Y CARAFANAU A'R MATH O GARAFANAU
Ni chaniateir lleoli mwy na x carafán, fel y'i diffiniwyd yn Neddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 a Deddf Safleoedd Carafanau 1968 (ni fydd mwy nag y o'r rhain yn garafanau sefydlog neu gartrefi symudol) ar y safle ar unrhyw adeg.
Cyfyngir ar y defnydd preswyl a ganiateir drwy hyn i leoli dim mwy nag x carafán, fel y'i diffiniwyd yn Neddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 a Deddf Safleoedd Carafanau 1968, ar unrhyw adeg (ni fydd mwy nag y o'r rhain yn garafanau sefydlog neu gartrefi symudol).
Ni fydd mwy nag x o leiniau ar y safle, ac ni chaniateir lleoli mwy na dwy garafán, fel y'u diffiniwyd yn Neddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 a Deddf Safleoedd Carafanau 1968, ar bob un o'r x o leiniau a ganiateir drwy hyn ar unrhyw adeg, a dim ond un o'r carafanau hynny a fydd yn gartref symudol preswyl.
Bydd unrhyw garafanau a leolir ar y safle o'r fath ag y gellir eu symud yn gyfreithlon ar y briffordd gyhoeddus, heb ymrannu'n rhannau ar wahân.
SIPSWN: CYFLWYNO MANYLION PELLACH (lle rhoddir caniatâd cynllunio ôl-weithredol)
Bydd y defnydd a ganiateir drwy hyn yn dod i ben, a bydd yn rhaid symud pob carafán, strwythur, cyfarpar a deunydd y daethpwyd â hwy ar y tir at ddibenion defnydd o'r fath o fewn [28 diwrnod] i ddyddiad methiant i fodloni un o'r gofynion a nodir yn (i) i (iv) isod:
- o fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, rhaid cyflwyno cynllun ar gyfer: [y dull o ddraenio dŵr brwnt a dŵr arwyneb o'r safle; y goleuadau allanol arfaethedig a'r goleuadau allanol sydd eisoes yn bodoli ar ffin y safle ac o fewn y safle; gwell lleiniau gwelededd wrth fynedfa'r safle; cynllun mewnol y safle, gan gynnwys lleoliad carafanau, lleiniau, ardaloedd ag arwyneb caled, ffyrdd mynediad, meysydd parcio ac ardaloedd amwynder; a phlannu coed, gwrychoedd a phrysgwydd a chodi twmpathau pridd lle y bo'n briodol, gan gynnwys manylion am rywogaethau, maint y planhigion a niferoedd a dwyseddau arfaethedig; a/neu unrhyw faterion eraill i'w nodi] (cyfeirir ato o hyn ymlaen fel cynllun datblygu'r safle) ar gyfer cymeradwyaeth ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio lleol, a rhaid i'r cynllun hwnnw gynnwys amserlen ar gyfer ei weithredu.
- o fewn 11 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn rhaid bod cynllun datblygu'r safle wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol neu, os bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod cymeradwyo'r cynllun, neu'n methu â rhoi penderfyniad o fewn y cyfnod rhagnodedig, rhaid bod apêl wedi'i gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol, a'i derbyn fel apêl ddilys ganddo.
- os gwneir apêl yn unol â (ii) uchod, rhaid bod yr apêl honno wedi'i phenderfynu'n derfynol a bod cynllun datblygu'r safle a gyflwynwyd wedi'i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
- rhaid bod y cynllun a gymeradwywyd wedi'i gyflawni ac wedi'i gwblhau yn unol â'r amserlen a gymeradwywyd.
- Ar yr un adeg ag y cyflwynir cynllun datblygu'r safle, sy'n ofynnol o dan amod x uchod, i'r awdurdod cynllunio lleol, rhaid cyflwyno amserlen cynnal a chadw am gyfnod o bum mlynedd o'r gwaith plannu arfaethedig, gan ddechrau ar ôl cwblhau'r cyfnod gweithredu olaf fel sy'n ofynnol yn ôl yr amod hwnnw; bydd yr amserlen yn darparu ar gyfer plannu, yn yr un safle, coeden, gwrych neu brysgwydd yn lle unrhyw goeden, gwrych neu brysgwydd a symudir, a ddiwreiddir neu a ddinistrir neu sy'n marw, neu, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, sy'n cael ei niweidio'n ddifrifol neu sy'n ddiffygiol, o'r un rhywogaeth a maint â'r hyn a blannwyd yn wreiddiol. Gwneir y gwaith cynnal a chadw yn unol â'r amserlen a gymeradwywyd.
SIPSWN: DROS DRO A PHERSONOL
Dim ond Mr/s, ei gŵr a'i phlant ac ati fydd yn gwneud defnydd o'r safle fel a ganiateir drwy hyn, a bydd am gyfnod cyfyngedig sef y cyfnod o x o flynyddoedd o ddyddiad y penderfyniad hwn, neu'r cyfnod y meddiannir y safle ganddynt, p'un bynnag sydd fyrraf.
Pan fydd Mr/s, ei gŵr a'i phlant ac ati yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle, neu ar ddiwedd x o flynyddoedd, p'un bynnag a ddaw gyntaf, bydd y defnydd a ganiateir drwy hyn yn dod i ben, a chaiff pob deunydd a chyfarpar y daethpwyd â hwy ar y tir mewn cysylltiad â'r defnydd [yn cynnwys y bloc amwynder a gymeradwyir drwy hyn] eu symud o'r safle, a chaiff y tir ei adfer i'w gyflwr blaenorol, yn unol â chynllun gwaith a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol ac a gymeradwywyd yn ysgrifenedig ganddo.
SIPSWN: DROS DRO
Bydd y defnydd a ganiateir drwy hyn am gyfnod cyfyngedig sef y cyfnod o x o flynyddoedd o ddyddiad y penderfyniad hwn. Ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd y defnydd a ganiateir drwy hyn yn dod i ben, a chaiff pob deunydd a chyfarpar y daethpwyd â hwy ar y tir mewn cysylltiad â'r defnydd eu symud o'r safle, a chaiff y tir ei adfer yn unol â chynllun a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol yn flaenorol, ac a gymeradwywyd yn ysgrifenedig ganddo.
Bydd y defnydd a ganiateir drwy hyn yn dod i ben a chaiff y tir ei adfer ar neu cyn diwedd cyfnod o x o flynyddoedd o ddyddiad y penderfyniad hwn yn unol â chynllun a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol yn flaenorol, ac a gymeradwywyd yn ysgrifenedig ganddo.
ORIAU ADEILADU/DYMCHWEL
Ni fydd gwaith dymchwel nac adeiladu yn digwydd y tu allan i'r oriau **** i **** ddydd Llun i ddydd Gwener, a'r tu allan i'r oriau **** i **** ar ddydd Sadwrn, nac ychwaith unrhyw adeg ar ddydd Sul neu Wyliau Banc.
ORIAU DEFNYDDIO - BWYTAI AC ATI, OPSIWN 1
Ni fydd yr eiddo ar agor ar gyfer cwsmeriaid y tu allan i'r oriau canlynol: -
[1100 - Canol nos], dydd Llun i ddydd Gwener
[1100] ar ddydd Sadwrn - [0100] fore Sul
[1700 - 2300] ar ddydd Sul.
ORIAU DEFNYDDIO - BWYTAI AC ATI, OPSIWN 2
Ni chaniateir i unrhyw gwsmeriaid fod ar y safle y tu allan i'r amseroedd canlynol:
[1100 - Canol nos], dydd Llun i ddydd Gwener
[1100] ar ddydd Sadwrn - [0100] fore Sul
[1700 - 2300] ar ddydd Sul.
ORIAU DEFNYDDIO - BWYTAI AC ATI, OPSIWN 3
Ni fydd yr eiddo'n cael ei defnyddio y tu allan i'r oriau: -
[1100 - Canol nos], dydd Llun i ddydd Gwener
[1100] ar ddydd Sadwrn - [0100] fore Sul
[1700 - 2300] ar ddydd Sul.
ADEILAD RHESTREDIG - MYNEDIAD AR GYFER COFNODI
Rhaid i'r datblygwr hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol X diwrnod ymlaen llaw cyn dechrau unrhyw waith ac, am gyfnod o [e.e. 14 diwrnod] cyn dechrau unrhyw waith, rhaid rhoi mynediad rhesymol i'r adeilad i [enw unigolyn/corff neu] unigolyn/corff a enwebwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol at ddiben cofnodi'r adeilad [neu'r tu fewn] drwy dynnu darluniau mesuredig neu ffotograffau.
ADEILAD RHESTREDIG - DYMCHWEL Â LLAW
Rhaid cyflawni'r gwaith o ddymchwel [nodwch] â llaw [neu gan offer llaw] yn unig, a storio'r deunyddiau i'w hailddefnyddio [nodwch].
ADEILAD RHESTREDIG - DYLUNIAD MANWL
Rhaid i'r [nodwch y nodweddion] a gynhwysir yn y gwaith/addasiadau a ganiateir drwy hyn fod [nodwch fanylion dylunio a/neu ddeunyddiau].
ADEILAD RHESTREDIG - GALLUOGI DATBLYGIAD
Cyn [y meddiannir yr (adeiladau newydd) (anheddau) a ganiateir drwy hyn] [bod y defnydd newydd yn cychwyn], rhaid atgyweirio ac adfer yr adeilad rhestredig [enw] yn unol â'r cynlluniau a gyflwynwyd [darlun Rhifau] a/neu'r amserlen waith.
ADEILAD RHESTREDIG - YMGORFFORI NODWEDDION
Rhaid defnyddio/ymgorffori'r [nodwedd bensaernïol/lleoliad] yn y gwaith/addasiad/estyniad a ganiateir drwy hyn.
ADEILAD RHESTREDIG - ATGYWEIRIO
Ar ôl cwblhau'r gwaith a gymeradwyir drwy hyn, rhaid atgyweirio unrhyw niwed a achosir i'r adeilad gan y gwaith o fewn X mis yn unol â chynllun a gyflwynwyd i’r awdurdod cynllunio lleol ac a gymeradwywyd ganddo
ADEILAD RHESTREDIG - CADW NODWEDDION
Rhaid symud y [nodweddion pensaernïol] canlynol [dan oruchwyliaeth contractwr arbenigol a gymeradwywyd gan yr awdurdod cynllunio lleol] a'i storio mewn lle addas i gytuno arno â'r awdurdod cynllunio lleol.
ADEILAD RHESTREDIG - DIOGELU NODWEDDION
Cyn dechrau ar unrhyw waith a awdurdodwyd drwy hyn, rhaid cymryd camau i sicrhau diogelwch a sefydlogwyd y rhan honno o'r adeilad [neu nodwedd bensaernïol] sydd i'w chadw yn unol ag amod [nodwch y rhif] uchod. [Bydd camau o'r fath, lle y bo angen, yn cynnwys mesurau i atgyfnerthu unrhyw wal neu arwyneb fertigol; i gynnal unrhyw lawr, to neu arwyneb llorweddol; ac i amddiffyn yr adeilad rhag y tywydd wrth i'r gwaith fynd rhagddo].
UNEDAU BYW/GWEITHIO
(1) Bydd arwynebedd llawr busnes yr uned byw/gweithio wedi'i orffen yn barod i'w ddefnyddio cyn i'r arwynebedd llawr preswyl gael ei ddefnyddio ac ni fydd y defnydd preswyl yn dechrau cyn i'r defnydd busnes ddechrau;
(2) Ni chaiff arwynebedd llawr busnes yr uned byw/gweithio ei ddefnyddio at unrhyw ddiben ac eithrio at ddibenion o fewn Dosbarth [B1] yn yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1, nac mewn unrhyw ddarpariaeth sy'n cyfateb i'r Dosbarth hwnnw mewn unrhyw offeryn statudol sy'n dirymu ac yn ailddeddfu'r Gorchymyn hwnnw gyda neu heb addasiadau.
(3)Ni fydd arwynebedd llawr preswyl yr uned byw/gwaith wedi ei feddiannu gan unrhyw un heblaw am feddianwyr yr arwynebedd llawr busnes neu unrhyw ddibynyddion preswyl.
SŴN - ORIAU GWEITHREDU
Ni fydd [peiriannau penodol] yn cael eu gweithredu ar y safle y tu allan i'r oriau canlynol:-
[X -Y] Dydd Llun - Dydd Gwener
[X - Y] ar ddydd Sadwrn a ddim o gwbl ar ddydd Sul na Gwyliau Cyhoeddus.
SŴN - DIOGELU ANHEDDAU UNIGOL
Rhaid codi amlen adeilad plot rhif[au] [ ] er mwyn lleihau sŵn allanol, nid llai na [ ]dB(A), gyda'r ffenestri ar gau a'r mathau eraill o awyru a ddarparwyd.
SŴN - DILEU HAWLIAU DATBLYGU DIWYDIANNOL A GANIATEIR
Er gwaethaf darpariaethau Erthygl 3 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, ni chaiff unrhyw beiriannau nac offer eraill eu codi ar y safle o dan neu yn unol â Rhan 8 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwnnw heb ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol.
DEILIADAETH - TERFYNAU OEDRAN
Rhaid i bob uned o'r cartref preswyl a ganiateir drwy hyn gael eu meddiannu gan y canlynol yn unig:
- pobl o oedran i dderbyn pensiwn y wladwriaeth; [neu ba oedran bynnag a ystyrir yn briodol];
- pobl sy'n byw fel rhan o gartref sengl gydag unigolyn neu unigolion o'r fath;
- pobl a oedd yn byw fel rhan o gartref sengl gydag unigolyn neu unigolion o'r fath sydd bellach wedi marw.
PARCIO - DARPARIAETH
Ni fydd unrhyw [annedd] yn cael ei meddiannu hyd nes bod gofod wedi'i osod yn y safle [yn unol â darlun Rhif [ ]] ar gyfer parcio [nifer] car [ac ar gyfer llwytho a dadlwytho [nifer] cerbyd] [ac i gerbydau droi fel y gallant fynd i mewn ac allan i'r safle a'i adael drwy yrru ymlaen].
CYFYNGIADAU HAWLIAU DATBLYGIAD A GANIATEIR - FFENSYS, GIATIAU AC ATI
Er gwaethaf darpariaethau Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (neu unrhyw orchymyn sy'n dirymu, yn ailddeddfu neu'n addasu'r Gorchymyn hwnnw), ni chaiff unrhyw ffenestri/ffenestri dormer eu gosod [ac eithrio'r rhai a awdurdodir yn benodol drwy'r caniatâd hwn] [ar y drychiad[ ] ].
CANIATÂD CYNLLUNIO - ATAL GWEITHREDU DAU GYNLLUN (pan ymdrinnir â dau gais gyda'i gilydd ac nid yw'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn eu gwrthwynebu'n unigol ond yn gwrthwynebu gweithredu'r ddau ohonynt gyda'i gilydd, gellir gosod amod ar bob caniatâd i atal hyn)
Ni fydd y datblygiad y mae'r caniatâd cynllunio hwn yn ymwneud ag ef yn cael ei weithredu os dechreuir unrhyw ran o'r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar [nodwch y dyddiad] o dan apêl cyfeirnod [ ] ac yn unol â chais cynllunio rhif cyfeirnod [ ].
CANIATÂD CYNLLUNIO AMLINELLOL - CYMERADWYO MANYLION (uno C11/95 a JC35/95 amodau enghreifftiol 2 a 3)
Rhaid cyflwyno manylion o ran mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a graddfa (a elwir o hyn ymlaen yn "faterion a gadwyd yn ôl") i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo cyn dechrau ar unrhyw ddatblygiad a chaiff y datblygiad ei gyflawni fel y'i cymeradwywyd.
ARDDANGOSFA FFENESTR SIOP
Rhaid darparu arddangosfa ffenestr ar bob adeg yn y ffenestr(i) sy'n wynebu stryd [ ].
DRAENIAD TREFOL CYNALIADWY(pan fydd angen cynllun draeniad trefol cynaliadwy ond nid oes unrhyw beth addas wedi'i gynnig)
Ni chaiff unrhyw adeilad a ganiateir drwy hyn ei feddiannu hyd nes y bydd y gwaith o ddraenio dŵr wyneb wedi'i gyflawni yn unol â'r manylion a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol ac a gymeradwywyd yn ysgrifenedig ganddo. Cyn cyflwyno'r manylion hyn rhaid cynnal asesiad o'r potensial ar gyfer gwaredu dŵr wyneb drwy system ddraenio gynaliadwy yn unol â'r egwyddorion a nodwyd yn Atodiad F o PPS25 (neu unrhyw fersiwn dilynol), a rhoi canlyniadau'r asesiad i'r awdurdod cynllunio lleol. Pan fydd yn rhaid darparu cynllun system ddraenio gynaliadwy, bydd y manylion a gyflwynir yn:
- rhoi gwybodaeth am gyfnod a dwysedd y storm ddylunio, y dull a ddefnyddir i oedi a rheoli'r dŵr wyneb a ryddheir o'r safle a'r mesurau i'w cymryd i atal y dŵr daear a/neu'r dŵr wyneb sy'n derbyn rhag cael eu llygru;
- cynnwys amserlen ar gyfer gweithredu'r cynllun;
- darparu cynllun rheoli a chynnal a chadw ar gyfer oes y datblygiad a fydd yn cynnwys y trefniadau ar gyfer mabwysiadu gan unrhyw awdurdod cyhoeddus neu ymgymerydd statudol ac unrhyw drefniadau eraill i sicrhau gweithrediad y cynllun drwy gydol ei oes.
DRAENIAD TREFOL CYNALIADWY (pan fydd cynllun draeniad trefol cynaliadwy priodol wedi'i gyflwyno gyda'r cais ac fe'i hategir gan gynllun gweithredu, rheoli a chynnal a chadw y cytunwyd arno)
Ni chaiff unrhyw adeilad a ganiateir drwy hyn ei feddiannu hyd nes y bydd y cynllun draeniad trefol cynaliadwy ar gyfer y safle wedi'i gwblhau yn unol â'r manylion a gyflwynwyd. Caiff y cynllun draeniad trefol cynaliadwy ei reoli a'i gynnal a'i gadw wedi hynny yn unol â'r cynllun rheoli a chynnal a chadw y cytunwyd arno.
DRAENIAD TREFOL CYNALIADWY (pan fydd cynllun draeniad trefol cynaliadwy priodol wedi'i gyflwyno gyda'r cais ond heb fanylion gweithredu, rheoli na chynnal a chadw)
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad hyd nes y cyflwynir manylion gweithredu, cynnal a chadw a rheoli'r cynllun draeniad trefol cynaliadwy i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo ganddo. Rhaid gweithredu'r cynllun a'i reoli a'i gynnal a chadw wedi hynny yn unol â'r manylion a gymeradwywyd. Bydd y manylion hynny'n cynnwys:
- amserlen ar gyfer gweithredu'r cynllun,
- cynllun rheoli a chynnal a chadw ar gyfer oes y datblygiad a fydd yn cynnwys y trefniadau ar gyfer mabwysiadu gan unrhyw awdurdod cyhoeddus neu ymgymerydd statudol, neu unrhyw drefniadau eraill i sicrhau gweithrediad y cynllun draeniad trefol cynaliadwy drwy gydol ei oes.
|
Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau
i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy
|