Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arallYnglyn â’r Arolygiaeth GynllunioRydym yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Y Cynulliad) a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM). Rydym yn ymdrin ag apeliadau cynllunio yng Nghymru o’n swyddfa yng Nghaerdydd ac apeliadau cynllunio yn Lloegr o’n swyddfa ym Mryste. Mae gan yr Arolygwyr, sy’n dyfarnu’r apeliadau, amrywiaeth o gefndiroedd. Ymhlith y rhain mae cynllunio tref, tirfesur, peirianneg, pensaernïaeth a’r gyfraith. Rydym yn dewis yr Arolygwyr yn ofalus iawn ac yn eu hyfforddi yn drylwyr. Yn gyffredinol, maent yn gweithio o gartref. Mae’r llyfryn hwn yn egluro gweithdrefn yr apêl gynllunio ar gyfer apeliadau yng Nghymru a wneir ar ôl 1 Ebrill 2003. Os ydych am gael cyngor ar apeliadau yn Lloegr, dylech gysylltu â’n swyddfa ym Mryste. Roedd y wybodaeth a gynhwysir yn y llyfryn yn gywir ar y dyddiad cyhoeddi, ond nid oes unrhyw statws cyfreithiol ganddo. Byddwn yn ymdrin â phob apêl mor effeithlon ag y gallwn, ond er mwyn gwneud hyn, rydym yn dibynnu ar gydweithrediad pawb. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |