Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arallCanllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunioDiben y canllaw hwnGwneir ceisiadau cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl). Yr ACLl yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol neu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gall ceisiadau cynllunio fod yn ddadleuol ac weithiau gall penderfyniad yr ACLl arwain at apêl. Gellir gwneud apeliadau am nifer o resymau, ond gwneir y rhan fwyaf ohonynt am fod yr ACLl wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio. Dim ond y person sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio sydd â hawl gyfreithiol i apelio yn erbyn penderfyniad yr ACLl, a gelwir y person hwn yn ‘apelydd’. Ond, os oedd gennych ddiddordeb mewn cais, pa un a oeddech o blaid neu yn erbyn y cais, efallai y bydd gennych ddiddordeb yng nghanlyniad yr apêl hefyd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn byw’n agos i’r ardal, neu’n aelod o gymdeithas trigolion neu grw^p â diddordeb arbennig. Mae’r llyfryn hwn yn egluro sut y gallwch fynegi eich barn. Dim ond yng Nghymru y mae’r canllawiau ynddo’n berthnasol. Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllaw manylach i apelwyr am y broses apelio, o’r enw ‘Gwneud eich apêl gynllunio’. Byddwn yn anfon copi am ddim o’r llyfryn atoch os ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad ar dudalen 17. Yng Nghymru, gwneir apeliadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyfernir apeliadau gan Arolygwyr, sy’n gwbl ddiduedd ac yn meddu
ar gymwysterau proffesiynol ym maes cynllunio neu faes perthynol, fel
y gyfraith neu bensaernïaeth. Gall Arolygydd wrando ar achos yr apelydd a’r ACLl mewn gwrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus, ond prin iawn yw’r apeliadau yr ymdrinnir â hwy yn y dull hwn. Penderfynir ar y rhan fwyaf o apeliadau (tua 75%) drwy’r weithdrefn ysgrifenedig. Disgrifir y weithdrefn hon, a’r gweithdrefnau apelio eraill, yn fanylach yn ddiweddarach yn y llyfryn hwn. Gyda’r holl weithdrefnau apelio, dim ond pethau sy’n berthnasol i gynllunio y gall yr Arolygydd a’r Cynulliad eu hystyried. Gall y pethau hyn gwmpasu ystod eang o faterion, ond fel arfer, bydd rhesymau’r ACLl dros wrthod caniatâd cynllunio fel arfer yn nodi’r materion hynny a fydd yn berthnasol. Dim ond materion cynllunio sy’n ymwneud â’r cais y gallwch eu codi. Ni all yr Arolygydd na’r Cynulliad ystyried unrhyw faterion eraill. Er enghraifft, ni allant fel arfer ystyried sut y bydd datblygiad yn effeithio ar werthoedd eiddo yn yr ardal. Neu, pe bai adeilad newydd yn effeithio ar yr olygfa o’ch eiddo, nid yw hyn yn debygol o fod yn rheswm da dros wneud gwrthwynebiad chwaith. Byddai’n rhaid i chi ddangos y byddai’r adeilad newydd yn effeithio ar eich amodau byw, er enghraifft, am ei fod yn edrych dros eich cartref neu am y byddech yn colli eich preifatrwydd. Dim ond y person a wnaeth y cais cynllunio sydd â’r hawl i apelio. Mae’n rhaid i ni dderbyn eu holl bapurau apêl o fewn chwe mis i hysbysiad o benderfyniad yr ACLl, neu o fewn chwe mis i ddiwedd y cyfnod penderfynu os na fydd yr ACLl wedi dod i benderfyniad. Os na chawn eu papurau apêl o fewn y terfyn amser, ac os nad oes unrhyw resymau eithriadol dros yr oedi, ni dderbyniwn yr apêl. Os gwnaed yr apêl mewn pryd, byddwn yn ysgrifennu at yr apelydd a’r ACLl i’w hysbysu am ba un o’r gweithdrefnau canlynol a ddefnyddiwn i benderfynu ar yr apêl. Byddwn hefyd yn rhoi’r amserlen iddynt ar gyfer derbyn eu sylwadau. Bydd faint o gyhoeddusrwydd a gaiff yr apêl yn dibynnu ar ba weithdrefn a ddilynir gennym. Gweithdrefn ysgrifenedig. Os oeddech wedi ysgrifennu at yr ACLl ynglyn â’r cais cynllunio tra’r oeddent yn ei ystyried, dylent ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am yr apêl o fewn pythefnos i’r dyddiad y byddwn yn ei derbyn. Anfonir copïau o’ch cynrychioliadau yn ystod cyfnod y cais atom, felly ni fydd angen i chi ysgrifennu atom eto oni fydd gennych rywbeth newydd i’w ddweud. Gweithdrefn ar gyfer gwrandawiad. Unwaith eto, bydd yr ACLl yn eich hysbysu am yr apêl os oeddech wedi ysgrifennu atynt tra’r oeddent yn ystyried y cais cynllunio. Gallwch ysgrifennu atom eto os bydd gennych rywbeth newydd i’w ddweud. Dylai’r ACLl eich hysbysu am ddyddiad y gwrandawiad. Gallant hefyd gyhoeddi manylion y gwrandawiad yn y papur newydd lleol os byddant o’r farn bod hyn yn angenrheidiol. Gweithdrefn ar gyfer ymchwiliad. Fel arfer, ceir mwy o gyhoeddusrwydd am apêl os cynhelir ymchwiliad. Yn yr un modd â’r gweithdrefnau apelio eraill, os ydych eisoes wedi ysgrifennu at yr ACLl, dylent ysgrifennu atoch. Yn ogystal, gallwch anfon mwy o sylwadau atom. Dylai’r ACLl anfon manylion am drefniadau’r ymchwiliad atoch unwaith y cytunir ar y dyddiad. Mae’n rhaid i’r apelydd ddangos manylion yr ymchwiliad, fel yr amser a’r lleoliad, ar safle’r datblygiad arfaethedig. Dyma’r isafswm gofynion cyhoeddusrwydd, a chewch ragor o fanylion
am bob un o’r gweithdrefnau hyn yn ddiweddarach yn y canllaw hwn.
Hwyrach y bydd eich ACLl yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i apeliadau. Y GymraegMae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyflwyno gwasanaeth o’r un safon i’w chwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cydnabyddwn y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn yn well yn eu dewis iaith. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg. Gall unrhyw un sydd am siarad mewn ymchwiliad neu wrandawiad yn Gymraeg
wneud hynny, ond byddai o gymorth pe gallech hysbysu’r Arolygiaeth
Gynllunio ymlaen llaw er mwyn iddynt wneud trefniadau. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |