Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arall

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y weithdrefn ysgrifenedig

Gyda’r math hwn o apêl, dim ond tystiolaeth ysgrifenedig gan yr apelydd, yr ACLl ac unrhyw un arall, fel chi, sydd â diddordeb yn yr apêl, y byddwn yn ei hystyried. Ni allwn dderbyn unrhyw dystiolaeth ar dâp, am na allwn fod yn siwr bod yr un ferswin gan bawb sy’n rhan o’r apêl.

Bydd yr ACLl yn anfon copïau o unrhyw lythyrau o wrthwynebiad neu gefnogaeth a dderbyniwyd yn ystod cyfnod y cais atom. Os ysgrifenasoch at yr ACLl yn ystod cyfnod y cais a’ch bod am wneud mwy o sylwadau, mae’n rhaid i chi wneud yn siwr ein bod yn derbyn 3 chopi o’ch sylwadau o fewn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr gan yr ACLl yn eich hysbysu am yr apêl. Mae hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y derbyniwn yr apêl – yr enw ar hyn yw’r ‘dyddiad dechrau’. Os na chawn eich llythyr o fewn y terfyn amser, ni fydd yr Arolygydd fel arfer yn ystyried eich sylwadau a byddwn yn eu dychwelyd atoch.

Os hoffech gael copi o benderfyniad yr apêl, nodwch hynny yn eich llythyr. Ni fyddwn yn cydnabod eich llythyr oni fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Byddwn yn anfon copïau o’ch llythyr at yr apelydd, yr ACLl a’r Arolygydd. Os byddwn o’r farn bod eich llythyr yn cynnwys sylwadau hiliol, enllibus neu sarhaus, byddwn yn ei ddychwelyd atoch cyn i’r Arolygydd ei weld. Os byddwch yn dileu’r sylwadau hiliol, enllibus neu sarhaus, gallwch anfon eich llythyr atom eto. Ond, mae’n rhaid i ni ei dderbyn cyn i’r terfyn amser ddod i ben. Os ydych am weld beth mae’r apelydd a’r ACLl wedi’i ddweud, dylech allu gweld copïau o’u dogfennau apêl yn swyddfeydd y cyngor lleol.

Ymweld â’r safle

Bydd yr Arolygydd am weld safle’r apêl cyn iddo ef, neu hi, wneud penderfyniad. Ond, gan fod yn rhaid i bawb sy’n ymwneud â’r apêl gyflwyno eu hachos yn ysgrifenedig, nid ydym yn caniatáu unrhyw drafodaeth yn ystod yr ymweliad.

Os gall yr Arolygydd weld digon o’r safle o’r ffordd neu fan cyhoeddus, byddant yn ymweld â’r safle ar eu pennau eu hunain. Os na fydd hynny’n bosibl, bydd yr apelydd a chynrychiolydd yr ACLl yn mynd gyda’r Arolygydd.

Fel arfer, nid oes angen i bobl eraill gymryd rhan yn yr ymweliad â’r safle. Fodd bynnag, os byddwch yn berchen ar eiddo gerllaw a’ch bod am i’r Arolygydd weld safle’r apêl o’ch eiddo, dylech roi gwybod i ni pan fyddwch yn ysgrifennu atom. Yna, byddwn yn eich hysbysu am ddyddiad ac amser yr ymweliad. Bydd yr Arolygydd yn penderfynu a oes angen iddynt fynd ar eich eiddo. Os byddant, mae’n rhaid i’r apelydd a chynrychiolydd o’r ACLl fynd hefyd. Ni allwch drafod yr achos, ond gallwch nodi ffeithiau a nodweddion perthnasol. Weithiau, mae’n anodd gwybod beth y caniateir i chi ddweud, ond dyma enghraifft.

Mae eich cymydog wedi gwneud cais i adeiladu estyniad ar ei gartref, ac rydych wedi ysgrifennu atom i’n hysbysu y bydd yr estyniad hwn yn edrych dros rai o’ch ffenestri. Gallwch ddweud wrth yr Arolygydd: ‘Dyma’r ffenestri a grybwyllais yn fy llythyr.’ Ni allwch ddweud: ‘Edrychir dros y ffenestri hyn oherwydd …’

Ar ôl ymweld â’r safle

Bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu ei benderfyniad, neu ei phenderfyniad, ac yn anfon adroddiad i’r Cynulliad Cenedlaethol. Pan fydd yr Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl, byddwn yn anfon copi o’r penderfyniad at:

  • yr apelydd;
  • yr ACLl;
  • ac unrhyw un arall a ysgrifennodd atom i ofyn am gopi.

Ein nod yw cyflwyno’r penderfyniad o fewn pum wythnos ar ôl ymweld â’r safle. Os bydd y Cynulliad yn penderfynu ar yr apêl, gallai gymryd mwy o amser.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English