Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arall

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad

Trafodaeth o gynigion yr apêl yw gwrandawiad. Yr Arolygydd sy’n arwain y drafodaeth. Mae gwrandawiadau yn rhoi cyfle i bawb sy’n ymwneud â’r apêl fynegi eu barn mewn amgylchedd mwy hamddenol ac anffurfiol nac ymchwiliad cyhoeddus. Mae i wrandawiadau lawer o fanteision, ond nid ydynt yn addas ar gyfer apeliadau:

  • sy’n gymhleth neu’n ddadleuol;
  • sydd wedi peri llawer o ddiddordeb lleol; neu
  • sy’n cynnwys croesholi (holi) tystion.

Os cynhelir gwrandawiad ar gyfer apêl y mae gennych ddiddordeb ynddi, nid oes rhaid i chi fynd iddo. Os byddai’n well gennych, gallwch ysgrifennu atom. Os ysgrifenasoch at yr ACLl yn ystod cyfnod y cais, byddant yn anfon copi o’ch sylwadau atom. Os na wnaethoch hynny, neu rydych am ychwanegu at y sylwadau hynny, gallwch ysgrifennu atom o hyd. Ond mae’n rhaid i chi wneud yn siwr ein bod yn cael tri chopi o’ch sylwadau o fewn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr gan yr ACLl yn eich hysbysu am yr apêl. Mae hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y derbyniwn yr apêl – yr enw ar hyn yw’r ‘dyddiad dechrau’. Os na chawn eich llythyr o fewn y terfyn amser, ni fydd yr Arolygydd fel arfer yn ystyried eich sylwadau a byddwn yn eu dychwelyd atoch. Os byddwn yn ei dderbyn mewn pryd, byddwn yn anfon copi o’ch llythyr at yr apelydd, yr ACLl a’r Arolygydd.

Os hoffech gael copi o benderfyniad yr apêl, nodwch hynny yn eich llythyr. Ni fyddwn yn cydnabod eich llythyr oni fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Byddwn yn anfon copïau o’ch llythyr at yr apelydd, yr ACLl a’r Arolygydd. Os byddwn o’r farn bod eich llythyr yn cynnwys sylwadau hiliol, enllibus neu sarhaus, byddwn yn ei dychwelyd atoch cyn i’r Arolygydd ei weld. Os byddwch yn dileu’r sylwadau hiliol, enllibus neu sarhaus, gallwch anfon eich llythyr atom eto. Ond, mae’n rhaid i ni ei dderbyn cyn i’r terfyn amser ddod i ben. Os ydych am weld beth mae’r apelydd a’r ACLl wedi’i ddweud, dylech allu gweld copïau o’u dogfennau apêl yn swyddfeydd y cyngor lleol.

Sut y cewch eich hysbysu am y gwrandawiad

Byddwn yn cytuno ar ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad gyda’r apelydd a’r ACLl. Nid ydym yn cynnwys unrhyw un arall pan fyddwn yn pennu’r dyddiad. Bydd yr ACLl yn ysgrifennu at bawb a hysbyswyd am yr apêl ac yn rhoi manylion iddynt am y gwrandawiad, fel yr amser a’r lleoliad. Gallai’r ACLl hefyd roi hysbysiad mewn papur lleol yn rhoi’r un wybodaeth.

Cymryd rhan yn y gwrandawiad

Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau mewn swyddfeydd cyngor, neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol ac fel arfer, maent yn para tua hanner diwrnod. Bydd yr Arolygydd yn agor y gwrandawiad drwy egluro manylion yr apêl. Yna, byddant yn mynd drwy rai pwyntiau cyffredin, gan gynnwys gofyn pwy sydd am siarad. Os ydych am siarad yn ystod y cyfnod hwn, dylech roi gwybod i’r Arolygydd, neu gallwch wneud sylwadau ar y cais cynllunio yn ddiweddarach yn y gwrandawiad. Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn rhoi crynodeb o achosion yr apelydd a’r ACLl, ac yn dweud pa bynciau a drafodir yn ystod y gwrandawiad.

Mynegi eich barn

Fel arfer, yr ACLl fydd yn mynegi eu barn hwy ar bwnc yn gyntaf, yna’r apelydd, ac yna unrhyw un arall sydd am wneud sylwadau. Dyma eich cyfle i wneud sylwadau. Er bod gwrandawiadau yn anffurfiol, mae’n rhaid iddynt fod yn drefnus er mwyn i bawb sy’n rhan o’r apêl gael gwrandawiad teg. Felly, mae’n rhaid i chi wneud eich sylwadau a gofyn eich cwestiynau i’r Arolygydd. Ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu i unrhyw un ymyrryd yn y gwrandawiad na chamymddwyn ynddo.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Arolygydd yn awgrymu y dylid parhau â’r gwrandawiad ar safle’r datblygiad arfaethedig. Dim ond os bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad (neu eu cynrychiolwyr) yn gallu bod yn bresennol, ac os na fyddant yn gwrthwynebu’r trefniant, y bydd hyn yn digwydd. Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau yn dod i ben ar ôl unrhyw drafodaeth ar safle’r apêl.

Pobl ag anableddau

Rydym am gynnal pob ymchwiliad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r lleoliad a byddwn wedi gofyn iddynt dalu sylw arbennig i anghenion pobl ag anableddau. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r ymchwiliad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol.

Ar ôl y gwrandawiad

Yn yr un modd â’r weithdrefn ysgrifenedig, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu penderfyniad neu’n anfon eu hadroddiad i’r Cynulliad. Pan fydd yr Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl, byddwn yn anfon copi o’r penderfyniad at:

  • yr apelydd;
  • yr ACLl; ac
  • unrhyw un arall a ysgrifennodd atom i ofyn am gopi.

Ein nod yw cyflwyno’r penderfyniad o fewn saith wythnos ar ôl dyddiad y gwrandawiad. Os bydd y Cynulliad yn penderfynu ar yr apêl, gallai gymryd mwy o amser.

Costau

Yn ystod gwrandawiadau, bydd yr Arolygydd yn dweud y dylid gwneud unrhyw gais am gostau cyn diwedd y gweithrediadau. Gall hyn ddigwydd pan fydd un parti yn honni ei fod wedi talu treuliau diangen wrth ymdrin â’r gweithrediadau o ganlyniad i ymddygiad afresymol yr ochr arall.
Oni bai mai chi yw’r apelydd, nid yw hyn yn debygol o fod yn berthnasol i chi oherwydd os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn apêl, byddwch yn gwneud hynny ar eich traul eich hun. Fodd bynnag, rydym yn cyhoeddi llyfryn ar wahân o’r enw ‘Dyfarnu costau mewn apeliadau cynllunio’, sy’n egluro pryd y gallwch wneud cais am gostau.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English