Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arall

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliad

Dyma’r weithdrefn fwyaf ffurfiol o’r gweithdrefnau apelio,am ei bod fel arfer yn cynnwys apeliadau mwy neu fwy cymhleth. Yn aml, dyma’r achosion lle y cyflwynir tystiolaeth arbenigol a chroesholir tystion. Gallai ymchwiliad bara sawl diwrnod, neu wythnosau hyd yn oed. Nid yw’n llys barn, ond yn aml bydd y gweithrediadau yn ymddangos yn weddol debyg, ac fel arfer, bydd cynrychiolwyr cyfreithiol gan yr apelydd a’r ACLl.

Mae ymchwiliadau yn agored i aelodau o’r cyhoedd, ac er nad oes gennych hael gyfreithiol i siarad, bydd yr Arolygydd fel arfer yn caniatáu i chi wneud hynny. Rydym yn annog pobl leol i gymryd rhan ym mhroses yr ymchwiliad. Yn aml, gall gwybodaeth a barn leol ychwanegu’n werthfawr at y dystiolaeth fwy ffurfiol a roddir gan yr apelydd a’r ACLl.

Fodd bynnag, yn yr un modd â gwrandawiadau, nid oes rhaid i chi fynd i’r ymchwiliad er mwyn mynegi eich barn. Gallwch ysgrifennu atom. Os ysgrifenasoch at yr ACLl yn ystod cyfnod y cais, byddant yn anfon copi o’ch sylwadau atom. Os na wnaethoch hynny, neu rydych am ychwanegu at y sylwadau hynny, gallwch ysgrifennu atom o hyd. Ond mae’n rhaid i chi wneud yn siwr ein bod yn cael tri chopi o’ch sylwadau o fewn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr gan yr ACLl yn eich hysbysu am yr apêl. Mae hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y derbyniwn yr apêl – yr enw ar hyn yw’r ‘dyddiad dechrau’.

Os na chawn eich llythyr o fewn y terfyn amser, ni fydd yr Arolygydd fel arfer yn ystyried eich sylwadau a byddwn yn eu dychwelyd atoch. Os byddwn yn derbyn eich sylwadau mewn pryd, byddwn yn anfon copi o’ch llythyr at yr apelydd, yr ACLl a’r Arolygydd. Os hoffech gael copi o benderfyniad yr apêl, rhowch wybod i ni yn eich llythyr. Ni fyddwn yn cydnabod eich llythyr oni fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Os byddwn o’r farn bod eich llythyr yn cynnwys sylwadau hiliol, enllibus neu sarhaus, byddwn yn ei ddychwelyd atoch cyn i’r Arolygydd ei weld. Os byddwch yn dileu’r sylwadau hiliol, enllibus neu sarhaus, gallwch anfon eich llythyr atom eto. Ond, mae’n rhaid i ni ei dderbyn cyn i’r terfyn amser ddod i ben. Os ydych am weld beth mae’r apelydd a’r ACLl wedi’i ddweud, dylech allu gweld copïau o’u dogfennau apêl yn swyddfeydd y cyngor lleol.

Sut y cewch eich hysbysu am yr ymchwiliad

Byddwn yn cytuno ar ddyddiad ar gyfer yr ymchwiliad gyda’r apelydd a’r ACLl. Nid ydym yn cynnwys unrhyw un arall pan fyddwn yn pennu’r dyddiad. Bydd yr ACLl yn ysgrifennu at bawb a hysbyswyd am yr apêl ac yn rhoi manylion iddynt am yr ymchwiliad, fel yr amser a’r lleoliad. Gallai’r ACLl hefyd roi hysbysiad mewn papur lleol ac mae’n rhaid i’r apelydd roi hysbysiad ar safle’r apêl, yn rhoi’r un wybodaeth.

Cymryd rhan yn yr ymchwiliad

Os ydych am gymryd rhan mewn ymchwiliad, mae angen i chi ystyried yr hyn rydych am ei ddweud a sut rydych am ei ddweud. Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl wneud neu ddarllen datganiad byr yn mynegi eu barn. Os bydd sawl person o’r un farn, mae’n syniad da i un person siarad ar ran y gweddill. Nid yw ailadrodd dadleuon yn yr ymchwiliad yn helpu’r Arolygydd, nac yn gwneud y pwynt yn fwy perthnasol chwaith.

Os ydych am chwarae rôl arweiniol yn yr ymchwiliad a galw eich tystion eich hun, dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Os byddwn yn cytuno â hyn, gallwn ofyn i chi ddarparu datganiad o’ch achos a manylion unrhyw ddogfennau y byddwch yn eu cyflwyno yn yr ymchwiliad. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i chi ddarparu datganiadau ysgrifenedig 4 wythnos cyn dechrau’r ymchwiliad. Os gofynnwn am y wybodaeth hon, a’ch bod yn ei darparu, byddwn yn anfon copïau o ddatganiadau’r apelydd a’r ACLl atoch.

Beth fydd yn digwydd yn yr ymchwiliad

Os byddwch am siarad yn yr ymchwiliad, mae’n bwysig eich bod yno pan fydd yr ymchwiliad yn agor gan mai dyma pryd y bydd yr Arolygydd yn hysbysu pawb am yr amserlen.

Ar ddechrau’r ymchwiliad, bydd yr Arolygydd yn mynd drwy rai materion cyffredin, gan gynnwys gofyn pwy fydd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad. Pan fydd yr apelydd a’r ACLl wedi rhoi eu manylion, bydd yr Arolygydd yn gofyn a oes unrhyw un arall am siarad. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond eich enw a’ch cyfeiriad y dylech eu rhoi a dylech ddweud a ydych o blaid neu yn erbyn y cynnig.

Yna, bydd yr Arolygydd fel arfer yn rhoi amlinelliad o’r hyn a fydd yn digwydd yn yr ymchwiliad. Fel arfer, bydd yr ACLl yn dechrau drwy wneud datganiad agoriadol. Yna, bydd eu tystion yn rhoi eu tystiolaeth a gall yr apelydd eu croesholi (holi). Yna, bydd yr apelydd yn galw eu tystion, a gall yr ACLl eu croesholi.

Mynegi eich barn

Pan fydd pob tyst wedi’i groesholi’n ffurfiol, bydd yr Arolygydd fel arfer yn gofyn a oes unrhyw gwestiynau gan unrhyw un arall sy’n gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig. Dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau, ond mae’n rhaid i chi wneud yn siwr bod eich cwestiynau’n berthnasol i’r dystiolaeth a roddwyd gan y tystion. Ni ddylech ailadrodd cwestiynau a ofynnwyd eisoes. Ni ddylech ddefnyddio cwestiynau fel cyfle i fynegi eich barn ar y cais; cewch gyfle i wneud hynny yn ddiweddarach. Fel arfer, bydd hyn ar ôl gwrando ar dystion yr ACLl a’r apelydd.

Yn ystod ymchwiliad hir, ni allwn ragweld pryd y byddwn yn cyrraedd y cam hwn. Os na allwch aros yn yr ymchwiliad drwy’r amser, rhowch wybod i’r Arolygydd pan fydd yr ymchwiliad yn agor. Bydd yr Arolygydd yn deall ac yn ceisio helpu drwy wrando ar eich sylwadau yn ystod cam gwahanol o’r ymchwiliad, os bydd hynny’n bosibl.

Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn gofyn a ydych yn barod i ateb cwestiynau am eich tystiolaeth. Nid oes rhaid i chi wneud hyn. Os byddwch yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig, bydd cynrychiolydd yr apelydd yn gofyn y cwestiynau hyn. Peidiwch â dychryn. Ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu i unrhyw un ofyn cwestiynau anghyfeillgar neu annheg i chi.

Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben gydag areithiau i gloi gan yr ACLl a’r apelydd. Yn dilyn hyn, fel arfer, bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl. Gan fod yr ymchwiliad wedi dod i ben, ni ellir trafod yr achos ymhellach yn ystod yr ymweliad hwnnw. Mae’r trefniadau’n debyg iawn i’r ymweliadau a wnaed fel rhan o’r weithdrefn ysgrifenedig.

Pobl ag anableddau

Rydym am gynnal pob ymchwiliad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r lleoliad a byddwn wedi gofyn iddynt dalu sylw arbennig i anghenion pobl ag anableddau. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r ymchwiliad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol.

Ar ôl yr ymchwiliad

Bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu eu penderfyniad neu’n anfon eu hadroddiad i’r Cynulliad. Pan fydd yr Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl, byddwn yn anfon copi o’r penderfyniad at:

  • yr apelydd;
  • yr ACLl;
  • unrhyw un arall a gymerodd ran yn yr ymchwiliad; ac
  • unrhyw un arall a ysgrifennodd atom i ofyn am gopi.

Ar gyfer ymchwiliadau y mae’r Arolygydd yn penderfynu arnynt, ac sy’n para am ddiwrnod neu ddau, ein nod yw cyflwyno’r penderfyniad o fewn saith wythnos ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben. Ar gyfer ymchwiliadau sy’n para am gyfnod hwy, neu pan fydd yn rhaid i’r Arolygydd ysgrifennu adroddiad ar gyfer y Cynulliad, bydd y penderfyniad fel arfer yn cymryd mwy o amser.

Costau

Yn ystod ymchwiliadau, bydd yr Arolygydd yn dweud y dylid gwneud unrhyw gais am gostau cyn diwedd y gweithrediadau. Gall hyn ddigwydd pan fydd un parti yn honni ei fod wedi talu treuliau diangen wrth ymdrin â’r gweithrediadau o ganlyniad i ymddygiad afresymol y parti arall.

Oni bai mai chi yw’r apelydd, nid yw hyn yn debygol o fod yn berthnasol i chi oherwydd os byddwch yn dewis cymryd rhan mewn apêl, byddwch yn gwneud hynny ar eich traul eich hun. Fodd bynnag, rydym yn cyhoeddi llyfryn ar wahân o’r enw ‘Dyfarnu costau mewn apeliadau cynllunio’, sy’n egluro pryd y gallwch wneud cais am gostau.

Cwynion

Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau am y penderfyniad, neu’r ffordd rydym wedi ymdrin â’r apêl, ysgrifennwch at:

Y Swyddog Cwynion
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron, Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3889
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: complaints@pins.gsi.gov.uk

Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn a gallwch ddisgwyl ateb llawn o fewn tair wythnos. Fodd bynnag, ni allwn ailystyried apêl os bydd yr Arolygydd neu’r Cynulliad eisoes wedi rhoi penderfyniad arni. Dim ond os caiff y penderfyniad ei herio’n llwyddiannus yn yr Uchel Lys y byddwn yn gwneud hyn.

Yr Uchel Lys

Dim ond ar sail gyfreithiol y gellir herio penderfyniad apêl yn yr Uchel Lys. Er mwyn bod yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i chi ddangos:

  • bod yr Arolygydd, neu’r Cynulliad Cenedlaethol, wedi mynd y tu hwnt i’w pwerau; neu
  • nad oeddem wedi dilyn y gweithdrefnau priodol a’n bod wedi amharu ar eich buddiannau felly.

Os bydd eich her yn llwyddiannus, bydd yr Uchel Lys yn gwrthod penderfyniad gwreiddiol yr apêl ac yn dychwelyd yr achos atom, a byddwn yn edrych arno eto. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y caiff y penderfyniad gwreiddiol ei wrthdroi. Gallai’r Arolygydd ddod i’r un penderfyniad, ond am resymau gwahanol.

Os byddwch yn penderfynu herio penderfyniad yr apêl, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos i ddyddiad penderfyniad yr apêl. Pan fyddwn yn anfon penderfyniad yr apêl atoch, byddwn yn anfon taflen atoch yn egluro eich hawl i’w herio.

Ar ôl yr apêl

Gall unrhyw un wneud cais i’r ACLl am ganiatâd cynllunio ar gyfer yr un safle ar ôl i ni gyhoeddi penderfyniad yr Arolygydd.

Os rhoddwyd caniatâd cynllunio gyda rhai amodau ynghlwm wrtho gan yr Arolygydd, gall yr apelydd ofyn i’r ACLl am ganiatâd i ddileu neu newid rhai o’r amodau hynny. Bydd yr ACLl yn hysbysu pobl â diddordeb am y cais hwnnw a gallwch anfon unrhyw sylwadau a allai fod gennych atynt.

Os bydd yr ACLl yn gwrthod y cais hwnnw, neu os na fyddant yn rhoi penderfyniad o fewn y terfyn amser, mae hawl arall i apelio. Os ysgrifenasoch at yr ACLl ar yr adeg gwneud cais, byddant yn eich hysbysu am unrhyw apêl a gallwch anfon sylwadau atom.

Ein cyfeiriad a’n rhif ffôn:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Man ymholi: 029 2082 3866

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English