Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arall

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 1

Y weithdrefn ysgrifenedig

Amserlen

Chi

Apelydd

ACLl

Apêl a wnaed
(o fewn y terfyn amser o 6 mis)
Rydym yn pennu dyddiad dechrau

Nid yw’n berthnasol.

Maent yn anfon y ffurflen apelio a’r holl ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl. Dylai sail yr apêl ffurfio eu hachos llawn.

Os na fydd yr ACLl am gael gweithdrefn ysgrifenedig, byddwn yn hysbysu’r apelydd ac yn trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad.

O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau

Rydych yn derbyn llythyr am yr apêl gan yr ACLl yn eich hysbysu bod yn rhaid i chi anfon unrhyw sylwadau atom o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau.

Maent yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau ategol gan yr ACLl.

Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau ategol at yr apelydd ac atom ni. Maent hefyd yn ysgrifennu atoch ynglyn â’r apêl.

O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau
(Ni fyddwn fel arfer yn derbyn datganiadau na sylwadau hwyr. Yn hytrach, byddwn yn eu dychwelyd.)

Rydych yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom. Os ydych am gael copi o hysbysiad o benderfyniad yr Arolygydd, mae’n rhaid i chi ofyn am un drwy ysgrifennu atom.

Maent yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom. Dim ond at faterion a godwyd gan yr holiadur ac unrhyw ddogfennau ategol y dylai hyn gyfeirio.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach atom.

O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau

Mae’r apelydd a’r ACLl yn gwneud eu sylwadau ysgrifenedig terfynol.
Ni allwch wneud mwy o sylwadau ysgrifenedig yn ystod y cyfnod hwn.

Maent yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar ddatganiad yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar ddatganiad yr apelydd ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

Penderfyniad:

Ar ôl ymweld â’r safle, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Pan fydd yr Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl, byddwn yn anfon copi o’r hysbysiad o benderfyniad at yr apelydd, yr ACLl ac unrhyw un arall sy’n gofyn i ni am gopi.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English