Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau cynllunio - Os ydych am wneud sylwadau ar apêl rhywun arallAtodiad 2 Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad
|
Amserlen |
Chi |
Apelydd |
ACLl |
|---|---|---|---|
Apêl a wnaed |
Nid yw’n berthnasol. |
Maent yn anfon y ffurflen apelio a’r holl ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl. |
Mae’r ACLl yn ein hysbysu os nad ydynt o’r farn bod gwrandawiad yn addas. |
|
Rydych yn derbyn llythyr am yr apêl gan yr ACLl yn eich hysbysu bod yn rhaid i chi anfon unrhyw sylwadau atom o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau. |
Maent yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau
ategol gan yr ACLl. |
Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau ategol at yr apelydd ac atom ni. Maent yn ysgrifennu atoch ynglyn â’r apêl. |
O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau |
Rydych yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom. Os ydych am gael copi o hysbysiad o benderfyniad yr Arolygydd, mae’n rhaid i chi ofyn am un drwy ysgrifennu atom. |
Maent yn anfon 2 gopi o’u datganiad o’r gwrandawiad atom. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u datganiad o’r gwrandawiad
atom. |
|
O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau |
Mae’r apelydd a’r ACLl yn gwneud eu sylwadau ysgrifenedig
terfynol. |
Maent yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar ddatganiad
yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar
ddatganiad yr apelydd ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom. |
Ar ôl y cyfnod o 9 wythnos, bydd yr ACLl yn eich hysbysu am y trefniadau ar gyfer y gwrandawiad. Gallwch weld holl bapurau’r apêl yn swyddfa’r ACLl. Gallwch fynd i’r gwrandawiad a chymryd rhan yn y drafodaeth o dan arweiniad yr Arolygydd.
Ar ôl y gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Pan fydd yr Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl, byddwn yn anfon copi o’r hysbysiad o benderfyniad at yr apelydd, yr ACLl ac unrhyw un arall sy’n gofyn i ni am gopi.
Site Settings
You are currently viewing information for Wales