Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gorchmynion Mapiau Diffiniol

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

6 Y penderfyniad

6.1 Ymdrinnir â bron pob gorchymyn gan arolygydd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y penderfyniad ar nifer fechan o orchmynion. Pan ddigwydd hyn, byddwn yn dweud pam wrth bawb sy’n ymwneud â’r achos.

6.2 Os yw’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd yn gwneud y penderfyniad, nid yw’n effeithio ar y gweithdrefnau nac ar yr ystyriaethau a nodir ym mhenodau eraill y llyfryn hwn. Byddwn yn egluro’n glir, yn ysgrifenedig, pwy fydd yn gwneud y penderfyniad ar unrhyw orchymyn.

Penderfyniadau gan Arolygydd

6.3 Bydd yr arolygydd yn egluro ei benderfyniad ef neu hi mewn llythyr i’r awdurdod. Bydd y llythyr fel arfer yn:

  • disgrifio’r llwybrau yn y gorchymyn hwn yn fras;
  • crynhoi’r prif bwyntiau a godwyd; a
  • nodi casgliadau a phenderfyniad yr arolygydd.

6.4 Byddwn yn anfon copïau o lythyr yr arolygydd at wrthwynebwyr, at bobl eraill a gafodd ganiatâd gan yr arolygydd i siarad yn ystod yr ymchwiliad a phobl eraill sydd wedi gofyn am gopi.

Penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol

6.5 Bydd yr arolygydd yn anfon adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn argymell o ran a ddylai’r gorchymyn gael ei gadarnhau, ei gadarnhau gydag addasiadau neu na ddylid ei gadarnhau o gwbl.

6.6 Nid oes rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dderbyn argymhelliad yr arolygydd ond mae’n rhaid iddo ystyried popeth sy’n berthnasol. Bydd y llythyr i’r awdurdod yn cael ei lofnodi gan swyddog yr Ysgrifennydd Gwladol.

6.7 Bydd copïau o lythyr yr Ysgrifennydd Gwladol a’r casgliadau o adroddiad yr Arolygydd yn mynd at yr awdurdod ac at bobl eraill a grybwyllwyd yn adran 6.4.

Y mathau o benderfyniadau y gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygwyr eu gwneud

6.8 Wrth wneud penderfyniad, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r arolygydd dri dewis:

  • cadarnhau’r gorchymyn fel y’i gwnaed;
  • cadarnhau’r gorchymyn gyda pheth newidiadau; neu
  • peidio â chadarnhau’r gorchymyn.

6.9 Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd yn cadarnhau’r gorchymyn gyda pheth newidiadau iddo, bydd ef neu hi mewn gwirionedd yn newid ei gynnwys. Gall y newidiadau fod yn gymharol fach neu’n rhai mawr. Bydd yr arolygydd yn egluro’r union newidiadau yn glir yn y llythyr.

6.10 Mae’n rhaid hysbysebu’r mathau canlynol o addasu:

  • symud llinell y llwybr;
  • cynyddu lled y llwybr;
  • dangos llwybr newydd ar y gorchymyn;
  • dileu llwybr cyfan neu rhan o lwybr a ddangosir yn y gorchymyn; neu
  • newid y math o lwybr a ddangosir yn y gorchymyn (er enghraifft, llwybr troed yn hytrach na llwybr ceffyl).

6.11 Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl wneud gwrthwynebiadau i’r newidiadau.

6.12 Bydd gwrthwynebiadau i’r newidiadau yn cael eu hystyried gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan arolygydd (fel arfer yr un arolygydd â’i hawgrymodd). Gall fod ymchwiliad arall hefyd.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English