Ffurflenni
Mae'r ffurflenni ar y dudalen yma yn ddilys yng Nghymru yn unig - am wybodaeth ar apelio yn Lloegr, ymwelwch ag adran Lloegr y safle.
Am ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r ffurflenni, gwelwch ein tudalen
Cyhoeddiadau. Os ydych
angen cymorth neu ffurflen mewn ffurf gwahanol, cysylltwch ein Swyddfa.
Mae'r holl ffurflenni ar gael ac yn agor o fewn ffenestr pori newydd.
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Cynllunio (A78)
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon os yw eich cais
cynllunio wedi: ei wrthod, heb ei benderfynu arno o fewn y cyfnod priodol
(8 wythnos fel arfer), neu wedi'i ganiatáu yn ddarostyngedig i
amodau rydych yn eu gwrthwynebu. Defnyddiwch y ffurflen hon hefyd os yw
eich cais am gymeradwyaeth neu os yw materion a gadwyd yn ôl wedi'u
gwrthod neu wedi'u caniatáu yn ddarostyngedig i amodau rydych yn
eu gwrthwynebu. Neu os oes unrhyw fater arall sy'n ofynnol gan amod sydd
ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio blaenorol wedi'i wrthod.
Ffurfiau: Ffurflen
Apêl Cynllunio (A78) mewn ffurf PDF 82KB
Enw'r Ffurflen: Tystysgrif Perchnogaeth
Safle
Disgrifiad: Efallai y bydd angen i chi gyfeirio at y
rhain pan fyddwch yn cwblhau'r ffurflen apêl cynllunio. Maent yn
esbonio'r pedwar math gwahanol o dystysgrifau ac yn cynnwys copi o'r hysbysiad
y bydd angen i chi ei gyflwyno i berchnogion y safle neu ei gyhoeddi mewn
papur newydd.
Ffurfiau:
Nodiadau Canllaw ar gyfer
cwblhau tystysgrifau perchenogaeth safle (Apeliadau Cynllunio) (Ffurf
PDF
24KB)
Nodiadau Canllaw ar gyfer cwblhau
tystysgrifau perchenogaeth safle (Apeliadau Cynllunio) (Ffurf Word
84KB)
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Hysbysebion
Disgrifiad: Dylid ei defnyddio hefyd ar gyfer apeliadau
yn erbyn gwasanaeth Hysbysiad Dirwyn i Ben.
Ffurfiau: Ffurflen Apêl Hysbysebion mewn ffurf Word
68KB
Enw'r Ffurflen: Holiadur Apêl
- Gorfodaeth ac Adeiladau Rhestredig/Ardal Cadwraeth (A39 & A174)
Disgrifiad: At ddibenion awdurdodau cynllunio lleol mewn
apeliadau gorfodi. Mae'r holiadur yn darparu gwybodaeth hanfodol sy'n
ymwneud â'r apêl.
Ffurf: Holiadur Apêl
- Gorfodaeth ac Adeiladau Rhestredig/Ardal Cadwraeth (A39 & A174)
mewn ffurf PDF
18KB
Enw'r Ffurflen: Holiadur Apêl
- Cynllunio ac Adeiladau Rhestredig (A78 & A20)
Disgrifiad: At ddibenion awdurdodau cynllunio lleol mewn
apeliadau cynllunio ac apeliadau adeilad rhestredig/cadwraeth. Mae'r holiadur
yn cynnwys gwybodaeth hanfodol sy'n ymwneud â'r apêl.
Ffurf: Holiadur
Apêl - Cynllunio ac Adeiladau Rhestredig (A78 ac A20) mewn ffurf
PDF
20KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Hysbysiad Gorfodaeth (A174)
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon os cyflwynwyd
hysbysiad gorfodi i chi. (Noder bod ffurflen ar wahân ar gyfer hysbysiadau
adeilad rhestredig/ardal gadwraeth)
Ffurf: Ffurflen
Apêl Hysbysiad Gorfodaeth (A174) mewn ffurf PDF
69KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Hysbysiad Gorfodaeth Adeilad Rhestredig (A39)
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon os cyflwynwyd
i ch hysbysiad gorfodi sy'n ymwneud ag adeilad rhestredig, neu os yw'r
hysbysiad yn ymwneud â dymchwel adeilad anrhestredig mewn ardal
gadwraeth.
Ffurf: Ffurflen
Apêl Hysbysiad Gorfodaeth Adeilad Rhestredig (A39) mewn ffurf PDF 72KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen apêl
addasu neu ollwng rhwymedigaethau cynllunio (A106)
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon os yw eich cais
i addasu neu ollwng rhwymedigaeth gynllunio wedi'i wrthod, neu heb ei
benderfynu o fewn y cyfnod priodol (8 wythnos fel arfer)
Ffurf: Ffurflen
Apêl addasu neu ollwng rhwymedigaethau cynllunio (A106) mewn ffurf
Word
60KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Deddf Diogelu'r Amgylchedd - Adran 43 Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff
1994
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud apêl
yn erbyn penderfyniad Asiantaeth yr Amgylchedd i: wrthod cais am drwydded;
gwrthod cais i newid y drwydded; rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amodau;
newid yr amodau yn y drwydded; atal trwydded; diddymu trwydded; gwrthod
cais i drosglwyddo trwydded; neu fethiant Asiantaeth yr Amgylchedd i'ch
hysbysu o'i phenderfyniad o fewn y cyfnod priodol yn dilyn y cais.
Ffurf: Ffurflen
Apêl Deddf Diogelu'r Amgylchedd - Adran 43 Rheoliadau Trwyddedu
Rheoli Gwastraff 1994 mewn ffurf PDF
26KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Deddf Adnoddau Dwr 1991 - Adran 43 Rheoliadau Adnoddau Dwr (Trwyddedau)
1965
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud apêl
yn erbyn penderfyniad Asiantaeth yr Amgylchedd i: wrthod trwydded i echdynnu
dwr a/neu gronni dwr fel y disgrifiwyd; rhoi trwydded yn ddarostyngedig
i amod fel y disgrifiwyd; neu fethiant Asiantaeth yr Amgylchedd i roi
hysbysiad o'i phenderfyniad o ran y cais, neu i gyfeirio'r cais at Gynulliad
Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod priodol a nodwyd yn Erthyg l 10(4)
o reoliadau 1965
Ffurf: Ffurflen
Apêl Deddf Adnoddau Dwr 1991 - Adran 43 Rheoliadau Adnoddau Dwr
(Trwyddedau) 1965 mewn ffurf PDF
23KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Apêl
Hysbysiad Gorfodi Arbennig
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych wedi
cael hysbysiad gorfodi arbennig o dan adran 294 Deddf Cynllunio Gwlad
a Thref 1990
Ffurfiau: Ffurflen
Apêl Hysbysiad Gorfodi Arbennig mewn ffurf Word
87KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen apêl
Gwrychoedd Uchel
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hwn os ydych eisiau
apelio yn erbyn cyflwyno hysbysiad adfer neu yn erbyn penderfyniad Cyngor
i beidio ag ymdrin â chwyn yn erbyn gwrych uchel.
Ffurfiau: Ffurflen
apêl Gwrychoedd Uchel mewn ffurf Word
65KB
Enw'r Ffurflen: Ffurflen Gorchmynion
Cadw Coed
Disgrifiad: Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud apêl
yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol i: wrthod caniatâd;
rhoi caniatâd yn ddarostyngedig i amodau; dyroddi tystysgrif erthygl
5 ar wrthod caniatâd neu roi caniatâd yn ddarostyngedig i
amodau; rhoi cyfarwyddyd ailblannu ar ganiatâd i gymynu rhan o goetir;
methu â hysbysu'r ymgeisydd o'i phenderfyniad o fewn 8 wythnos o
dderbyn y cais .
Ffurfiau: Ffurflen
Gorchmynion Cadw Coed PDF
13KB
Ffurflen Gorchmynion Cadw Coed mewn
ffurf Word
73KB
Sut i edrych ar ddogfennau PDF
Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio
Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|