AROLWG BODDHAD CWSMERIAID 2004Adroddiad Terfynol yr Arolygiaeth Gynllunio - Mawrth 2005CyflwyniadMae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi comisiynu arolygon boddhad cwsmeriaid blynyddol, gyda phob arolwg yn ymdrin ag un o feysydd yr Arolygiaeth megis apeliadau cynllunio, ymholiadau cynlluniau datblygu neu orchmynion hawl tramwy. Yn 2002, comisiynnodd yr Arolygiaeth arolwg boddhad cwsmeriaid a oedd yn ymdrin â'r rhan fwyaf o agweddau ar waith yr Arolygiaeth, a lluniwyd yr arolwg hwn fel y cyntaf o arolygon tair blynedd i nodi boddhad, a'r cynnydd a wnaed gan yr Arolygiaeth o ran gweithredu ar y canlyniadau. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r trydydd arolwg o'r tri arolwg blynyddol hyn, a wnaed yn 2004, ac yn cymharu canfyddiadau'r tri arolwg pan fo hynny'n briodol. Cyn yr arolwg, gwnaed cyfres o gyfweliadau manwl gyda chynrychiolwyr o broffesiwn y gyfraith, cyrff cynllunio, asiantaethau statudol a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn materion cynllunio. Cynhaliwyd pedwar grwp ffocws hefyd, gyda grwp yr un ar gyfer cwynwyr, trydydd parti, apelyddion heb gynrychiolaeth ac asiantaethau. Bu'r cyfweliadau manwl a'r grwpiau ffocws o gymorth o ran dylunio'r arolwg gan ddarparu gwybodaeth fanwl am farn cwsmeriaid a fyddai wedi bod yn anodd ei chael o'r holiadur. Roedd holiadur arolwg 2004 yn debyg i'r hyn a ddefnyddiwyd mewn arolygon blaenorol er mwyn gallu cymharu'n ddibynadwy. Dewiswyd 5,500 o gwsmeriaid o gofnodion cwsmeriaid yr Arolygiaeth i gymryd rhan yn yr arolwg a gynhaliwyd drwy'r post. Rhannwyd y sampl yn haenau yn seiliedig ar y math o gais (apeliadau cynllunio, apeliadau gorfodi, hysbysebion, ceisiadau wedi'u galw i mewn ayyb) ac ar y math o ymatebwr (awdurdod lleol, asiantiau, apelyddion unigol a phartïon sydd â diddordeb mewn materion cynllunio), gan ddewis ar hap o fewn yr haenau. Dychwelwyd cyfanswm o 1,852 o holiaduron, gan roi cyfradd ymateb o 33%. Cofnodir y prif ganfyddiadau isod dan gyfres o benawdau, ac mae unrhyw wahaniaethau rhwng yr arolygon wedi eu nodi yn y testun. Arolwg
Boddhad Cwsmeriad 2004 Adroddiad Olaf
Sut i edrych ar ddogfennau PDFGallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |